Ymchwiliad Llaneirwg: Pledio'n euog i yrru'n beryglus

  • Cyhoeddwyd
Shane LoughlinFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Shane Loughlin wedi pledio'n euog i yrru'n beryglus a gyrru tra wedi'i wahardd

Mae dyn 32 oed wedi pledio'n euog i yrru'n beryglus fel rhan o ymchwiliad i wrthdrawiad a laddodd dri pherson.

Fe wnaeth Shane Loughlin o Dredelerch, Caerdydd, ymddangos yn llys ynadon y ddinas ddydd Mawrth, ble plediodd yn euog hefyd i yrru tra wedi'i wahardd ar yr M4 ar 3 Mawrth.

Roedd Loughlin yn ddiweddarach yn rhan o wrthdrawiad digwyddodd ar 4 Mawrth, 2023, ar yr A48 ger Llaneirwg.

Dywedodd Heddlu De Cymru nad yw'r cyhuddiadau'n gysylltiedig â'r gwrthdrawiad hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Y tri a fu farw yn y gwrthdrawiad - Darcy Ross, Rafel Jeanne ac Eve Smith

Bu farw Eve Smith, 21, Darcy Ross, 21 a Rafel Jeanne, 24, yn y gwrthdrawiad hwnnw, yn fuan wedi 02:00 y bore ar 4 Mawrth.

Cafodd Loughlin a Sophie Russon, 20, eu hanafu'n ddifrifol a'u cludo i'r ysbyty.

Dim dwylo ar yr olwyn

Clywodd y llys bod fideos yn dangos Loughlin yn gyrru heb ddwylo ar yr olwyn ar adegau, a'i fod wedi anadlu rhywbeth o falŵn.

Roedd y fideos hefyd yn awgrymu ei fod yn gyrru ar gyflymderau o rhwng 80 a 90mya ar yr M4, a bod golau ar y panel deialau yn awgrymu nad oed pawb yn gwisgo gwregys diogelwch.

Bydd Loughlin yn cael ei ddedfrydu ar 5 Medi.