Grantiau wedi Brexit: 'Angen llais cryfach i Gymru'
- Cyhoeddwyd
Dylai Llywodraeth Cymru "chwarae mwy o ran yn y gwaith o ddatblygu a chyflwyno'r cronfeydd" sydd wedi cymryd lle rhai'r Undeb Ewropeaidd, medd un o bwyllgorau trawsbleidiol Senedd Cymru.
Er taw nhw oedd yn rheoli grantiau'r UE, ni chafodd gweinidogion Llafur Cymru yr un hawl yn achos cronfa newydd Llywodraeth y DU, sy'n werth £585m.
Mae yna bryderon bod eu habsenoldeb o'r broses wedi achosi problemau, ac mae'r Pwyllgor Economi ym Mae Caerdydd - sy'n cael ei gadeirio gan gyn-arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd - yn galw ar lywodraeth San Steffan i gydweithio mwy gyda gweinidogion ym Mae Caerdydd.
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r sefyllfa wedi gadael Cymru â "llai o ddweud dros lai o arian o fewn system anhrefnus sy'n methu â chefnogi swyddi, prosiectau a gwasanaethau yn y llefydd sydd eu hangen".
Oherwydd natur economi Cymru, roedd rhan helaeth o'r wlad yn arfer elwa o arian Ewropeaidd - cronfeydd strwythurol oedd yn werth £375m y flwyddyn ar gyfartaledd.
Mae cronfa newydd Llywodraeth y DU - y Gronfa Ffyniant Gyffredin - yn ei lle ers 2022 ac mae'r rownd gyntaf ei grantiau'n rhedeg tan 2025.
Cafodd cyfanswm o £89m ei ddosrannu yn y flwyddyn gyntaf, £153m ar gyfer yr ail a £343m ar gyfer blwyddyn olaf y rownd.
Yn wahanol i'r arian Ewropeaidd, fe weithiodd Llywodraeth y DU yn uniongyrchol gyda chynghorau rhanbarthol, a'u gweinidogion nhw oedd yn cymeradwyo cynlluniau buddsoddi.
Mae targedau ar gyfer yr arian yn cynnwys gwelliannau cymunedol lleol, fel rhai mewn canol trefi, a chefnogi busnesau.
Fe glywodd Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd - sy'n cynnwys dau AS Ceidwadol - dystiolaeth bod diffyg cyfraniad Llywodraeth Cymru wedi arwain at "nifer o broblemau cychwynnol".
Mae'r problemau sydd wedi eu nodi yn cynnwys dyblygu posib, trafferthion cwblhau prosiectau at draws ardal ehangach sy'n cwmpasu mwy nag un sir, a diffyg atebolrwydd i'r Senedd am gyllidebau sy'n cael eu gwario yng Nghymru.
Clywodd y pwyllgor bod cyrff sy'n dymuno gweithio mewn mwy nag un ardal yn gorfod cyflwyno sawl cais, sydd yn aml â gofynion gwahanol.
'Effaith negatif'
"Mae rhanddeiliaid yn credu bod diffyg unrhyw gydlynu ar lefel Llywodraeth Cymru yn natblygiad neu gyflawniad y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi cael effaith negatif, a dylen nhw gael rhan glir mewn cyllido wedi 2025," mae'n dweud.
Ychwanegodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth y DU "ystyried sut y gallai Llywodraeth Cymru gynorthwyo cyflawniad a dyluniad" rownd nesaf y gronfa.
Mae'r ASau hefyd yn galw ar weinidogion San Steffan i sefydlu "corff Cymru gyfan i gefnogi cydlynu rhanbarthol" a chydweithio gyda Llywodraeth Cymru, ac adolygu a ddylid gweithredu gwahanol elfennau ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol.
"Mae ariannu datblygiad economaidd yng Nghymru yn gyfrifoldeb a rennir - mae'n flaenoriaeth i bawb," dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Paul Davies.
"Er mwyn i gyllid datblygu weithio i bobl Cymru, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gydweithio'n fwy effeithiol.
"Mae angen i sefydliadau hefyd wybod y bydd y cymorth yn parhau ac mae angen sicrwydd ar bobl.
"Rhaid inni gael sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd cyllid yn parhau y tu hwnt i 2025, pan fydd y cylch ariannu presennol hwn yn dod i ben."
'Llwyddiant economaidd Cymru mewn perygl'
Ychwanegodd Mr Davies: "Rydym ar gam cynnar yn y broses, ond mae llwyddiant economaidd Cymru mewn perygl os na fydd llywodraethau'n cydweithio ar drefniadau ariannu yn y cyfnod ar ôl gadael yr UE.
"Dyna pam rydym heddiw yn gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i werthuso'r hyn sy'n digwydd a gwella'r system ar gyfer y blynyddoedd i ddod."
Clywodd y pwyllgor bryderon hefyd bod rhai cynghorau'r blaenoriaethu eu prosiectau eu hunain ar gyfer arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Mae ASau'n galw ar Lywodraeth y DU i edrych i'r mater a sicrhau "cyfle teg" i bob sefydliad elwa o'r cyllid.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu'r adroddiad yma ac yn rhannu pryderon difrifol y pwyllgor ynghylch yr arian yma.
"Mae proses Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU wedi gadael Cymru â llai o ddweud dros lai o arian o fewn system anhrefnus sy'n methu â chefnogi swyddi, prosiectau a gwasanaethau yn y llefydd sydd eu hangen.
"Mae trywydd y DU hefyd wedi dadwneud datganoli trwy ganoli pob penderfyniad yn Whitehall."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2022