Cyhoeddi 1,000fed rhifyn o'r 'Gronyn' wrth ymddeol
- Cyhoeddwyd
Mae'n ddiwedd cyfnod i eglwysi Gofalaeth Fro'r Llechen Las wrth i wythnosolyn 'Gronyn' gael ei gyhoeddi am y tro olaf yn sgil ymddeoliad y gweinidog y Parchedig John Pritchard, Llanberis.
Ddydd Sul mae John Pritchard yn cyhoeddi ei 1,000fed rhifyn o'r wythnosolyn, sydd ers Medi 2001 wedi cynnwys neges arbennig drwy gyfrwng erthyglau amserol.
Yn rhan o Ofalaeth Fro'r Llechen Las mae eglwysi Cefnywaun ac Ebeneser yn Neiniolen, Capel Coch a Nant Padarn yn Llanberis, Capel Bethlehem yn Nhalybont a Chapel Carmel yn Llanllechid.
Yn ddi-dor ers 2001 mae Mr Pritchard wedi bod yn anfon neges arbennig i'w aelodau ond drwy gyfrwng y we mae cynulleidfa ehangach wedi cael budd o'r negeseuon.
'Trump a Johnson wedi rhoi sawl erthygl!'
"Cyndyn fues i am flynyddoedd o gyhoeddi dim, ond mi wnes i fentro a tharo mae'n debyg ar ryw ffurf neu gyfrwng y deuthum yn weddol hyderus ag o," meddai'r Parchedig John Pritchard wrth siarad yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg.
"Math o ddamhegion fu'r erthyglau, yn cychwyn 'efo darlun neu stori a fyddai'n arwain at y neges.
"Mae'r testunau cychwynnol wedi bod yn amrywiol.
"Mae'r byd gwleidyddol - Trump a Johnson yn arbennig - wedi rhoi sawl erthygl i mi ond hefyd chwaraeon, digwyddiadau'r dydd neu'r wythnos flaenorol, y gwyliau Cristnogol wrth gwrs, troeon trwstan a phethau y byddwn wedi eu darllen neu wedi eu clywed ar y radio neu weld ar y teledu."
Ar y Sul cyntaf ym Medi 2001, i bob pwrpas, y cyhoeddwyd Gronyn gyntaf er bod ryw 15 rhifyn wedi bod cyn hynny am gyfnodau byr yn fisol.
'Neges i herio ac i gysuro'
"Dyma fentro cyhoeddi'n wythnosol a gweld yn fuan bod hynny'n haws nag yn fisol, am iddo ddod yn rhan o batrwm gwaith yr wythnos," meddai Mr Pritchard.
"Yr ysgogiad oedd yr awydd i ehangu'r maes cenhadol o fewn y gymuned leol. Roeddwn i wedi bod yn sgwennu colofn fisol i bapur bro Eco'r Wyddfa ers naw mlynedd erbyn hynny, a phobl yn ddigon caredig yn gwerthfawrogi'r negeseuon.
"Teimlo awydd wedyn i wneud peth tebyg yn fwy rheolaidd yn enw'r eglwysi, a mynd ati o ddifri' i gyhoeddi taflen a fyddai'n cynnwys newyddion am weithgaredd a bywyd yr eglwysi ond yn bwysicach na hynny neges i herio ac i gysuro pobl yn enw'r Efengyl."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Er mai ar fore Sul yn y capel y byddai'r daflen ar gael gyntaf roedd yn fwriad o'r cychwyn i wneud ymdrech i'w danfon wedyn i gartrefi holl aelodau'r eglwysi.
"Dwi'n ddiolchgar i bawb a fu'n helpu i wneud hynny ar hyd y blynyddoedd; ac wrth i'r blynyddoedd fynd ymlaen roedd mwy a mwy o bobl nad oedden nhw'n aelodau yn derbyn copi bob wythnos, a'r neges felly'n cyrraedd cynulleidfa ehangach.
"Mi ddatblygodd pethau ymhellach wedi i ni gael gwefan i'r ofalaeth, a dechrau ei osod ar honno bob Sul, ac mae erthyglau'r tair blynedd ar ddeg dwytha' i'w gweld ar wefan Gronyn, dolen allanol, gan ehangu'r gynulleidfa.
"Yr unig nod o'r cychwyn fu rhannu'r Efengyl, y newydd da am Iesu Grist: yr un nod a'r un dyhead ag a fu gen i ar hyd y weinidogaeth.
"Gobeithio iddo fod yn gyfrwng i fynd â neges yr Efengyl at bobl o fewn ac o'r tu allan i'r eglwysi. Os gwnaed hynny, mi fu'n werth yr ymdrech."
Fe ddewiswyd yr enw Gronyn am "mai rhywbeth bach oedd o", ychwanegodd Mr Pritchard.
"Dim cylchgrawn ydi o ond pamffledyn neu daflen (4 tudalen x A5) ac mae'n adlais o'r defnydd o'r gair yn y Beibl.
"Mae Iesu Grist, er enghraifft, yn cymharu teyrnas Dduw i 'ronyn o had mwstard' yr hedyn lleiaf o'r holl hadau, ond pren cadarn yn tyfu o'r gronyn bach.
"Y bwriad oedd y byddai Gronyn yn medru bod yn rhan o'r weinidogaeth o arwain pobl i ffydd syml yn Iesu Grist."
Y 1,000fed rhifyn sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Sul fydd yr olaf am fod y Parchedig John Pritchard yn ymddeol o Ofalaeth Fro'r Llechen Las yr wythnos hon.
"Mi wnes i ystyried dal ati ar y we, ond gan fod Gronyn yn rhan ganolog o'r weinidogaeth, ac wedi ei gyhoeddi bob Sul ar wahân i fis gwyliau'r haf am 22 o flynyddoedd - bron i hanner y cyfnod y bum yn weinidog - mae'n gwneud synnwyr dod â fo i ben heddiw."
Mae cyfweliad y Parchedig John Pritchard i'w glywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2023
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2023