Mam â thwll yn ei choluddyn wedi cael cyngor i yfed te

  • Cyhoeddwyd
Farrah Moseley-BrownFfynhonnell y llun, Farrah Moseley-Brown
Disgrifiad o’r llun,

'Gallwn fod wedi marw' meddai Farrah Moseley-Brown

Mae bwrdd iechyd wedi ymddiheuro i fenyw a gafodd ei chynghori i yfed te mintys i ddelio â "gorbryder", cyn iddi ddatblygu sepsis a thwll yn ei choluddyn.

Roedd Farrah Moseley-Brown mewn "poen dirdynnol" ar ôl cael ei hail fab, Clay, ond cafodd ei hanfon adref gan yr ysbyty.

Oherwydd yr oedi cyn ei thrin, mae gan Ms Moseley-Brown, 28, o'r Barri, Bro Morgannwg, stoma erbyn hyn.

Cyfaddefodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro fethiannau yn ei gofal ac fe roddodd ei "ymddiheuriadau diffuant".

Ers y camgymeriad, mae Ms Moseley-Brown wedi troi at TikTok i hysbysu pobl am beryglon sepsis ac mae un fideo wedi cael ei wylio dros 15 miliwn o weithiau.

'Teimlo'n sâl iawn'

Cafodd apwyntiad Cesaraidd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ar 7 Mai 2020.

Ar ôl i Clay gael ei eni, collodd Ms Moseley-Brown tua dau beint a hanner o waed ac roedd angen llawdriniaeth bellach i atal y gwaedu.

"Roeddwn i'n teimlo'n sâl iawn a dywedais hyn wrth y nyrsys a'r staff yn yr ysbyty, ond wnaethon nhw ddim gwrando," meddai.

"Roedden nhw'n dal i ddweud mai ôl-boen oedd e ond roedd yn boenus iawn."

Ffynhonnell y llun, Farrah Moseley-Brown
Disgrifiad o’r llun,

Collodd Farrah Moseley-Brown lawer o waed ar ôl rhoi genedigaeth i Clay

Cafodd ei rhyddhau dridiau yn ddiweddarach, er gwaethaf ei phryderon, ar ôl cael meddyginiaeth ar gyfer ei rhwymedd.

"Bob un noson bydden nhw'n dweud 'mae ganddi boenau meddwl'. Cefais dabledi ar gyfer rhwymedd a chefais lawer o de mintys."

Deuddydd yn ddiweddarach, dychwelodd i'r ysbyty gyda phoen yn ei stumog ac roedd yn chwydu.

Cafodd belydr-X o'r stumog a chafodd fwy o driniaeth ar gyfer rhwymedd cyn cael ei hanfon adref eto ar 15 Mai.

Dim ond ar ôl ei thrydedd daith i'r ysbyty, y diwrnod canlynol, y cafodd ddiagnosis o dwll yn ei choluddyn a sepsis ar ôl iddi gael trafferth anadlu.

'Gallwn fod wedi marw'

"Roedd gen i tua phum munud i feddwl am yr hyn oedd yn mynd i ddigwydd," meddai Ms Moseley-Brown.

"Esboniwyd y driniaeth i mi a bryd hynny doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod beth oedd bag colostomi. Dywedodd y meddyg, 'rydych yn wael iawn ac mae'n llawdriniaeth llawn risg'.

"Gallwn fod wedi marw."

Mae effaith y llawdriniaeth wedi newid bywyd Ms Moseley-Brown.

"Fel menyw, ac oherwydd fy oedran, rwy'n hunanymwybodol iawn," meddai.

"Faint o ddifrod maen nhw wedi'i wneud gyda chreithiau ac ati, bydd angen llawer o lawdriniaeth blastig arnaf i'w drwsio.

"'Dw i'n meddwl eu bod nhw'n meddwl fy mod i'n fam oedd ddim yn gallu delio ag ôl-boenau y llawdriniaeth Cesaraidd."

Ffynhonnell y llun, Farrah Moseley-Brown
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y fenyw 28 oed na chafodd ei chymryd "o ddifrif" pan ddywedodd ei bod yn teimlo'n sâl

Mae gan Ms Moseley-Brown osteogenesis imperfecta, a elwir yn fwy cyffredin yn glefyd esgyrn brau.

Gall hyn achosi risg uwch o gymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth, ac mae hi'n credu na dderbyniodd y gofal cywir.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro na fyddai'r twll yn y coluddyn a'r gweithredoedd a ddilynodd wedi digwydd pe bai delweddu pellach wedi cael ei wneud, a'u bod wedi trefnu i gael barn llawfeddyg.

Dywedodd James Pink o gyfreithwyr Ms Moseley-Brown, cwmni Irwin Mitchell, fod y bwrdd iechyd wedi "methu â'i hadolygu'n briodol", gan arwain at y toriad "trawmatig" i'w choluddyn.

Ychwanegodd: "Ni chafodd yr ymchwiliadau y gallai fod eu hangen arni, a fyddai wedi arwain at fwy o driniaeth a allai fod wedi helpu i ddatrys y rhwymedd oedd yn gwaethygu."

Ffynhonnell y llun, Farrah Moseley-Brown
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Farrah Moseley-Brown ddau fab - Cohen (chwith) a Clay

Dywedodd y bwrdd iechyd: "Rydym yn ailadrodd ein hymddiheuriadau diffuant i Ms Moseley-Brown am ei phrofiad o ofal mamolaeth tra yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn 2020."

Dywedodd na allai wneud sylw ar achosion unigol ond pan "godwyd pryderon", fod "proses gyfreithiol ffurfiol" wedi dechrau.

Ychwanegodd y bwrdd iechyd fod "gofal diogel, effeithiol" i gleifion "o'r pwys mwyaf" a'i fod yn "hollol ymroddedig i wella'r gofal yn barhaus".

Ers achos Ms Moseley-Brown, canfuwyd bod gan Ysbyty Athrofaol Cymru fethiannau ehangach yn ei ofal mamolaeth, dolen allanol.

'Negeseuon o bob rhan o'r byd'

Ers gwella o sepsis, dywedodd Ms Moseley-Brown fod codi ymwybyddiaeth ar TikTok wedi bod yn un o'r pethau cadarnhaol i ddod allan o'i dioddefaint.

"Cafodd cymaint o fenywod eu cefnogi gan hyn ac fe ges i negeseuon o bob rhan o'r byd.

"Cefais e-byst gan ddynes yn Ne Affrica a oedd wedi dweud ei stori wrtha i.

"Esboniodd y merched hyn i gyd fod angen y cyngor yma arnynt. Roedd angen yr arwyddion hyn arnynt.

"Roedd angen rhywun i siarad am hyn."