Hanes y dyn sy'n byw ar ynys ar ei ben ei hun

  • Cyhoeddwyd
Simon Parker yn dala aderyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Simon Parker yn gofalu am fywyd natur unigryw Ynys Echni

Wedi marwolaeth ffrind agos penderfynodd Simon Parker, cyn-beiriannydd awyrennau gyda'r Awyrlu Brenhinol, bod angen newid arno.

Bedair milltir o arfordir Caerdydd mae Simon, sy'n 38, yn gweithio ar Ynys Echni ynghanol Môr Hafren.

Fel warden ar yr ynys anghysbell, lle nad oes pŵer na dŵr, mae'n gyfrifol am fywyd natur yr ynys, yn arwain teithiau ac yn landlord yn yr unig dafarn yno.

"Roedd yn gynnig na allwn ddweud na iddo," meddai Simon.

"Ges i gwpwl o flynyddoedd gwael. Es i drwy gyfnod anodd lle wnes i gael trafferthion a cholli adnabod ar fy hun.

"Roeddwn i'n edrych am rywle oedd yn teimlo fel adref, nid lle yn union, ond teimlad."

Ychwanegodd Simon fod gweithio ar yr ynys yn brofiad "oedd yn ei wobrwyo yn prydferthwch."

Cynaliadwyedd yn holl bwysig

Ers y canol oesoedd cynnar mae Ynys Echni wedi bod yn encil i fynachod, ac mae hefyd wedi bod yn fan diogel i Lychlynwyr, Eingl-Sacsoniaid, glowyr arian, smyglwyr a dioddefwyr colera.

Wedi'i hatgyfnerthu yn ystod Oes Fictoria ac eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae'r ynys yn enwog am ddyfeisio'r radio - wedi i un o'r trosglwyddyddion cyntaf gael ei osod yno - a hefyd mae'n gartref i fadfallod, blodau ac adar unigryw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ynys Echni bedair milltir o arfordir Caerdydd ond dywed Simon ei bod weithiau'n teimlo llawer pellach

Mae hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn sgil y gwylanod sy'n nythu yno - mae hynny'n 20% o boblogaeth yr adar yng Nghymru.

Rhan fawr o rôl Simon yw cadwraeth. Mae'n gofalu am rinweddau naturiol yr ynys, yn monitro'r bywyd gwyllt ac yn defnyddio'r tir a'r dŵr glaw i gynnal ei hun.

"Ar y tir mawr ni'n cymryd popeth yn ganiataol," meddai. "Os ydych chi angen bwyd rydych yn mynd i'r siop. Os ydych angen dŵr rydych chi'n troi'r tap ymlaen.

"I mi mae Ynys Echni yn rhyw fath o ficrocosm o sut rwy'n edrych ar y byd."

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni symud i ffwrdd o'r syniad fod gennym stôr anferth o adnoddau, dyw e ddim yn gynaliadwy.

"Gallwn wneud hyn, dyw e ddim yn amhosib, mae'r atebion i gyd yna, os ydym yn barod i newid."

'Caru bod mewn llefydd anghysbell'

Mae Simon wedi bod yn byw ar yr ynys ers mis Mawrth, ac mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser yno ar ei ben ei hun, ar wahân i rai twristiaid a gwirfoddolwyr sy'n ymweld.

Dywedodd: "Does dim llawer o bobl yn cael dweud eu bod yn byw mewn lle sydd mor cŵl â hyn. Rydw i ar ben fy hun i bob pwpas ac mae hynny'n creu ychydig o bryder ond dwi wrth fy modd gyda heriau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Simon yn dweud bod byw ar yr ynys wedi helpu ei iechyd meddwl a'i les

Dywedodd bod yr olygfa o'i ffermdy yn "eithaf da os ydych yn hoffi gwylanod", ac yn ôl y sôn mae'r cwrw yn nhafarn y Gull and Leek - tafarn mwyaf deheuol Cymru - yn "blasu'n well nag ar y tir mawr".

Wedi chwech mis mae Simon yn teimlo ei fod wedi dysgu llawer am yr ynys, y bywyd gwyllt a hefyd am ei hun.

"Mae'r gallu i gerdded allan trwy fy nrws a chael fy nghroesawu gan sŵn yr adar yn rhoi hwb i mi.

"Dwi'n gwybod er mwyn fy lles personol fod angen amser arna i ym myd natur.

"Dwi wastad wedi caru bod mewn llefydd anghysbell. Er dwi ond bedair milltir o Gaerdydd ond weithiau mae'n teimlo fel miliwn."

Mae'n annog pobl eraill i ddilyn eu breuddwydion yn yr un ffordd.

"Mae bywyd yn fyr," meddai. "Felly dwi'n dweud wrth unrhyw un sy'n meddwl gwneud rhywbeth fel hyn - gwnewch e!"

Pynciau cysylltiedig