Ffos-y-Fran: Glofa ddadleuol i gau ddiwedd Tachwedd
- Cyhoeddwyd
Bydd glofa Ffos-y-Fran ym Merthyr Tudful yn cau ddiwedd fis Tachwedd, gyda'r holl weithwyr yno yn colli eu swyddi, yn ôl perchnogion y safle.
Fe ddaeth caniatâd cynllunio ar gyfer safle glo brig mwya'r DU i ben fis Medi'r llynedd, ond hyd yma mae'r gwaith wedi parhau yno.
Mae cwmni Merthyr (South Wales) Ltd bellach yn dweud eu bod wedi cyflwyno hysbysiad i Lywodraeth Cymru o'u bwriad i gau ar 30 Tachwedd, unwaith bydd y gwaith o sicrhau diogelwch y safle wedi cael ei gwblhau.
Bydd tua 180 o weithwyr yn colli eu swyddi, gyda'r cwmni wedi dechrau ar broses ymgynghori gydag undeb Unite.
Mae yna ddadlau cyson wedi bod ynglŷn â dyfodol y safle, a phrotestiadau gan ymgyrchwyr amgylcheddol.
Ar ôl cyfnod o 15 mlynedd roedd cloddio am lo i fod i ddod i ben yn Ffos-y-Fran ym mis Medi 2022.
Ond fe barhaodd y gwaith yno, gyda chais y cwmni am ragor o amser yn cael ei wrthod ym mis Ebrill 2023.
Ddiwedd fis Mehefin fe dderbyniodd y perchnogion orchymyn terfynol gan Gyngor Merthyr i roi'r gorau i'r gwaith o fewn 28 diwrnod, cyn i'r cwmni gyflwyno apêl newydd.
Roedd ymgyrchwyr newid hinsawdd wedi cyflwyno cais am adolygiad barnwrol i'r Uchel Lys wrth i'r dadlau am y safle barhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2023
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023