Buddsoddwr newydd ar y gweill i Rygbi Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Parc yr ArfauFfynhonnell y llun, Gareth Everett
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y rhanbarth fod diddordeb sylweddol wedi bod yn y clwb dros y misoedd diwethaf

Mae Rygbi Caerdydd ar fin cael cefnogaeth buddsoddwyr newydd yn dilyn cyfnod cythryblus i'r rhanbarth.

Dywedodd y rhanbarth fod cytundeb wedi'i arwyddo er mwyn "newid cyfranddaliadau'r clwb" ac y bydd hynny'n arwain at "fuddsoddiad sylweddol".

Fis Mehefin fe wnaeth Rygbi Caerdydd wadu eu bod ar fin uno gyda'r Gweilch, a thua'r un pryd datgelwyd eu bod yn ystyried ceisiadau ar gyfer cyfranddaliadau'r cyn-gadeirydd Peter Thomas, fu farw ym mis Mawrth.

'Amser i gamu o'r neilltu'

Mewn datganiad yn cadarnhau fod buddsoddwyr newydd ar y gweill, dywedodd y rhanbarth fod diddordeb sylweddol wedi bod yn y clwb dros y misoedd diwethaf.

"Mae cytundeb wedi'i gyrraedd gydag un o'r grwpiau hynny bellach, sydd â chysylltiad personol hir gyda Rygbi Caerdydd, ond dim buddsoddiadau mewn rygbi proffesiynol," meddai.

Ychwanegodd y clwb y bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rannu unwaith i'r broses weinyddol gael ei chwblhau.

Mae'r cynllun hefyd wedi derbyn cefnogaeth teulu Peter Thomas, a ddywedodd ei bod yn "amser i gamu o'r neilltu a gadael i rywun arall gymryd yr awenau".