Ymweld â'r Eisteddfod ar ôl dysgu Cymraeg mewn blwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Jace Owen: "Mae pobl wedi helpu fi'n fawr iawn i ymarfer fy Nghymraeg"

Mae Americanwr sy'n ddisgynnydd posib i rai o'r Cymry cyntaf i groesi Môr yr Iwerydd wedi ymweld â'r Eisteddfod am y tro cyntaf - ar ôl dim ond dechrau dysgu Cymraeg y llynedd.

Fe ddechreuodd Jace Owen o San Diego, Califfornia ddysgu'r iaith ar Duolingo yn ystod y pandemig, cyn symud ymlaen i gael gwersi pellach gyda Say Something in Welsh.

Mae nawr wedi ymweld â Chymru am y tro cyntaf, gan gynnwys mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen Llŷn a hel ei achau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Dywedodd ei fod wedi cael croeso "anhygoel" yng Nghymru, a bod "pobl wedi helpu fi'n fawr iawn i ymarfer fy Nghymraeg".

'Haws na Sbaeneg'

Roedd gan Jace Owen ddiddordeb yng Nghymru gan fod ei deulu'n gwybod fod un o'u cyn-deidiau wedi ymfudo i'r Unol Daleithiau dros 370 o flynyddoedd yn ôl.

Fe ymchwiliodd yn y Llyfrgell Genedlaethol a dod o hyd i un person oedd yn rhannu'r cyfenw ac wedi croesi draw ar yr adeg gywir.

"Nes i benderfynu teithio i Gymru er mwyn gweld y wlad lle roedd fy nghyn-deidiau'n arfer byw," meddai.

"Dwi'n eitha' siŵr roedd fy nghyn-deidiau'n arfer byw ym Machynlleth. Aethon nhw i America ym 1650."

Disgrifiad o’r llun,

Jace Owen ar faes yr Eisteddfod ym Moduan yr wythnos hon

Yn sgil y diddordeb hwnnw fe benderfynodd hefyd i ddechrau dysgu'r iaith - gan hyd yn oed deimlo bod Cymraeg yn haws i'w ddysgu na Sbaeneg.

"Nes i ddechrau dim ond efo ychydig o gyrsiau Duolingo yn ystod y pandemig yn fy 'stafell," meddai.

"Ar ôl y pandemig, yn y brifysgol, o'n i'n dysgu Sbaeneg, ond o'n i methu cofio geiriau Sbaeneg, ond o'n i'n cofio geiriau Cymraeg."

Mwynhau'r gerddoriaeth werin

Pan drefnodd ymweliad â Chymru dros yr haf eleni a sylweddoli bod yr Eisteddfod ymlaen yr un pryd, roedd "rhaid" i Jace gael blas ohono.

"Dwi'n meddwl bod yr Eisteddfod yn bwysig iawn i Gymru," meddai. "Mae'n rhan fawr o beth sy'n gwneud Cymru'n un."

Roedd y cyfle i barhau i ymarfer ei Gymraeg drwy sgwrsio gyda phobl go iawn yn hytrach na dros ap yn un hynod werthfawr iddo.

"Dwi wedi mwynhau cerdded o gwmpas," meddai. "Mae Pen Llŷn yn hyfryd iawn, mae'r ardal yn hyfryd iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jace Owen yn bwriadu dychwelyd i Gymru eto i weld rhagor o'r wlad, ar ôl canmol y golygfeydd "hyfryd" a'r croeso cynnes

"Hefyd gwrando ar y gerddoriaeth, mae pobl wedi helpu fi'n fawr iawn i ymarfer fy Nghymraeg.

"Dwi'n mwynhau'r gerddoriaeth werin. Mae'r traddodiad yn fwy hen na'r ddinas o ble dwi'n dod. Mae hefyd yn haws i fi ddeall y geiriau!"

Er nad yw'n hawdd iddo ddod o hyd i siaradwyr Cymraeg i ymarfer gyda nhw yn yr UDA, mae Jace am barhau i ymarfer "achos dwi'n caru'r iaith".

"Dwi isio dal ati," meddai. "Dwi'n dweud wrth fy nheulu dwi isio anghofio sut i siarad Saesneg!

"Dwi'n mynd i ddod 'nôl i Gymru yn y dyfodol yn siŵr."

Pynciau cysylltiedig