Rhoi mêr esgyrn: 'Hi wnaeth achub fy mywyd i'

  • Cyhoeddwyd
Taisha a KirstyFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Gwaed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Taisha Taylor a Kirsty Burnett yn annog eraill i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru

Mae pobl yn cael eu hannog i ymuno â'r gofrestr i roi mêr esgyrn, ar ôl i ymgyrch byd-eang i achub bywyd menyw o Gymru ganfod rhoddwr cymwys 15 milltir yn unig i ffwrdd.

O'r 40 miliwn o bobl ledled y bydd sydd wedi cofrestru i roi mêr esgyrn (bone marrow), roedd Kirsty Burnett yn berffaith i fod yn rhoddwr i Taisha Taylor.

Oherwydd hynny roedd modd i Taisha wella o gyflwr prin oedd yn bygwth ei bywyd.

Mae'r ddwy nawr yn annog pobl i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru er mwyn ceisio achub mwy o fywydau.

Mae mêr esgyrn yn cael ei ganfod yng nghanol rhai esgyrn, ac ynddynt mae celloedd gwaed pwysig.

Mae trawsblaniad mêr esgyrn yn gallu cael ei ddefnyddio i drin rhai mathau o ganser, yn ogystal â chyflyrau gyda'r system imiwnedd.

Gobaith olaf

Cafodd Taisha Taylor, 20 oed o Drecelyn yn Sir Caerffili, ei geni gyda chyflwr prin CGD - chronic granulomatous disease.

Mae pobl sydd â'r cyflwr yn cael problemau gyda'u system imiwnedd, sy'n eu gadael yn fregus ac yn golygu y gall y salwch lleiaf droi'n fygythiad i'w bywydau.

Roedd yn rhaid i Taisha ddefnyddio cadair olwyn yn aml, ac roedd ganddi broblemau symudedd, arthritis, lwpws a blinder llethol.

Wedi i nifer o driniaethau eraill fethu, ei gobaith olaf o wella oedd canfod rhoddwr mêr esgyrn.

Fe wnaeth hi ymuno â'r rhestr i ganfod rhoddwr yn 14 oed, ac o fewn misoedd cafodd wybod bod yna roddwr cymwys.

Ffynhonnell y llun, Kirsty Burnett
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kirsty ei bod wedi synnu pa mor hawdd oedd y broses o roi mêr esgyrn

Fe wnaeth Kirsty, 24 oed o Gasnewydd, ymuno â'r gofrestr i roi mêr esgyrn wrth iddi roi gwaed pan oedd hi'n 17.

Roedd hi wedi anghofio am y peth tan iddi gael gwybod ei bod hi'n gymwys i fod yn rhoddwr i ferch 15 oed rhywle yn DU, ond doedd hi ddim yn gwybod pwy.

Teithiodd i glinig yn Newcastle ar gyfer y driniaeth, ac roedd hi'n synnu ei bod hi'n broses mor hawdd.

"Nes i eistedd gyda phibell yn y ddwy fraich yn gwylio Netflix am wyth awr a bwyta snacks!" meddai Kirsty.

'Teimlo fel person normal'

Diolch i'r rhodd gan Kirsty, Taisha oedd un o'r menywod cyntaf trwy'r byd i wella o gyflwr CGD.

"Fi'n gallu gwneud popeth nawr - rwy'n teimlo fel person normal," meddai Taisha.

"Does dim byd yn fy nal i'n ôl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Taisha a Kirsty bellach yn ffrindiau agos

Ond roedd Taisha a Kirsty eisiau cael gwybod pwy oedd ar ochr arall y trawsblaniad.

Mae rhoddwyr a chleifion yn ddienw ar y pryd, ond dwy flynedd ar ôl y driniaeth mae modd cael gwybod pwy yw'r person arall os yw'r ddwy ochr yn dymuno gwneud hynny.

Dyna pryd y gwnaeth y ddwy sylweddoli eu bod yn byw dim ond 20 munud i ffwrdd o'i gilydd.

"Roedd cael clywed fod popeth wedi mynd yn dda a'i bod hi'n iach yn anhygoel," meddai Kirsty.

Mae'r ddwy bellach yn ffrindiau agos, ac wedi cael yr un tatŵ er mwyn nodi'r hyn sy'n eu huno.

'Dyma'r peth rwy'n fwyaf balch ohono'

Fe wnaeth Kirsty a Taisha rannu eu stori ar Ddiwrnod Rhoi Mêr Esgyrn y Byd er mwyn annog pobl eraill i fod ar y gofrestr.

"Fe wnaeth hi achub fy mywyd i," meddai Taisha.

"Mae unrhyw beth rwy'n gwneud, yn llythrennol, diolch iddi hi."

Ychwanegodd Kirsty: "Dydych chi byth yn gwybod pryd y gallech chi neu rywun rydych chi'n ei garu ei angen, ac rydych chi'n gobeithio y byddai rhywun yn gwneud yr un peth iddyn nhw.

"Yn bendant dyma'r peth rwy'n fwyaf balch ohono."

Ffynhonnell y llun, Kirsty Burnett
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kirsty a Taisha wedi cael yr un tatŵ er mwyn nodi'r hyn sy'n eu huno

Ond yn ôl pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, nid pawb sydd mor lwcus â Taisha.

"Rydyn ni angen mwy o bobl ifanc i ymuno â'r gofrestr," meddai Christopher Harvey.

"Ar hyn o bryd, dyw tri o bob 10 claf ddim yn canfod rhoddwr cymwys, ac mae'r ffigwr yna'n codi i saith ym mhob 10 os ydych chi o gefndir du, Asiaidd neu leiafrif ethnig.

"Siaradwch gyda phobl ifanc am y gofrestr yma, all newid bywydau, a rhoi cyfle i fwy o gleifion wella o'u salwch."

Pynciau cysylltiedig