Stryd fawr: Cynnydd yn nifer y siopau gwag yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae un ymhob chwe siop yng Nghymru yn wag, a'r darlun yn "llwm" yn ôl pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru

Mae nifer y siopau gwag yng Nghymru wedi tyfu yn ail chwarter 2023, yn ôl data diweddaraf Consortiwm Manwerthu Cymru.

Yn ôl y consortiwm, mae un ymhob chwe siop yn wag, gyda Chymru yn parhau i fod yn un o'r gwledydd sy'n perfformio waethaf o'i gymharu â chyfradd gyfartalog y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi lansio "Cynllun Gweithredu Manwerthu i dyfu a chryfhau'r sector yn ystod cyfnod o newid sylweddol a dod â bywiogrwydd yn ôl i ganol ein trefi".

Ond mae'r darlun yn "llwm" ar hyn o bryd, yn ôl Sara Jones, pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru.

'Dim hyder i wario arian'

"Mae un o bob chwe siop yn parhau'n wag ar y stryd fawr yng Nghymru," meddai.

"Yn amlwg mae hynny'n newyddion drwg i'r economi gan fod manwerthu yn chwarae rhan mor annatod ond mae hefyd yn newyddion drwg i'r defnyddiwr a phobl sy'n dibynnu ar y sector am gyflogaeth."

Fe ddaw rhybudd y consortiwm wrth i fusnes Wilko fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gan adael cannoedd o swyddi yn y fantol.

Mae Dr Robert Bowen o Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd o'r farn bod diffyg hyder economaidd yn golygu bod pobl yn gwario llai o arian ar hyn o bryd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Robert Bowen fod chwyddiant wedi effeithio ar hyder pobl, a'u bod yn gwario llai o arian o ganlyniad

"Dros y misoedd diwethaf 'da ni 'di gweld lefelau uchel iawn o chwyddiant ac mae hynny 'di cael effaith ar bobl yn mynd allan i wario arian.

"Dyw'r hyder ddim gyda nhw ar hyn o bryd i fynd allan i wario lot o arian."

'Does dim byd yma'

I drigolion Casnewydd, mae'r stryd fawr yn colli ei hapêl.

"Rwy'n mynd i Gaerdydd neu Gwmbrân fel arfer er fy mod yn byw yng Nghasnewydd," meddai Jeanette Scurry.

"Ond meddyliais heddiw y byddwn yn dod i Gasnewydd. Dwi'm yn siŵr pam nes i drafferthu!

"Does dim byd yma. Mae'n llanast."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd rhai o drigolion Casnewydd eu bod yn teithio tu allan i'r ddinas er mwyn siopa oherwydd safon y stryd fawr

Ychwanegodd John Richards, 79: "Mae'n ddigalon - digalon iawn. Roeddwn i'n arfer dod i Gasnewydd a chael yr hyn yr oeddwn ei angen a mynd adref ag ef, ond dwi'n methu gwneud hynny mwyach.

"Mae angen i mi fynd allan o'r dref neu i un o'r archfarchnadoedd mawr."

Er yr heriau, mae Dr Bowen yn ffyddiog bod rhai esiamplau da o strydoedd mawr yng Nghymru, megis Treorci, lle mae ffocws amlwg ar sut i ddenu mwy o bobl.

'Busnesau yn fwy optimistaidd'

Mae Steven Salamon, sy'n rhedeg Wally's Deli yng Nghaerdydd, yn dadlau bod rheswm i fod yn hyderus, gyda phrofiad y cwsmer wrth wraidd ei gynllun i ddenu mwy o bobl.

"Rwy'n gweld llawer o fusnesau annibynnol yn agor," meddai.

"Yn yr arcedau yng Nghaerdydd rydyn ni wedi cael llawer o gyfnodau lle rydyn ni wedi gweld mwy o unedau gwag nag sydd gennym ni nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Steven Salamon ei fod yn optimistaidd wrth edrych tua'r Nadolig

Yn ôl Mr Salamon, mae nifer o fusnesau yn "fwy optimistaidd", yn enwedig wrth baratoi ar gyfer Nadolig heb gyfyngiadau Covid

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ein sector manwerthu yw un o gyflogwyr mwyaf y sector preifat yng Nghymru ac mae ganddo gyfraniad hanfodol i'w wneud i ganol ein trefi a'n dinasoedd a'n cymunedau gwledig.

"Ym mis Mai, lansiwyd ein Cynllun Gweithredu Manwerthu i dyfu a chryfhau'r sector yn ystod cyfnod o newid sylweddol a dod â bywiogrwydd yn ôl i ganol ein trefi."

Pynciau cysylltiedig