Gwerthu gwersyll y fyddin oedd yn llety i geiswyr lloches

  • Cyhoeddwyd
gwersyll Penalun
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwersyll Penalun a'r maes tanio gerllaw, bellach ar werth

Mae gwersyll hyfforddi'r fyddin yn Sir Benfro, lle cafodd cannoedd o geiswyr lloches eu cartrefu yn ystod y pandemig, yn cael ei werthu gan Lywodraeth y DU.

Mae gwersyll Penalun ger Dinbych-y-Pysgod yn cynnwys maes tanio drylliau dros 220 acer - sy'n fwy na 100 cae pêl-droed.

Cafodd y gwersyll 14.3 acer ei ddefnyddio gyntaf yn y 1860au, ac mae'n cynnwys tua 50 o gytiau ac adeiladau eraill.

Mae cynghorydd sir lleol wedi awgrymu y gellid defnyddio'r tir ar gyfer tai fforddiadwy.

Protestiadau

Yn ystod y pandemig ym mis Medi 2020, symudodd y Swyddfa Gartref gannoedd o geiswyr lloches i'r gwersyll gan arwain at brotestiadau yn lleol, a chwynion gan Gyngor Sir Penfro, Llywodraeth Cymru a chomisiynydd Heddlu Dyfed-Powys.

Roedd y ceiswyr lloches hefyd yn cwyno am yr amodau byw yno.

Dywedodd archwilwyr ar y pryd fod y gwersyll mewn cyflwr gwael, ac yn ôl un o'r ceiswyr lloches, y cyfnod a dreuliodd yno oedd profiad gwaetha'i fywyd.

Wedi i'r gwersyll gael ei drosglwyddo'n ôl i ofal y Weinyddiaeyth Amddiffyn ym mis Mawrth 2022, cafodd ei gau ym mis Rhagfyr.

Disgrifiad o’r llun,

Bu'r ceiswyr lloches yn protestio am yr amodau byw yn y gwersyll yn ystod y pandemig

Mae manylion y gwerthiant i'w gweld ar wefan eiddo Llywodraeth y DU.

Mae'r maes tanio dros y ffordd i'r gwersyll ar yr A4139, ac mae darn o dir lle'r oedd gwaith trin carthion y barics hefyd yn cael ei werthu.

Bydd angen caniatâd cynllunio gan Gyngor Sir Benfro ar gyfer unrhyw ddatblygiad ar safle'r gwersyll, tra bod y maes tanio yn dod o dan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Phillip Kidney, nad oedd y cyngor yn ymwybodol bod y safle ar y farchnad, a'u bod wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Er hynny, ychwanegodd nad oedd y gwerthiant yn syndod ac mai'r ateb gorau fyddai defnyddio'r safle ar gyfer codi tai fforddiadwy.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Nid oes angen gwersyll Penalun bellach gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ac rydym yn cael gwared arno yn unol â phroses yr adran."