Cwpl yn 'lwcus i oroesi' wrth i lori ddinistrio tŷ

  • Cyhoeddwyd
difrod sylweddol i'r tyFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y tŷ ei ddifrodi'n sylweddol yn y digwyddiad

Mae gyrrwr lori goed a gollodd reolaeth ar ei gerbyd gan ddinistrio tŷ teras bron yn llwyr, wedi ei ddedfrydu.

Roedd Christopher Wiggins, 42, o ardal Sblot, Caerdydd, yn cario llwyth 26 tunnell o foncyffion coed o goedwig pan darodd ei lori yn erbyn y bwthyn ar lôn wledig yn Sir Fynwy.

Dywed perchnogion y bwthyn ym mhentref Llangua ger Y Fenni, eu bod yn teimlo'n ffodus i oroesi'r digwyddiad.

Roedd cymdogion wedi gorfod gadael eu cartrefi ar y pryd am bod Heddlu Gwent yn pryderu am eu diogelwch.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Collodd y lori ei llwyth 26 tunnell o goed yn y gwrthdrawiad

Roedd Bryony Francis, 53, yn y gegin yn ei chartref pan darodd y lori y tŷ, gan golli'r llwyth o goed ac achosi difrod sylweddol.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Mr Wiggins wedi colli rheolaeth ar ei lori wrth gymryd cornel yn rhy gyflym.

Cafodd ei ganfod yn ddi-euog o yrru'n beryglus ond yn euog o yrru'n ddiofal ym mis Mai 2021.

Yn y llys ddydd Llun cafodd ddirwy o £700, costau o £620 a gorchymyn i dalu £70 i berchennog y tŷ, yn ogystal ag wyth pwynt cosb ar ei drwydded yrru.

Wrth ei ddedfrydu dywedodd y cofiadur David Warner: "Fe wnaethoch yrru [eich lori] mewn modd diofal yn yr ystyr eich bod wedi troi'r gornel ar gyflymder, a oedd yn ôl eich cyfaddefiad eich hun mewn cyfweliad, yn debygol o fod yn rhy uchel i'r cerbyd yna hefo'r llwyth yna ar y gornel yna.

"Rwyf yn derbyn mai camfarn oedd hyn yn hytrach na cham bwriadol neu ddi-hid."

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Roedd waliau blaen ac ochr y tŷ wedi dymchwel

Ar ran Wiggins, dywedodd Harry Baker ei fod yn gweithio gydag asiantaeth ar y pryd, a'i fod wedi cael ar ddeall ei bod yn annhebygol y bydd yn cael unrhyw waith nawr.

"Yn y bon does ganddo ddim incwm nawr," meddai.

Mewn cyfweliad yn dilyn y gwrthdrawiad dywedodd Bryony Francis ei bod wrthi'n paratoi cinio pan glywodd ergyd anferthol a achosodd y drysau i glepian a'r cotiau i ddisgyn oddi ar eu bachau.

"Roedd 'na ruthr o wynt a llwch a darodd fy wyneb, ac yna aeth popeth yn dawel," meddai.

"Doedd gen i ddim syniad beth oedd wedi digwydd."

Aeth i fyny'r grisiau i weld bod wal flaen y tŷ wedi dymchwel a bod ei stafell fyw a'i llofft yn agored i'r byd.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron

"Ceisiais agor y drws o'r gegin i'r stafell ffrynt ond roedd yn pallu agor felly mi wyddwn fod y nenfwd wedi disgyn.

"Es i lan y grisiau, agor y drws ac fe welwn fod waliau ffrynt ac ochr y tŷ wedi mynd.

"Roedd yn edrych fel bombsite, ac roedd boncyff, tua 30 i 40, ymhobman."

Dywedodd Ms Francis a'i gŵr, John Clark, 55, eu bod yn teimlo'n ffodus i fod yn fyw wedi'r digwyddiad.

"Rydym yn ffodus iawn. Pe bai fy ngŵr adref byddai'n eistedd yn y stafell ffrynt yn ôl pob tebyg a gallwn fod yn chwilio am gorff heddiw."

Dywedodd ei fod y le drwg am ddamweiniau.

"Mae'r cyfyngiad cyflymder yn 60mya ond mae ar ran lle mae'r ffordd yn culhau'n sylweddol mewn byr amser," meddai.

Pynciau cysylltiedig