Pryder am effaith cynlluniau fferm solar ar gefn gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae Craig y Perchyll neu Graig y Pal, fel mae'n cael ei adnabod yn lleol, yn gefnen o dir sy'n ymestyn uwchlaw pentref Glais yng Nghwm Tawe - mae'n gynefin i rywogaethau prin ac yn encil i bobl leol ers degawdau lawer.
Mae cynlluniau ar y gweill gan ddau gwmni o du allan i Gymru - Canadian Solar a Windel Energy - i ddefnyddio'r tir, sydd gyfwerth â maint 95 o gaeau pêl-droed, ar gyfer fferm solar a fydd yn gallu cynhyrchu 20 megawatt o drydan adnewyddadwy.
Ond mae trigolion lleol yn gwrthwynebu'r cynlluniau'n chwyrn oherwydd y dewis o dir.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fod egni adnewyddadwy yn hanfodol i ddyfodol Cymru "gan nad oes peryg cystal i rywogaethau na chynhesu byd eang ei hun".
'Andwyol i fioamrywiaeth'
Mae Dewi Lewis, naturiaethwr sy'n byw gerllaw, yn poeni am yr effaith y caiff hyn ar fyd natur.
Dywedodd: "'Dw i'n meddwl bod datblygiad fel 'ma yn andwyol iawn i holl system bioamrywiaeth yn yr ardal yma."
Ychwanegodd ei bod yn ardal bwysig "nid yn unig oherwydd y byd natur a'r bywyd gwyllt sydd yma ond oherwydd er lles ac iechyd y trigolion lleol", a bydd y datblygiad "nid yn unig yn effeithio ar fyd natur ond ar boblogaeth yn y cwm".
Mae'r cwmnïau Canadian Solar a Windel Energy yn dweud y gallai'r fferm solar gyfrannu'n sylweddol at ddyhead Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau carbon.
Maen nhw hefyd yn nodi y gallai'r prosiect gynhyrchu "digon o drydan adnewyddadwy i gynnal 5,300 o gartrefi'n flynyddol, gan waredu 6,000 tunnell o garbon deuocsid - sy'n cyfateb i 2,300 yn llai o geir ar ein ffyrdd."
Pryder am y 'gwyrddni hyfryd'
Ond mae'r genhedlaeth iau sy'n byw yn yr ardal hefyd yn poeni am effaith defnyddio'r darn hwn o dir ar gyfer dibenion fferm solar.
Dywedodd Steffan Crocker, sy'n byw'n lleol: "'Wi'n pryderu am y llefydd gwyrdd yn yr ardal.
"'Wi'n bwriadu aros fan hyn am gwpwl o flynyddoedd bellach, a fi'n joio dod yma i gerdded, seiclo, dod â'r teulu, dod â'r ci hefyd, mae'n le hyfryd iawn, chi'n gallu gweld reit lan i'r Bannau Brycheiniog, hyd at y môr yn Abertawe ch'mod felly bydd y penderfyniad yma yn cael effaith mawr ar be ma' pobl yn gallu gweld ar ben y mynydd."
Mae Anest Cunliffe hefyd o'r ardal. Dywedodd: "Yn enwedig yn y lockdown oedd e'n hyfryd cael dihangfa yn enwedig un gyda golygfa mor brydferth, a bydd e'n siom mawr i weld solar panels dros y lle yn hytrach na'r gwyrddni hyfryd."
'Nid oes peryg cystal â chynhesu byd eang'
Mae'r datblygiad eisoes wedi cael sylw yn y Senedd yng Nghaerdydd.
Mewn ymateb i gwestiwn gan yr AS Altaf Hussain ynghylch y modd y gallai'r fferm solar effeithio'n negyddol ar fioamrywiaeth yn ardal Craig y Perchyll, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford "nad oes peryg cystal i rywogaethau na chynhesu byd eang ei hun, ac mae hynny'n dasg anodd i'w gydbwyso."
Ychwanegodd bod yn "rhaid i ni greu dyfodol egni adnewyddadwy yma yng Nghymru oherwydd mai dyna sut allwn gyfrannu orau i daclo'r risg y mae cynhesu byd eang yn dod i'r holl rywogaethau, gan gynnwys dynoliaeth."
Y diwydiant glo a'i greithiau oedd asgwrn y gynnen yn y rhan hon o Gymru rai degawdau'n ôl. Bellach, wrth edrych i'r dyfodol, mae'r trigolion lleol yn poeni am effaith diwydiant newydd ar dirlun yr ardal ac ar y bywyd gwyllt sy'n dibynnu cymaint arno.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2023
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2023