Cynnydd sylweddol yn y galw am help ar Yr Wyddfa

  • Cyhoeddwyd
Achub mynyddFfynhonnell y llun, Jethro Kiernan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis eisoes wedi cael eu galw i 182 o ddigwyddiadu eleni

Mae'r galw ar wasanaethau'r achubwyr sy'n helpu pobl mewn trafferthion ar Yr Wyddfa wedi cynyddu'n sylweddol eleni.

Yn ôl Tîm Achub Mynydd Llanberis, roedd nifer y galwadau am gymorth 18% yn uwch dros wyth mis cyntaf 2023 o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Awgrymodd yr is-gadeirydd, Gruff Owen, y gallai'r sefyllfa fod yn anghynaladwy os ydy nifer y digwyddiadau brys yn parhau i dyfu.

Mae'n credu hefyd y gallai'r flwyddyn yma dorri'r record am nifer y galwadau i'w gwasanaeth.

'Y flwyddyn brysuraf erioed'

"Adeg yma'r flwyddyn ddiwethaf, roedden ni o gwmpas 151 o ddigwyddiadau i'r tîm," esboniodd.

"Eleni 'dan ni wedi cyrraedd 182. Felly mae 'na gynnydd mawr y flwyddyn yma.

"'Dan ni'n disgwyl gweld ym mis Awst rhyw 30 neu 40 o ddigwyddiadau.

"Os ydy hynna'n digwydd eleni, fyddan ni'n cael y flwyddyn brysuraf erioed."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gruff Owen yn poeni y gallai'r sefyllfa fod yn anghynaladwy os ydy nifer y digwyddiadau brys yn parhau i dyfu

Gwirfoddolwyr sy'n rhedeg timau achub mynydd fel hwn, ac ar hyn o bryd mae 'na 55 o bobl yn rhan o griw Llanberis.

Ymateb i rhwng 80 a 100 digwyddiad y flwyddyn oedd y gwasanaeth pan ddechreuodd Gruff Owen roi ei amser i'r achos tua 15 mlynedd yn ôl.

Bellach, mae'n poeni nad oes ganddyn nhw'r bobl na'r adnoddau i ymateb i'r galw.

'Mwy nag un digwyddiad ar y tro'

"'Dan ni rŵan mewn sefyllfa lle 'dan ni'n delio efo mwy nag un digwyddiad ar y tro," meddai.

"'Dan ni wedi bod yn lwcus hyd yn hyn - fel arfer maen nhw'n ddigwyddiadau sydd ddim yn rhy ddifrifol.

"Ond mater o amser fydd o pan fyddan ni'n gorfod delio efo dau neu dri digwyddiad difrifol ar yr un tro a fyddan ni'n eitha' tenau efo aelodau i helpu."

Ffynhonnell y llun, Rich Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae 55 o wirfoddolwyr yn rhan o Dîm Achub Mynydd Llanberis

Rhan o'r ateb, ym marn Mr Owen, ydy denu mwy o bobl i wirfoddoli fel rhan o'r tîm.

Yr agwedd arall ydy cydweithio â'r sefydliadau perthnasol i godi ymwybyddiaeth am beryglon y mynyddoedd mewn ardal sy'n hynod boblogaidd ymhlith cerddwyr newydd, yn ogystal â rhai profiadol.

Ar hyn o bryd does dim ystadegau swyddogol ar gael am nifer yr ymwelwyr â'r Wyddfa ers diwedd 2022, ac felly dim sicrwydd bod hynny'n rheswm dros y galw cynyddol ar y tîm achub mynydd.

Ond mae tua 600,000 o bobl y flwyddyn yn dod i ddringo'r Wyddfa bob blwyddyn - a rhai ohonyn nhw ddim yn ymwybodol o beryglon y mynyddoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angela Jones yn erfyn ar bobl i feddwl am "eu hôl troed digidol nhw hefyd"

"Be' sy'n achosi'r rhan fwyaf o broblemau… ydy pobl sydd ddim wedi deall bod Yr Wyddfa yn fynydd anodd i'w ddringo - mae pob un llwybr yn heriol," meddai Angela Jones, rheolwr partneriaethau gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

"Pan 'dach chi'n dod yma - [mae angen] cynllunio o flaen llaw, gwybod pa fath o le 'dach chi'n dod ato fo, lle 'dach chi'n mynd, lle da chi'n mynd i barcio, a be' 'dach chi ei angen yn eich bag ar gyfer diwrnod ar Yr Wyddfa ym mhob un tywydd.

"Os buasa' pobl rili yn meddwl am be' maen nhw'n ei wneud o flaen llaw ac yn cynllunio'n gall, wedyn gobeithio fydd 'na lai o bwysau ar y timau achub mynydd."

'Meddwl am ôl troed digidol'

Mae'r parc hefyd dweud bod y cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith ar ba leoliadau sy'n boblogaidd a'r math o dwristiaid sy'n dod i lethrau'r Wyddfa.

Yn ddiweddar, mae delweddau o raeadrau Afon Cwm Llan, wrth ymyl Llwybr Watkin sy'n arwain o ardal Nant Gwynant i'r copa, wedi magu enwogrwydd ar TikTok ac Instagram.

"'Dan ni wedi gweld niferoedd yn cynyddu yn eithriadol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn i gyd wedi dod o bobl yn rhannu lluniau o'r pyllau a'r rhaeadrau ar y llwybr," meddai Ms Jones.

"Un peth 'sŵn i'n ofyn i bobl… ydy i feddwl dim jyst am eu hôl troed nhw wrth adael yr ardal, ond hefyd eu hôl troed digidol nhw hefyd.

"Pan mae pobl yn rhannu lleoliadau mae o wedyn yn hyrwyddo llefydd i bobl eraill fynd i weld â nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tîm achub mynydd yn gobeithio symud o hen gapel yn Nant Peris i bencadlys newydd, modern

Wrth iddyn nhw edrych i ddenu mwy aelodau, mae Tîm Achub Mynydd Llanberis hefyd yn apelio am roddion ariannol er mwyn gallu parhau a'u gwaith.

Eu nod ydy symud i bencadlys newydd, modern, gan fod eu cartref mewn hen gapel yn Nant Peris yn gyfyng dan y pwysau presennol.