Cwpan y Byd: 'Ni'n barod i gefnogi Gareth!'

  • Cyhoeddwyd
Gareth ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd mam Gareth Thomas "oedd jyst yn ffantastig" pan glywodd byddai ei mab yn chwarae yng Nghwpan y Byd

Roedd yna ddathlu mawr yng nghartref y teulu Thomas o bentref bach Llandyfriog, ger Castellnewydd Emlyn, pan gyrhaeddes i yno ben bore.

Dyma le cafodd Gareth Thomas, prop Cymru yn y gêm yn erbyn Fiji ddydd Sul, ei eni a'i fagu.

Roedd ei fam, Meinir, a'i chwaer, Ffion, yn wên o glust i glust ac yn llawn prysurdeb wrth bacio eu bagiau er mwyn hedfan i Bordeaux ar gyfer y gêm.

Yn dawel bach fe wnaeth Ffion gyfaddef ei bod hi wedi prynu ei thocyn ymlaen llaw.

"Ro'n i yn hyderus y bydde Gareth yn chwarae", meddai. "Rwy'n berson optimistaidd wrth natur."

Roedd Meinir ychydig bach yn fwy gofalus, ond pan glywodd hi'r newyddion bod Gareth wedi cael ei ddewis fe ruthrodd hi mas i gael ei thocyn.

Mae'r ddwy nawr wedi pacio eu dillad a'u baneri er mwyn ymuno â'r dorf enfawr o gefnogwyr sy'n gobeithio ysbrydoli'r tîm i fuddugoliaeth.

Roedd y foment clywodd bod Gareth yn chwarae yn un emosiynol iawn i Meinir.

"O'n i bwyti llefain, o'n i moyn chwerthin hefyd achos o'n i mor excited. Ac i fod yn onest ro'n i yn gobeithio, ond symoi byth yn disgwyl.

"Ond pan weles i enw fe o'n i mor falch, o'n i yn crynu, ac oedd e just yn ffantastig. Rwy' mor, mor hapus."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Gareth Thomas yn edrych ymlaen at ei gefnogi allan yn Ffrainc

Yn ôl Ffion mae cyrraedd Cwpan y Byd wedi bod yn uchelgais i Gareth ers roedd yn blentyn.

"Mae 'di bod yn freuddwyd erioed i Gareth i fynd mas a chwarae dros Gymru," dywedodd.

"Mae e 'di bod yn benderfynol iawn i gynrychioli ei wlad yn enwedig yng Nghwpan y Byd. A dyma ni chi. Ei holl waith caled e wedi talu ar ei ganfed!"

'Mae e wastad yn falch dod adre'

Mae tŷ'r teulu o fewn tafliad carreg i gae rygbi Castellnewydd Emlyn ac yn ôl Meinir "mae ei wreiddiau yn y dre yn bwysig iawn" iddo.

"Fe ddechreuodd e chwarae rygbi pan oedd tua chwech neu saith mlwydd oed, ac mae nawr wedi teithio'r byd.

"Ond ma' fe wastad yn falch iawn i gael dod nôl gartre, ac mae e yn falch iawn o ble ma' fe yn dod.

"Mae y coaches ar hyd y ffordd wedi bod mor gefnogol iddo fe. Ac mae record dda gan y dre' o ran sêr gyda y ddau Gareth yn cael cyfle - Gareth ni a Gareth Davies."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Gareth Thomas ei fod yn falch iawn o'i wreiddiau

Wrth edrych nôl ar ei ddyddiau cynnar mae Meinir yn dweud ei bod hi wedi gweld dawn Gareth yn ifanc iawn.

"O'n i wastad fel mam yn meddwl taw fe oedd y chwaraewr gorau. Oedd e ddim wastad yn bihafio a dilyn y rheolau, ond ewn ni ddim mewn i hynny," meddai gan chwerthin.

"Ond ma' fe 'di bod yn gymeriad erioed ac yn real dderyn ers pan oedd e yn grwt bach.

"Mae hefyd yn deg i ddweud ei fod e wedi cael ambell gnoc yn ei yrfa, ac wedi cael ei daro lawr, ond ma' fe 'di codi nôl lan bob tro a dilyn ei freuddwyd a fi mor, mor prowd ohono fe."

A bydd un cefnogwr ychwanegol gan Gareth Thomas eleni - ei ferch fach Hali Ann, sydd yn 10 mis oed.

"Gobeithio bydd hi llawn mor ddrwg â'i thad," medd Meinir. "A bydd hi yn siŵr o fod yn clapio a wafo a gwylio y gêm."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Warren Gatland wedi dewis 19 o flaenwyr a 14 o olwyr yn ei garfan o 33 o chwaraewyr

Mae Meinir a Ffion yn cyfaddef fod her fawr i ddod i Gymru ond maent yn rhagweld buddugoliaeth.

"Hon yw y gêm gynta'... ond fi yn ffyddiog iawn am y canlyniad, just fel o'n i yn ffyddiog y bydde Gareth yn chwarae," meddai Ffion.

A dyw ei mam ddim yn anghytuno â hi. "Fi yn gobeithio enillwn ni," dywedodd. "A fi yn siŵr, os newn nhw chwarae fel ma' nhw'n gallu chwarae, gallen nhw ennill.

"Mae Fiji yn fois mawr cryf ond mae y gallu gan Gymru a'r cryfder. Fi yn siŵr newn nhw chwarae eu calonnau mas ac ennill."

'Ni yn barod'

Pan dwi'n gofyn beth fydd ym meddwl Gareth cyn iddo fynd mas ar y cae, mae ei fam a'i chwaer yn dweud bod hynny'n rhywbeth na allan nhw ateb.

"Symo fe yn siarad am ddim byd a ni o ran y gêm, ma' fe eitha' preifat," meddai Meinir.

Dyfalu mae Ffion hefyd, ond mae hi'n credu y bydd ei brawd yn "lico cael bach o amser ei hunan cyn gêm fawr. Un fel 'na yw Gareth".

Mae Meinir yn wên o glust i glust. Ond mae nawr yn dechrau edrych ar y cloc a'i ffon - mae gan y ddwy awyren i ddal.

"Mae y baneri i gyd wedi eu pacio a'u personoli," meddai Meinir. "Ni yn barod."

Ond cyn i fi adael llonydd iddyn nhw er mwyn cychwyn ar yr antur fawr i Bordeaux mae Meinir yn troi ata i â'i llygaid yn pefrio a'n dweud: "Fi yn super, super excited."