Gweithwyr i streicio yng nghynghorau Caerdydd, Wrecsam a Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynghorau'n darparu nifer fawr o wasanaethau gan gynnwys gofal, addysg, casglu gwastraff ac adnoddau hamdden

Bydd gweithwyr cyngor sy'n perthyn i undeb Unite yn mynd ar streic yng Nghaerdydd, Wrecsam a Gwynedd fis nesaf mewn anghydfod dros gyflogau.

Fe fydd aelodau Unite yn awdurdodau lleol Caerdydd a Wrecsam yn streicio am bythefnos o 4 i 17 Medi.

Bydd aelodau yng Ngwynedd yn streicio am wythnos rhwng 11 ac 17 Medi.

Mae gan y streiciau y potensial i effeithio ar amrywiaeth o wasanaethau fel casglu sbwriel, glanhau strydoedd a gwaith cymunedol.

'Nawddoglyd'

Fe fyddan nhw ymhlith staff 23 o gynghorau yng Nghymru a Lloegr sy'n cymryd camau o'r fath ar ôl yr hyn a ddisgrifiodd yr undeb fel "llythyr diystyriol a nawddoglyd" gan gyflogwyr.

Yn y llythyr, dywedodd y Cyflogwyr Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol fod y cynnig codiad cyflog ar gyfer 2023-24 o £1,925 ar gyfer y rhai sy'n ennill llai na £49,950 a 3.88% ar gyfer y rhai sy'n ennill cyflogau uwch yn "llawn a therfynol".

Fe wnaethant hefyd amddiffyn y cynnig fel un "teg o dan yr amgylchiadau" a dweud ei fod "yn cyfateb i gynnydd i'r rhai ar y cyflogau isaf o 9.42% eleni, sy'n golygu y bydd eu cyflog wedi cynyddu £4,033 (22%) dros y ddwy flynedd ers Ebrill 2021."

Ond dywedodd Unite fod ei aelodau "â mwyafrif llethol" wedi gwrthod y cynnig a'i fod yn "gynnig salach na'r llynedd, er bod yr argyfwng costau byw wedi gwaethygu".

Mae cyflogau gweithwyr cyngor yn cael eu pennu ar lefel Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon drwy'r Cyd-gyngor Cenedlaethol - corff negodi sy'n cynnwys undebau a chyflogwyr llywodraeth leol.