Aflonyddu gêm bêl-droed yn rhoi teimlad 'anniogel'

  • Cyhoeddwyd
Johanna Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Johanna Robinson yw Cynghorydd Cenedlaethol Cymru ar drais yn erbyn menywod, trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais Rhywiol

Mae Cynghorydd Cenedlaethol Cymru ar drais yn erbyn menywod wedi bod yn disgrifio sut y cafodd ei haflonyddu gan ddyn mewn gêm bêl-droed.

Dywedodd Johanna Robinson i'r ymosodiad ddigwydd yn ystod gêm bencampwriaeth rhwng Caerdydd ac Abertawe nos Sadwrn.

Dywedodd bod dyn a oedd yn eistedd y tu ôl iddi wedi gafael ynddi dro ar ôl tro er iddi ddweud wrtho am roi'r gorau.

Dywedodd cyfarwyddwr CPD Dinas Caerdydd, Steve Borley, y bydd y clwb yn ymchwilio i'r digwyddiad ac yn cynnwys yr heddlu os yw hynny'n briodol.

Dywedodd Ms Robinson, sydd wedi bod yn gefnogwr gyda thocyn tymor i'r clwb ei bod hi'n eistedd ar ei phen ei hun yn ystod y gêm ar ôl gwerthu ei thocyn gwreiddiol.

"Bron yn syth ar ôl i mi eistedd i lawr dechreuodd y dyn y tu ôl i mi fy nghyffwrdd, ceisio siarad yn fy nghlust a phwyso dros fy ysgwydd," medd Ms Robinson.

"Ac aeth pethau o ddrwg i waeth... roedd y ffordd yr oedd yn cyffwrdd ynof wedi cryfhau felly roedd yn teimlo mwy fel ei fod yn gafael yn fy ysgwyddau, fy mreichiau a fy nghanol," dywedodd wrth BBC Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Johanna Robinson yn eistedd ar ben ei hun ar ôl iddi roi ei thocyn gwreiddiol i ffrind ei mab

Ychwanegodd: "Roedd yn cadw gwneud e... roedd yn gwneud i mi deimlo'n anniogel.

"Roedd yn fy ngwagle personol, yn cyffwrdd ynof yn amhriodol - ro' ni ddim yn gwybod a oedd am fynd ymhellach wrth fy nghyffwrdd ond nid hynny oedd y broblem. Ro' ni ddim yn hoffi e."

Dywedodd ei bod wedi troi rownd a holi'r dyn i beidio â chyffwrdd ynddi, ac iddo ymateb yn grac ac edrych arni mewn "anghrediniaeth".

Dywedodd fod y dyn wedi rhoi'r gorau i'w chyffwrdd am ychydig ac yna wedi ei hannog cyn hanner amser i ddod am ddiod gydag ef.

"Fe gyffyrddodd yn fy ysgwydd unwaith yn rhagor... a dweud yn glir nad oedd wedi gwneud dim o'i le."

Ffynhonnell y llun, Johanna Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Robinson yn dweud ei bod wedi derbyn cefnogaeth gan Dinas Caerdydd ers ddydd Sadwrn, ond bod digwyddiadau o'r fath "ddim yn dderbyniol"

Dywedodd Ms Robinson ei bod wedi mynd at y stiwardiaid i roi gwybodaeth am y digwyddiad ac i holi am gael symud sêt. Fe ddigwyddodd hynny wedi iddi gael yng ngofal goruchwylwir.

Er hyn, dywedodd bod y goruchwyliwr wedi esbonio iddi pa mor anodd oedd symud i sêt arall gan nad oedd proses ar gyfer digwyddiadau o'r fath yn bodoli.

Ar ôl iddi bostio am ei phrofiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Ms Robinson ei bod yn "gwerthfawrogi" bod cyfarwyddwr Dinas Caerydd, Steve Borley, wedi cysylltu â hi.

"Dw i wedi derbyn cefnogaeth grêt hyd yn hyn. Fy mhwynt yw nad yw hyn yn dderbyniol o gwbl. Mae'n rhaid i ni wneud pethau fel nad y fenyw sy'n wynebu'r baich o amddiffyn ei hun.

"Dyn ni'n gweld y fath yma o bethau o amgylch y lle dyddie 'ma. Sut gall menywod deimlo'n saff pan mae hyn ymhobman?"

Mae Mr Borley wedi ymddiheuro i Ms Robinson am ei phrofiad, ac wedi dweud y gwnaiff y clwb "ymchwilio'n llawn i'r digwyddiad a chynnwys yr heddlu os yw hynny'n briodol".

Mae CPD Dinas Caerdydd wedi dweud eu bod wedi cysylltu â Ms Robinson ac yn ymchwilio i'r digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb y dylai unrhyw gefnogwr sy'n teimlo dan fygythiad gan ymddygiad eraill gysylltu â'r clwb cyn gynted â phosib a bod modd gwneud hynny drwy linell gymorth benodol.