Cymeradwyo dau helipad newydd i Ysbyty Gwynedd
- Cyhoeddwyd
![Ambiwlans Awyr Cymru](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/6168/production/_131063942_e93d12b7-a88d-4d4c-8af4-534ad81ad19b.jpg)
Mae cynllun i adeiladau dau helipad newydd ar dir Ysbyty Gwynedd wedi ei cael ei gymeradwyo gan bwyllgor cynllunio'r Cyngor Sir.
Daw'r penderfyniad wedi asesiad o'r adnoddau presennol ar safle'r ysbyty ym Mhenrhosgarnedd, gyda'r adroddiad hwnnw'n dod i'r casgliad bod angen "uwchraddio a gwella'r ddapariaeth".
Y cynllun yw i gael gwared â'r lanfa bresennol, ac adeiladu dwy newydd ar yr un safle, tua 150 metr o'r ysbyty.
Dywedodd yr adroddiad fod y ddarpariaeth bresennol wedi bod yn brysur iawn, "yn enwedig o ystyried y ffaith fod poblogaeth y sir yn dyblu yn ystod misoedd yr haf a bod Parc Cenedlaethol Eryri'n rhan o'r ardal".
![Ysbyty Gwynedd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/3A58/production/_131063941_5f7d0edb-3ce4-4428-8b13-be170b5dcc9a.jpg)
Nododd y ddogfen fod yr ysbyty wedi derbyn 158 claf drwy hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru neu Wasanaethau Chwilio ac Achub rhwng 1 Rhagfyr 2020 a 30 Tachwedd 2021.
Mewn adroddiad arall, nododd yr Awdurdod Hedfan Sifil, fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gwasanaethu poblogaeth o tua 250,000, a gan bod sawl ardal yn gyrchfan wyliau, bod y boblogaeth i bob pwrpas yn dyblu dros fisoedd yr haf.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, chafwyd dim gwrthwynebiadau, ac fe gafodd y cynlluniau eu cymeradwyo gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gwynedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd23 Medi 2022