Ymchwilio i ffordd 'warthus' drwy fynwent capel ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i ffordd fynediad at faes parcio gael ei hadeiladu trwy ran o hen fynwent ger capel ym Mhowys.
Mae teuluoedd pobl sydd wedi'u claddu yng Nghapel Bethany yn Hodley ger Y Drenewydd yn dweud bod cerrig beddi wedi'u symud, ac maen nhw'n honni bod rhai wedi mynd ar goll.
Mae Ymddiriedolaeth Neuadd Dolafan - rhan o eglwys Gristnogol y Plymouth Brethren - yn adnewyddu'r capel i fod yn fan cyfarfod i'w haelodau.
Fe gafodd yr ymddiriedolaeth ganiatâd cynllunio y llynedd i "newid defnydd tir i greu maes parcio a mynediad i gerbydau".
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth eu bod yn deall bod "rhai perthnasau i bobl a gladdwyd ar dir Capel Bethany yn pryderu am ein gwaith adfer".
Ychwanegon nhw: "Ry'n ni am sicrhau pawb ein bod yn cadw'n ofalus iawn at y caniatâd cynllunio a roddwyd."
Doedd y cais cynllunio ddim wedi cael cefnogaeth y cyngor cymuned lleol na'r awdurdod priffyrdd, a nododd Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys (CPAT) statws rhestredig Gradd II y capel ac y byddai'r gwaith arfaethedig "o fewn ardal yr hen fynwent".
Roedd llythyr a anfonwyd gan aelodau'r gymuned yn codi cwestiynau am yr effaith ar feddi.
Er y pryderon hyn ac er bod Cyngor Powys wedi nodi bod y cais yn "brin o fanylion", cafodd y datblygiad ganiatâd gan swyddog cynllunio dan bwerau dirprwyedig. Chafodd y cais ddim ei drafod gan y pwyllgor cynllunio.
Cafodd y datblygiad - sydd yn ôl yr adroddiad ar 'dir amaethyddol' - ei ddisgrifio fel un y "gellir ei reoli i lefel dderbyniol ac yn unol â pholisi cynllunio perthnasol."
Carreg bedd 'ar goll'
Ond, mae perthnasau pobl sydd wedi'u claddu yno yn dweud bod y gwaith yn "warthus" ac "ansensitif".
Maen nhw'n dweud eu bod wedi cael eu gadael mewn trallod o weld y ffordd fynediad wedi'i hadeiladu ar fan gorffwys anwyliaid.
Maen nhw'n dweud nad oedd perchnogion y capel na'r cyngor wedi cysylltu gyda nhw cyn i'r gwaith adnewyddu ddechrau.
Mae neiniau a theidiau a hen daid a nain y teulu White/Lewis wedi eu claddu yn y fynwent.
Mewn datganiad dywedodd y teulu: "Ry'n ni i gyd wedi ein syfrdanu ac wedi'n tristau'n fawr.
"Nid oes yr un ohonom ni wedi cael unrhyw gyfathrebiaeth ynglŷn â'n barn ar y datblygiad cwbl amhriodol hwn.
"Ry'n ni'n galw am sicrwydd a thystiolaeth nad yw gweddillion ein hanwyliaid wedi cael eu haflonyddu na hyd yn oed eu cymryd i ffwrdd."
Dywed y teulu fod carreg o fedd eu tad-cu a'u mam-gu, er cof am John Davies Lewis ac Olive Lewis ar goll, ac maen nhw'n galw ar Gyngor Powys a heddlu Dyfed Powys i atal y gwaith ar safle'r capel ac i adfer ac ail-gysegru'r fynwent "i'w gyflwr blaenorol fel y gall aelodau ein teulu orffwys unwaith eto mewn heddwch".
Mae'r Ymddiriedolaeth yn mynnu nad yw beddfeini wedi'u colli oherwydd y gwaith adnewyddu.
