Eisteddfod: Dathlu llwyddiant Llŷn wrth droi golygon at 2024
- Cyhoeddwyd

Mae Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd wedi bod y Brifwyl "roedd y trefnwyr wedi gobeithio amdani", yn ôl cadeirydd y pwyllgor gwaith.
A hithau'r diwrnod olaf o gystadlu, mae disgwyl i filoedd heidio i Foduan wrth ollwng y llen ar "wyth diwrnod llwyddiannus ym mherfeddion Llŷn".
Wrth i un Brifwyl ddod i ben mae hefyd edrych ymlaen at Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, wrth i'r paratoadau i'w chroesawu ymhen 12 mis godi stêm.
Ond er yn ardal wahanol iawn i Lŷn - yn ieithyddol yn ogystal â'i hanes diwydiannol - mae cadeirydd y pwyllgor gwaith yno yn benderfynol o adael gwaddol o ran yr iaith Gymraeg.
'Allwch chi ddim mynd lot yn fwy gorllewinol'
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fe ddywedodd cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd, Michael Strain: "Mae pobl wedi bod yn dod fyny ata i a llongyfarch y criw i gyd - y pwyllgor gwaith, y gwirfoddolwyr, y cannoedd sydd wedi cyfrannu tuag at lwyddiant y Steddfod yma.
"Mae'r staff wedi bod yn gweithio oriau mawr am fisoedd, ac yn rhoi andros o ymdrech i mewn.
"Cydweithio ydy o, a thrwy'r holl gydweithio yma 'da ni'n cyrraedd y Steddfod lwyddiannus 'da ni wedi'i gael."

Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd, Michael Strain, a chadeirydd Pwyllgor Gwaith Rhondda Cynon Taf 2024, Helen Prosser
Gyda Phrifwyl Llŷn ac Eifionydd wedi wynebu oedi o ddwy flynedd oherwydd y pandemig, dywedodd Mr Strain ei bod hi wedi bod yr ŵyl roedd y trefnwyr wedi gobeithio amdani.
"'Da ni mewn cae ym mherfeddion Llŷn, a ma' creu rhywbeth fel hyn yn y lleoliad yma yn rhywbeth roedd lot o bobl wedi dweud wrtha i, 'Fydd o byth eto. Mae'r Steddfod wedi mynd yn rhy fawr'.
"Felly i ddod i fan'ma - allwch chi ddim mynd lot yn fwy gorllewinol na hyn yng ngogledd Cymru - mae'r ffaith ein bod ni wedi gallu gosod hi fan'ma, a bod pobl wedi cael hi'n eithaf hwylus i fynd a dod, yn bwysig iawn i mi."
'Bob dim 'di dod at ei gilydd'
Fe ychwanegodd ei fod yn teimlo bod "Eisteddfod deithiol yn rhywbeth sy'n sylfaenol i'r Brifwyl".

Mae'r croeso wedi bod yn gynnes ar draws Llŷn ac Eifionydd

Mae degau o filoedd wedi heidio i Foduan
"Pan ydych chi'n trefnu rhywbeth fel hyn, mae tair blaenoriaeth.
"Yn gyntaf, cadw pobl yn ddiogel - mae 'na 15,000 o bobl neu fwy yma, a 5,000 o bobl ifanc ym Maes B, ac mae 'na waith edrych ar ôl y rheiny i gyd.
"Yn ail mae isio g'neud yn siŵr bod y cyllid yna - 'sa gas gen i droi 'rownd a d'eud bo' ni 'di gneud colled a'i bod hi wedyn yn dalcen caled i drefnwyr y flwyddyn nesa'.
"Mae 'na £6.5m wedi cael ei wario ar y Steddfod yma. Mae 'na £506,000 wedi cael ei godi gan y pwyllgor lleol, sy'n swm aruthrol, ond mi ydan ni wedi cael pedair blynedd i 'neud hynny.
"Mae bob dim 'di dod at ei gilydd, a mater o gydweithio gyda channoedd o bobl ydy o."
Eisteddfod wledig i Eisteddfod drefol
Dros y 12 mis nesaf bydd y sylw'n troi at Rhondda Cynon Taf wrth i dref Pontypridd baratoi i'w chynnal yn 2024.
Y bwriad yw defnyddio Parc Ynysangharad a rhannau o'r dref ar gyfer yr ŵyl, gan greu "Eisteddfod drefol, amgen a chyffrous, sy'n cyfuno'r ardal leol gyda'r ŵyl ei hun".

Bydd yr Eisteddfod yn symud o ardal wledig Llŷn i dref Pontypridd y flwyddyn nesaf
Yn siarad ar Dros Frecwast fe ddywedodd cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, Helen Prosser: "Mae pobl llawn cyffro achos 'da ni'n mynd o gae yng nghefn gwlad Cymru i ganol un o'n trefi," meddai, gan ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.
"Mae gyda ni her a hanner o'n blaenau ni, ond mae pobl yn dweud eu bod yn edrych ymlaen at Eisteddfod wahanol y flwyddyn nesaf.
"Dwi'n meddwl fod rhywbeth wedi newid yn ein seicoleg ni, bod ni nawr cymaint isie Eisteddfod deithiol 'da ni'n derbyn fod Eisteddfodau am amrywio o un lleoliad i'r llall.
"Wir mae pobl wedi bod llawn cyffro ac mae mwy o bobl wedi bod yn mynd draw i'n stondin ni ers y cyhoeddiad dydd Llun, er mwyn trefnu llety ac ati."
Maes B o fewn y parc
"Bydd Maes B o fewn y ffiniau [Parc Ynysangharad], ac oedd hynny'n rhywbeth oedd yn bwysig iawn i ni o ran diogelwch y bobl ifanc.
"'Da ni mewn ardal drefol hefo llawer o draffig ac ati, felly fydd Maes B o fewn y parc."
Ychwanegodd: "Mae popeth yn ei le erbyn hyn, mi fydd cyhoeddiad ym mis Medi nawr a byddwn yn galw ar bobl i fynegi diddordeb er enghraifft mewn dod a'u carafanau nhw.
"Mae 'na ddau le posib, gan ddibynnu faint o bobl fydd isie dod, ond mae popeth o fewn pellter rhesymol iawn, yn amlwg wedyn gyda bysiau gwennol.

Bydd Maes B o fewn ffiniau Parc Ynysangharad, yn ôl Helen Prosser
"Ond y'n ni hefyd yn gobeithio'n fawr fydd Metro De Cymru'n barod fel bod ni'n gallu cael Eisteddfod werdd a phobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gymaint â phosib.
"Os bydd popeth yn iawn gyda'r Metro mi fydd 'na bedwar trên yr awr o fewn y cymoedd, lan i Aberdâr, lan i Dreorci, heb sôn am ddod i Gaerdydd."
Nawr yn wynebu'r her o godi arian i'w chynnal, fe ychwanegodd: "Yr addewid yw ein bod yn gwneud ein gorau glas.
"Mae 'na lu o weithgareddau eisoes ar y gweill, ond y'n ni isie cael hwyl wrth godi arian a chodi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg wrth godi arian."


Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2023
- Cyhoeddwyd8 Awst 2023
- Cyhoeddwyd7 Awst 2023