Cynlluniau 'uchelgeisiol' i ddatblygu Clwb Ifor Bach

  • Cyhoeddwyd
Datblygiad Clwb IforFfynhonnell y llun, Stiwdio Nissen Richards
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad o sut y byddai'r tu allan yn edrych, gan uno adeilad adfeiliedig drws nesaf gyda'r safle presennol

Mae Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd wedi cyflwyno cais cynllunio ar gyfer "ailddatblygiad uchelgeisiol" un o leoliadau mwyaf eiconig y brifddinas.

Mae'r clwb, sy'n dathlu 40 mlynedd yn y diwydiant cerddoriaeth eleni, yn cynnal nifer o gigs ac yn enwog am fod yn gefnogwr mawr o gerddoriaeth iaith Gymraeg.

Mae Clwb Ifor wedi sicrhau prydles ar adeilad adfeiliedig drws nesaf ers 2019, a'r bwriad ydy uno hwnnw gyda'r safle presennol ar Stryd Womanby yng nghanol y ddinas.

Roedd y stryd honno'n ganolbwynt i ymgyrch yn 2017 i ddiogelu ei statws fel lleoliad ar gyfer cerddoriaeth fyw yn y brifddinas, yn dilyn pryder am gynlluniau i godi fflatiau neu westai yn agos.

Ffynhonnell y llun, Stiwdio Nissen Richards
Disgrifiad o’r llun,

Mae dwy ystafell berfformio yn rhan o'r cynlluniau - un fyddai'n dal hyd at 500 o bobl, a'r llall yn dal 200

Dywedodd Clwb Ifor mewn datganiad mai nod eu hailddatblygiad yw "creu safle cyfoes, cwbl hygyrch, i gynyddu ymgysylltiad ac i ehangu ei weithgarwch yn unol â'i amcanion elusennol".

Ychwanegodd y clwb fod y cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno i Gyngor Caerdydd yr wythnos hon.

Mae Clwb Ifor hefyd wedi lansio ymgyrch codi arian er mwyn "cefnogi'r ailddatblygiad", gan ddweud bod ganddynt 18 mis i wneud hynny.

Dydyn nhw heb fanylu ar faint o arian sydd angen ei gasglu, na chwaith faint mae'n amcangyfrif fydd cost y datblygiad.

Beth yw'r cynlluniau?

Pe bai'r cais cynllunio yn cael ei gymeradwyo byddai'r clwb yn ehangu o ran maint, gyda'r gofod yn cael ei "drawsnewid yn safle aml-ystafell cwbl hygyrch", sy'n gallu dal hyd at 1,000 o bobl ar draws pob llawr.

Maen nhw'n dweud y byddai'n eu galluogi i gynnal digwyddiadau mwy, gyda gofod newydd â chapasiti ar gyfer 500 o bobl - sy'n "llenwi hen fwlch yn narpariaeth cerddoriaeth fyw bresennol y brifddinas".

Bydd hefyd ystafell berfformio lai ar gyfer 200 o bobl.

Ffynhonnell y llun, Stiwdio Nissen Richards
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r datblygiad yn cynnwys teras ar do yr adeilad

Gobaith y clwb yw y bydd yr ailddatblygiad yn ei alluogi i "ehangu cyrhaeddiad ac effaith ei amcanion elusennol".

Mae Clwb Ifor Bach wedi bod yn elusen ers 2019, gan gefnogi technegwyr, hyrwyddwyr, perfformwyr, ffotograffwyr a mwy sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Ymgyrch codi arian

Dywedodd Clwb Ifor fod "taith hir o'n blaenau er mwyn gwireddu'r prosiect yma, yn enwedig o ystyried pwysau chwyddiant a'i effaith ar y gost ers i'r dyluniadau cysyniadol cyntaf gael eu cyhoeddi ar ddechrau 2019".  

Mae'r clwb felly yn lansio ymgyrch codi arian, gan ddweud fod 18 mis i "wireddu ei uchelgais".

Ychwanegodd y bydd yn "archwilio pob llwybr cymorth posib yn ystod y cyfnod yma er mwyn symud y prosiect yn ei flaen".

Disgrifiad o’r llun,

"Mae ffordd hir o'n blaenau ni'n dal i fod, yn enwedig o ran sicrhau digon o gyllid," meddai Guto Brychan

Dywedodd prif weithredwr Clwb Ifor Bach, Guto Brychan: "Hoffen ni ddiolch i Gyngor Caerdydd am eu cymorth yn sicrhau'r safle drws nesaf, oedd yn ffactor allweddol wrth symud y cynlluniau yn eu blaen.

"Mae ffordd hir o'n blaenau ni'n dal i fod, yn enwedig o ran sicrhau digon o gyllid.

"Ond rydyn ni'n hyderus y bydd ein cynlluniau i wella Clwb Ifor Bach ar gyfer artistiaid a chynulleidfaoedd y dyfodol yn gonglfaen i isadeiledd cerddoriaeth fyw y brifddinas am flynyddoedd i ddod."