'Argyfwng' tai Cernyw a Chymru i'w drafod gan wleidyddion
- Cyhoeddwyd
Mae effaith ail gartrefi ar Gernyw yn ne orllewin Lloegr yn cael ei ddisgrifio fel "un o'r argyfyngau mwya' sy'n wynebu'r ardal".
Mae prisiau tai a rhent uchel yn golygu fod pobl leol yn gorfod symud o'r ardal i fyw.
Mae'r sefyllfa yn un o'r pynciau fydd yn cael ei drafod gyntaf mewn cytundeb pum mlynedd newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Cernyw.
Y bwriad yw elwa o gyfleon fel ynni adnewyddadwy o'r môr, rhannu profiadau a dysgu gwersi am broblemau fel ail gartrefi.
Ar gyfartaledd yn Ionawr 2022 roedd tŷ yn costio £302,000 i brynu yng Nghernyw, o'i gymharu â £286,000 ar gyfartaledd yn Lloegr gyfan.
Ond gyda chyflogau pobl yng Nghernyw yn isel iawn, gyda'r isaf yng Nghymru a Lloegr, mae'r cyfuniad yn creu pryder a thorcalon i nifer.
'Prisau yn codi'
Mae hen dref ddiwydiannol Camborne yn un o'r llefydd lle mae tai yn rhatach i'w prynu, ond hyd yn oed fan hyn mae pethau'n newid a phrisau'n codi, yn ôl Ieuan Harries - sy'n wreiddiol o ardal Tyddewi ond wedi byw yn Camborne am 40 mlynedd.
"Mae prisau tai wedi mynd yn ddychrynllyd rownd ffor' hyn," dywedodd. "Mae lot o'r tai yn Airbnb."
"Roedd byngalo yn y pentre ger lle dwi'n byw wedi mynd ar y farchnad am 10:00 am £200,000, ac erbyn 11:00 roedd e 'di mynd am dros £300,000, a dau berson o Lundain yn bidio yn erbyn ei gilydd.
"Dyna beth sy'n digwydd drwy'r amser."
Mae mesurau sydd wedi eu cyflwyno yng Nghymru i geisio mynd i'r afael â'r broblem yn cael eu hastudio yn ofalus gan y cyngor lleol, yn ôl Arweinydd Cyngor Cernyw, Linda Taylor.
"Mewn ardaloedd arfordirol mae cymunedau wedi eu gweddnewid yn gyfan gwbl oherwydd ail gartrefi," dywedodd.
"Ry'n ni'n gwybod fod ail gartrefi yn bwysig iawn i'n cymunedau ni, ond mae'n rhaid i ni gael y balans yn iawn.
"Dyw hi ddim yn beth da i fod yn cerdded drwy bentre' glan môr ym misoedd y gaea' a does dim golau 'mlaen yn 50% o'r tai yno."
Mae'r cynghorydd Dick Cole, arweinydd plaid Meibion Kernow yn croesawu'r cytundeb newydd gyda Chymru ond yn dweud bod angen pwerau i Gernyw ddelio â thai a'r economi, gyda gwersi i'w dysgu gan Gymru.
"Mae'r cytundeb newydd yma yn un rhan o bethe' sy'n digwydd ar y funud," dywedodd.
"Rwy'n gobeithio bydd llawer o hyn yn newid y naratif ac yn newid sut ma' pobl yn gweld Cernyw."
Yn ôl ffigyrau diweddaraf y system drethi, mae dros 13,000 o ail gartrefi yng Nghernyw ac mae prisau tai a rhent yn codi.
Fe fydd yr argyfwng yn un o'r pynciau cyntaf i gael ei drafod gan y gweithgor sydd wedi ei sefydlu gan y cytundeb newydd.
Mae'n ddyddiau cynnar i'r cytundeb ond y bwriad yw cynnal pedwar cyfarfod rhithiol y flwyddyn.
Wrth i Gymru ymdrechu i fynd i'r afael â'r broblem ail gartrefi a thrafod mesurau newydd a newidiadau, mae Cernyw yn gobeithio bod yn rhan o'r drafodaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2023
- Cyhoeddwyd1 Medi 2023