'Mwy na ffurflen gais': cerdd i godi calon ar ddiwrnod TGAU

  • Cyhoeddwyd
Buddug RobertsFfynhonnell y llun, Buddug Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Buddug Roberts

Heddiw fe fydd miloedd o bobl ifanc yn derbyn eu canlyniadau arholiadau TGAU, ond mewn cerdd arbennig mae Bardd y Mis Radio Cymru Buddug Roberts yn pwysleisio bod yna bethau pwysicach mewn bywyd.

Cwestiynau

ymadroddion wedi eu cymhwyso i gymell atebion

"Ti 'di cael dy ganlyniadau?"

"Be ges di yn dy DGAU?"

"Tisho rhannu dy raddau?"

"Tisho unrhyw awgrymiadau?"

"Pa golegau?"

"Prentisiaethau?

Oes dyrchafu ar Y Dydd Iau?

Dwi'n gwbo' bo' chdi 'di blino,

A bron iawn 'di mynd o dy go.

Ond cymer eiliad i sbio -

Pa mor bell ti 'di'i ddringo.

Yn wir, ma'n rhaid i chdi gofio -

Fysa chdi byth yn meiddio

Ffraeo'r bych bach o flwyddyn 7,

A chditha' 'di bod ar siwrna mor faith?

Yli - mi wyt ti'n "ddigon clyfar",

Mae pawb yn clywed dy lais.

Tydi'r system ddim i bawb 'sti -

Ti'n fwy nag atebion ar ffurflen gais.

Ti'n gweld - ti'n ifanc,

Ti'n llawn meddylia' ffresh.

Ti'n ysu am gael newid y byd,

Dim jesd ysu am yr hawl i gael sesh.

Dw i'n dallt i fod o'n sgeri,

Gweld pawb yn "gwbo' be ma' nhw'n neud",

Ond dio wir ddim otch - dim tamad

Paid gwrando ar be s'gynno nhw'i ddeud.

Yr unig gwestiwn sy' werth chdi boeni

Ydi: hei, rhen fêt, sut wyt ti?

Dyna'r unig un sy'n cyfri.

Yndi - mae'n anodd gwrando,

A dechrau creu dy stori

Ond dwi'n gobeithio bo' chdi'n gwbo'

Fod ffiniau dy yfory -

Yng ngrym dy ddychymyg di.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig