Pensiynau preifat: Menywod yn cael 35% yn llai na dynion
- Cyhoeddwyd
Mae cyfrifoldebau gofalu yn cael effaith negyddol ar ymdrechion menywod i gynilo ar gyfer eu hymddeoliad, yn ôl arbenigwyr ar bensiynau.
Yn ôl un amcangyfrif, mae gwahaniaeth o 35% yng ngwerth pensiynau preifat menywod o'i gymharu â dynion.
Mae pensiynau preifat fel arfer yn cael eu cynnig gan gyflogwyr, neu gallen nhw fod yn rhai personol gyda chwmnïau annibynnol.
Mae cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith neu weithio rhan amser yn golygu cyfrannu llai o arian i'r pensiwn.
'Y gwahaniaeth yn dra gwahanol'
Mae Rowan Davies, 34, o Gaerdydd, ar ei hail gyfnod mamolaeth ac yn gofalu am ei phlentyn ieuengaf, Mabon, sy'n bum mis oed.
Mae hi'n "ymwybodol iawn" o sefyllfa pensiynau ac yn bwriadu mynd yn ôl i'r gwaith ymhen chwe mis.
"Fi'n meddwl fel cartref, rydyn ni yn trafod lot am faint o arian sy'n dod mewn, faint o arian sydd eisiau tuag at y dyfodol i ni ac i'r plant, ac mae pensiwn yn rhan o'r drafodaeth 'na," meddai.
"Fi wedi gorfod cymryd cyfnod mamolaeth i edrych ar ôl dau o blant, a fi wedi gorfod mynd lawr i bedwar diwrnod yr wythnos - sy'n cael ei gyfri' fel rhan amser - achos bod costau gofal plant mor ddrud.
"So bydd y gwahaniaeth rhwng pot pensiwn fi a fy ngŵr yn dra gwahanol."
Ychwanegodd: "Mae yna lot o wybodaeth ynglŷn â phensiynau ond dwi'n teimlo bod rhaid i chi fynd i chwilio amdano yn lle bod y wybodaeth yn cael ei gyflwyno ar adeg da.
"Ar ddiwedd cyfnod mamolaeth dydych chi ddim rili mewn lle yn feddyliol i eisiau meddwl am bethau sy'n ymwneud â chyllid."
'Diwylliant sy'n fwy cefnogol'
Mae elusen cydraddoldeb Chwarae Teg yn galw ar gyflogwyr i wneud mwy i gefnogi menywod sydd â chyfrifoldebau gofalu er mwyn galluogi iddyn nhw aros yn y gweithle.
"Gallen nhw helpu menywod trwy gyflwyno ymarferion gweithio hyblyg, gallen nhw gynnig cyfnod tadolaeth fwy hael neu fwy hyblyg," meddai Bethan Airey o'r elusen.
"Gallen nhw hefyd ddatblygu diwylliant sy'n fwy cefnogol o fenywod a'r gwahanol bethau sy'n effeithio arnyn nhw yn uniongyrchol."
Er bod yna fwlch sylweddol rhwng pensiynau preifat, mae'r bwlch ym mhensiynau wladwriaeth rhwng dynion a menywod wedi gostwng yn sylweddol, ac mae disgwyl i hynny fod yn gyfartal erbyn y 2040au cynnar.
Ond mae adroddiad diweddar gan ymgynghorwyr pensiynau Lane Clark and Peacock yn rhagweld mai bychan iawn fydd y newid yn y bwlch rhwng pensiynau preifat dynion a menywod.
Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth y DU ei bod newydd gyhoeddi'r mesur swyddogol cyntaf sy'n cadw cofnod o'r bwlch rhwng pensiynau dynion a menywod.
Dywedodd mai'r gobaith yw y bydd hyn yn helpu'r llywodraeth, diwydiannau a chyflogwyr i sicrhau bod y bwlch yn cau a chaniatáu menywod i edrych ymlaen at eu hymddeoliad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd16 Mai 2023
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2017