Mae Jackie Davies yn perthyn drwy briodas i bobl a gafodd eu claddu yn Hodley.
Dechreuodd hi dudalen ar y cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â theuluoedd eraill.
"Mae perthnasau wedi bod mewn cysylltiad â ni, wedi dychryn bod hyn wedi digwydd i'w hanwyliaid sydd wedi cael eu rhoi i orffwys yma," meddai.
"Maen nhw'n ypset ofnadwy."
'Cwestiynau angen eu hateb'
Cysylltodd nifer o deuluoedd ag Elwyn Vaughan, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Powys.
Fe ddywedodd Mr Vaughan: "Mae nifer o gwestiynau sydd angen eu hateb am y broses gynllunio.
"Mae gen i bryderon bod y cais wedi'i ganiatáu er bod yr Adran Briffyrdd yn ei wrthwynebu, roedd y swyddog treftadaeth yn ei wrthwynebu, ac roedd CPAT yn codi pryderon - ac eto cafodd y cais ei wthio drwodd.
"Gan bwy a pham?"
Dwedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i adroddiad o ddifrod troseddol wrth y capel ac mae Cyngor Powys yn cynnal ymchwiliad i achos o dorri amodau caniatâd cynllunio.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae'r cyngor yn ymwybodol o bryderon a godwyd yn ddiweddar mewn perthynas â'r gwaith sy'n cael ei gwblhau ym mynwent Capel Bethany, Hodley.
"Rhoddwyd caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer ail-leoli chwe charreg fedd o dan gais P/2011/0258, a gafodd ganiatâd ym mis Chwefror 2012. Byddai angen caniatâd ar wahân gan y Swyddfa Gartref ar gyfer gwaith ar unrhyw feddau a chafodd yr asiant wybod am y gofyniad hwn.
"Ers hynny mae caniatâd cynllunio wedi'i roi ar gyfer newid defnydd tir i greu man parcio a chreu mynedfa i gerbydau ym Mehefin 2022. Nid oedd y cais hwn yn ceisio ail-leoli unrhyw gerrig beddi pellach.
"Mae'r cyngor wedi cael gwybod am bryderon a godwyd ynghylch y gwaith sy'n mynd rhagddo yng Nghapel Bethany ac mae ganddo achos gorfodi agored lle mae'n ymchwilio i dorri amod mewn perthynas â chaniatâd cynllunio.
"Gall y cyngor gadarnhau bod yr asiant a'r Swyddfa Gartref wedi cael gwybod am y pryderon ar gyfer eu hymchwiliadau eu hunain."
'Cadw'n ofalus iawn at y caniatâd'
Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Dolafon bod aelodau o'i chynulleidfa wedi "byw a gweithio yn yr ardal am sawl blwyddyn ac ein blaenoriaeth lwyr erioed fu bod yn gymdogion da a chefnogi'r gymuned leol, gan gynnwys drwy weithgarwch elusennol helaeth".
Ychwanegodd y llefarydd: "Deallwn fod rhai perthnasau i'r rhai a roddwyd i orffwys ar dir Capel Bethany yn bryderus ynghylch ein gwaith adfer.
"Dymunwn sicrhau pawb ein bod yn cadw'n ofalus iawn at y caniatâd cynllunio a roddwyd gan Gyngor Sir Powys wrth i ni gyflawni'r gwaith adfer pwysig hwn.
"Cafodd y caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu'r safle a'i dir ei roi tra roedd y capel dan berchnogaeth flaenorol, ac ers hynny ry'n ni wedi gweithio'n agos gyda'r Cyngor ac awdurdodau perthnasol eraill i sicrhau bod ein cynlluniau'n cael eu cyflawni'n sensitif ac yn briodol.
"Ry'n ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda'r gymuned i sicrhau bod y gwaith yng Nghapel Bethany yn cael ei gwblhau gyda'r parch a'r tosturi mwyaf i ail-sefydlu'r capel fel man addoli."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2021