Apêl mam yn erbyn dedfryd gyrrwr a laddodd ei merch

  • Cyhoeddwyd
Chloe Hayman a Danielle O'HalloranFfynhonnell y llun, Danielle O'Halloran
Disgrifiad o’r llun,

Danielle O'Halloran (dde) gyda'i merch 17 oed, Chloe Hayman, 17, a gafodd ei lladd ym mis Gorffennaf 2022 wedi i ddyn yrru dan ddylanwad cyffuriau

Mae mam merch 17 oed a gafodd ei lladd mewn gwrthdrawiad gan yrrwr dan ddylanwad cyffuriau yn bwriadu apelio yn erbyn ei ddedfryd.

Fe gafodd Keilan Roberts, 22, ei garcharu am dair blynedd a naw mis am ladd Chloe Hayman, oedd yn teithio yn ei gar ym mis Gorffennaf 2022.

Mae'r ddedfryd yna, medd ei mam Danielle O'Halloran, yn sarhaus o'i gymharu â "dedfryd oes" ei theulu.

Fe fydd yn mynd i'r Llys Apêl fis nesaf.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd ym mis Mehefin bod Roberts yn cymryd ketamine, cocên ac ecstasi, a'i fod dros y cyfyngiad yfed a gyrru wrth iddo fynd â Chloe adref ar ôl noson allan yn Fochriw, yn Sir Caerffili.

Fe blediodd yn euog i bedwar cyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal, ond ym marn Ms O'Halloran mae'r ddedfryd yn annhebygol o atal eraill rhag gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

"Dydw i ddim yn meddwl bod y ddedfryd yn ddigon hir. Dyw hi ddim yn ei atal rhag gwneud e eto a ddim yn ddigon hir i eistedd a meddwl am yr hyn a wnaethoch chi 'chwaith.

"Rwy'n gobeithio galla' i a'i thad barhau i frwydro a newid rhywbeth, gobeithio, o ran sut mae edrych ar ddedfryd.

"Ry'n ni wedi cael dedfryd oes trwy beidio cael ein merch yn ein bywydau."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Keilan Roberts, 22, ddedfryd o garchar ar ôl pledio'n euog i bedwar cyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal

Yn y llys fe wnaeth Ms O'Halloran annerch Roberts gan ddweud: "Rwy'n maddau i ti. Rwy' just mo'yn iti ddysgu."

Mae rhoi maddeuant, meddai, wedi ei helpu i ddygymod â thrawma'r farwolaeth, er roedd hynny'n "wirioneddol anodd achos ry'n chy'n mynd trwy lot o ddicter a phoen.

"Os nad y'n ni'n maddau i bobl mae'r dicter dan gysgod y bobl yna… does wnelo fe ddim â derbyn bod yr hyn wnaethon nhw'n okay...

"I chi allu symud ymlaen, a gwneud y gorau o'ch sefyllfa rhiad i chi beidio bod yn ddig gyda rhywun arall.

"Dydw i ddim eisiau teimlo'n negyddol at bobl achos dydw i ddim yn meddwl y byddai hynny'n fy helpu yn y tymor hir."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Danielle O'Halloran yn erfyn ar bobl ifanc i feddwl yn ofalus sut maen nhw' teithio adref ar ddiwedd noson allan

Mae Danielle O'Halloran yn rhannu ei theimladau yn y gobaith o achub bywydau fel rhan o ymgyrch Heddlu Gwent i atal gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

"Os taw dyna alla'i neud i Chloe - trio helpu stopio hyn rhag digwydd eto, i bobl weld yr effeithiau niweidiol ar ein teulu, ein cyfeillgarwch, ein cymuned, yna mi wna'i be galla'i," dywedodd.

Mae hi'n erfyn ar bobl ifanc i ystyried o flaen llaw sut maen nhw'n mynd i fynd adref ar ddiwedd noson allan.

"I unrhyw un sy'n meddwl am yrru, cadwch eich ceir gartref. Trefnwch dacsi.

"Os nad oes arian 'da chi, trefnwch lifft a gofynnwch i'ch rhieni. Peidiwch byth â bod ofn eu deffro am ddau o'r gloch y bore a dweud "Dewch i fy nôl i". Waeth faint dy'n ni ddim mo'yn gwneud hynny, weithiau fe all achub bywydau."

'Mae'n eich newid fel person'

Yn ei dagrau, fy ddywedodd: "Dychmygwch y teimlad gwaethaf yn y byd yn eich taro yn y galon. Dyna sut fuasech chi'n teimlo o golli rhywun. Fyddwn ni ddim eisiau rhoi'r boen yma i unrhyw un. Oni bai eich bod yn teimlo'r boen fyddwch chi byth yn deall.

"Dychmygwch peidio gallu gwneud eich hoff job neu wrando ar gân yn yr un ffordd neu yrru lawr ffordd neu fynd i rywle oedd unwaith yn le hapus.

"Dychmygwch mynd i'r holl bethau oedd yn eich gwneud chi'n hapus a theimlo eich bod wedi torri'n llwyr - rhywbeth na fyddwn ni eisiau i unrhyw un arall ei deimlo. Mae'n eich newid fel person, yn sicr."

Ffynhonnell y llun, Danielle O'Halloran

Dros flwyddyn ers colli Chloe, mae Ms O'Halloran yn gobeithio y gallai pobl ifanc fwynhau eu hunain mewn ffyrdd gwahanol, yn lle troi at alcohol a chyffuriau, a chanfod "ffyrdd eraill o fod yn hapus".

Awgrymodd: "Ewch i'r traeth gan gynnau tân a mwynhau cerddoriaeth. Byddech chi'n synnu faint o lawenydd a chariad a hapusrwydd y cewch chi trwy wneud hynny.

"Mae yna fwy i fywyd na mynd allan beth bynnag. Canfyddwch hapusrwydd heb alcohol."

Ond mae hi'n dweud bod ailgydio mewn bywyd heb Chloe yn anodd.

"O'r tu allan gallwch chi ymddangos yn gryf ac yn iawn ond y tu mewn mae wir yn effeithio fy hun fel mam, a'i thad a'i theulu," meddai.

"Dydw ddim yn meddwl bod unrhyw beth yn gwella. Mae llawer o bobl yn dweud bod amser yn helpu. Dyw e ddim.

Disgrifiad o’r llun,

Ardal y gwrthdrawiad a laddodd Chloe

"Ry'ch chi'n dysgu delio ag e ond mae'r boen yn dal yna ac mae'r broses yna o godi yn y bore, mynd i'r gwely, cân yn dod ymlaen, pasio rhywle ble mae atgof - mae'n dal yn cychwyn emosiwn syth byth yn diflannu.

"Ro'n i a Chloe yn swnllyd ac yn hapus… roedden ni wastad yn codi ysbryd ein gilydd. Roedd hi wastad yn caru cerddoriaeth felly mae'n wirioneddol dawel [yn y tŷ].

"Weithiau rwy'n ei theimlo trwy fy nghorff pan rwy'n dawnsio. Y teimlad 'na. Daw cân arbennig ymlaen, ac mae hi'n dawnsio tu mewn i mi. Mae'n anodd yn y tŷ hebddi."

Pynciau cysylltiedig