O strydoedd Gwlad Thai i dde Cymru: Antur Rodney y ci
- Cyhoeddwyd
I Rodney, y ci, mae ei fywyd newydd yn ne Cymru yn wahanol iawn i'w wreiddiau yng Ngwlad Thai.
Pan gafodd ei ddarganfod ar ochr y stryd, roedd y ci bach yn denau, yn crynu ac yn methu anadlu.
"Roedd Rodney rhyw awr i ffwrdd o farw," meddai Niall Harbison, y dyn sy'n gyfrifol am achub bywyd Rodney a miloedd o gŵn eraill.
Wedi misoedd o ofal gan Niall a'i dîm yn Asia, mae Rodney bellach yng Nghymru gyda'i berchnogion newydd - Cameron Clarke a Carys Hawkey.
"O'n i jyst wedi cwympo mewn cariad gyda Rodney," meddai Carys, oedd wedi dechrau dilyn hanes y ci ar y cyfryngau cymdeithasol flwyddyn ddiwethaf.
"O'dd Cam, yn syth, 'di dweud: 'Mae e'n gi i fi'.
Nawr mae gan y ci bach dros 20,000 o ddilynwyr ar Instagram ac yn mwynhau pob eiliad o'i gartref newydd.
Roedd Carys yn benderfynol i fabwysiadu ci arall i fod yn gwmni i Khabib, ei Huntway o Seland Newydd.
Roedd darganfod eu bod nhw wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais i fabwysiadu Rodney yn "ffantastig", meddai.
"O'n i jyst wedi cwympo mewn cariad gyda Rodney. O'dd e'n berffaith i ni."
Ar ôl cwblhau'r cais i fabwysiadu Rodney, roedd Carys a Cameron wedi cael nifer o gyfweliadau gan y tîm yng Ngwlad Thai er mwyn sicrhau eu bod nhw'n addas.
Unwaith roedd y pâr wedi cael y golau gwyrdd, fe drefnodd Cameron daith i Wlad Thai.
"Nes i benderfynu taw dyna oedd y cyfle gorau i ofyn i Carys i fy mhriodi, yr un amser a chwrdd â Rodney.
"Roedd e'n gyfnod cyffrous iawn, i ddweud y lleiaf."
Wedi "bach o drafferth" yn trefnu'r gwaith papur ar gyfer ei daith, roedd Rodney wedi cyrraedd Pentre'r Eglwys yn Rhondda Cynon Taf ddechrau'r haf.
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae tua 200 miliwn o gŵn ar draws y byd yn byw ar strydoedd.
Er bod 'na ganlyniad hapus iawn i stori Rodney, mae Niall yn cydnabod nad yw hedfan cŵn ar draws y byd wastad yn opsiwn.
Ar wahân i sterileiddio, un ateb yw helpu i roi gwybodaeth i bobl leol am fwyd a meddyginiaethau, meddai.
"Ar hyn o bryd rwy'n dibynnu ar wirfoddolwyr.
"Mae'n rhaid i mi roi strwythurau yn eu lle a dod o hyd i atebion ar draws y byd.
"Mae'n mynd i gymryd 20 neu 30 mlynedd i mi, ond rydw i'n mynd i wneud hynny."
Sophie o Rwmania
Un sy'n deall heriau mabwysiadu cŵn ydy cyn gohebydd technoleg y BBC, Rory Cellan-Jones, a'i wraig Diana.
Mae'r ddau wedi bod yn rhannu eu profiad ar y cyfryngau cymdeithasol o edrych ar ôl Sophie, o Rwmania, sydd wedi profi tipyn o drawma ers symud i'r Deyrnas Unedig.
"Dwi'n credu bod fy mhrofiad i yn profi bod angen bod yn ofalus," meddai Rory.
"Roedden ni'n disgwyl y byddai'n debyg i'n ci achub blaenorol - efallai ei fod ychydig yn nerfus ar y dechrau ond y byddai pethau'n datrys eu hunain, a doedd hynny ddim yn wir."
Am y saith mis cyntaf, roedd Sophie yn bryderus iawn ac yn encilgar, gan dreulio'r rhan fwyaf o'i hamser y tu ôl i soffa Rory a Diane.
"Felly mae'n rhaid i chi sylweddoli eich bod chi'n ymgymryd â chryn dipyn o dasg os ydych chi'n mabwysiadu o dramor," meddai.
Wedi misoedd o ddioddef ar y strydoedd, mae Rodney nawr yn cael tipyn o gariad ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda miloedd yn dilyn ei anturiaethau.
"Dros yr wythnosau diwethaf, ers iddo fod fan hyn, mae e 'di neidio i 20,000," meddai Carys.
Mae rhieni newydd Rodney yn dweud eu bod nhw'n llawn edmygedd i Niall a'i dîm, sy'n benderfynol o achub bywydau 10,000 o gŵn.
"Fi ddim gyda'r ansoddair i ddisgrifio Niall," meddai Carys.
"Fi'n meddwl 'saint' yw'r gair byswn i'n ei ddefnyddio i ddisgrifio Niall."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2022
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2022