Cyhuddo dyn o lofruddio wedi marwolaeth yn Llanelli
- Cyhoeddwyd
![Ashley Sasero](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/13C63/production/_131059908_4e763b17-118b-4620-9148-d34e5be99167.jpg)
Dywedodd teulu Ashley Sasero y bydd colled enfawr ar ei ôl
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 26 oed yn Sir Gâr y penwythnos diwethaf.
Bu farw Ashley Sarsero yn gynnar fore Sul yn ardal Maestir yn Llanelli.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod James Alan Smith, 35 oed o Lanelli, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Mae dyn arall o'r dref - Stephen George Morgan, 36 oed - wedi'i gyhuddo o roi cymorth i droseddwr.
Mae disgwyl i'r ddau ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau.
Mae dyn arall 38 oed a gafodd ei arestio fel rhan o'r ymchwiliad wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
![Maestir, Llanelli](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1168A/production/_131060317_bfb018fa-839b-4472-9d74-e85781607251.jpg)
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Maestir yn Llanelli yn gynnar fore Sul
Mewn datganiad, dywedodd teulu Mr Sarsero y bydd colled enfawr ar ei ôl.
"Byddai ein bachgen annwyl yn goleuo pob ystafell.
"Roedd yn frawd cariadus i Emily, Rosie, Zach a Liam, yn bartner i Jade ac yn fab ffyddlon i Claire a Wayne."
Mae'r heddlu'n parhau i ofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2023
- Cyhoeddwyd10 Medi 2023