Tŷ Hafan: Cais parc gwyliau drws nesaf yn bryder i rieni
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni plant fu farw yn hosbis Tŷ Hafan wedi dweud y byddai adeiladu parc gwyliau wrth ei ymyl yn difetha llonyddwch a diogelwch y safle.
Mae perchennog Barry Island Pleasure Park wedi cyflwyno cais i gyngor Bro Morgannwg er mwyn adeiladu parc gwyliau newydd ar dir ger Tŷ Hafan.
Mae'r hosbis, sy'n cynnig gofal diwedd oes i blant, wedi rhyddhau datganiad yn gwrthwynebu'r cais.
Fe ddywedodd Henry Danter, sydd am agor y parc gwyliau, mai dyma fyddai'r "cymydog gorau posib i Dŷ Hafan".
'Llonyddwch a heddwch'
Un sy'n gwrthwynebu'r cynllun am barc gwyliau yw Natalie Ridler, mam Morgan Ridler a fu farw yn Tŷ Hafan o fath prin o ganser.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, Radio Cymru, dywedodd Ms Ridler: "Pryd gwnaeth Morgan farw, roedd e mor bwysig i ni sut roedd Morgan wedi marw.
"Doedd dim lot o ddewisiadau gyda ni... y rheswm nath fi a fy ngŵr ddewis hosbis oedd fod digon o gyfleusterau fan 'na i roi cymorth i fi a Matthew a hefyd ein merch fach dwy flwydd oed.
"Ni'n gwbod bydd Morgan yn gallu cael heddwch a llonyddwch fan 'na, a bydd urddas gyda fe, felly mewn ffordd roedden ni'n dewis neud yn siŵr bod Morgan yn cael good death. Os oes rhaid i ti ddewis rhywle i blant ti marw, mae Tŷ Hafan yn berffaith.
"Os ti'n cerdded trwy ardd Tŷ Hafan does dim sŵn i glywed ond am y môr a'r aderyn yn y coed ac mae just mor berffaith.
"Just y foment ar ôl i Morgan farw, just siawns i chi cael llonydd, a dwi ddim gallu dychmygu eistedd fan 'na yn gwylio plentyn ti'n marw a chlywed noise a pheiriannau a phethau'n mynd ymlaen drws nesa'.
"Os chi'n gallu dychmygu eistedd a dal llaw dy blant yn marw a gallu clywed parc gwyliau drws nesaf da teuluoedd yn joio a'n rhedeg o gwmpas...
"Ni ddim angen unrhyw beth fel yna'n mynd ymlaen drws nesa pan wyt ti'n mynd trwy bethau mor drawmatig.
"Ni angen gadael y llonyddwch a'r heddwch yna i rieni bydd rhaid defnyddio y cyfleusterau yn y dyfodol," ychwanegodd.
"Mae yna dros 500 o barciau gwyliau yng Nghymru ond dim ond un Tŷ Hafan."
Fe wnaeth mab Micaela Turner, Cai, dderbyn diagnosis o gyflwr prin iawn pan yn fabi.
Er nad oedd disgwyl iddo fyw heibio'i ddwy oed, bu farw ychydig cyn ei benblwydd yn 12 y llynedd yn Nhŷ Hafan, Sili.
"Petai maes carafanau neu barc gwyliau drws nesaf pan oedd Cai yn fyw," medd Micaela, "dwi'n meddwl y byddai hynny wedi newid fy mhenderfyniad o ran lle ro'n i am i Cai farw."
"Bydden i wedi ei gweld hi'n anodd gwybod fod pobl drws nesaf yn mwynhau, yn bod yn swnllyd, a ddim yn deall fod 'na hosbis i blant drws nesaf, a byddai Cai ddim wedi cael y profiad gafodd e.
"Roedd sawl adeg pan o'dd angen pum munud arna i er mwyn prosesu beth oedd yn digwydd.
"O'n i'n gwybod nad oedd fy mhlentyn i am ddod adref. O'n i'n gwybod fy mod i am wylio fy mab yn marw dros y dyddiau nesaf.
"Bydden i'n aml yn dod i eistedd wrth ymyl y môr er mwyn lleddfu rhai o'r ofnau a'r pryderon."
Fe gafodd Cai ofal yn Nhŷ Hafan am dros 11 mlynedd.
"Byddai'r swn yn bryder... fe ddaethon ni a Cai yma i fynd am dro am y tro olaf am ei fod yn caru'r môr.
"Mae angen cadw diogelwch a llonyddwch Tŷ Hafan fel ag y maen nhw. Fel arall... fydd plant ddim yn gallu cael yr un profiad a Cai."
Cynlluniau yn 'drasiedi'
Ym mis Gorffennaf fe gyflwynwyd cais cynllunio er mwyn gosod celloedd storio ar y safle ar Ffordd Hayes, Sili, ond mae cais newydd wedi'i gyflwyno er mwyn gosod carafanau yno bellach.
Fe ddywedodd mam arall y byddai cael parc gwyliau ger Tŷ Hafan yn "drasiedi".
"Mae teuluoedd yn teimlo'n ddiogel yma," medd Marie Jones.
"Dwi'n meddwl y byddai'r newid yn gwneud i ni feddwl yn wahanol am sut y'n ni'n defnyddio Tŷ Hafan, sy'n drist iawn."
Mae Tŷ Hafan wedi gwrthwynebu'r cais cynllunio yn ffurfiol, ac yn bwriadu parhau i'w wrthod "er budd y plant a'u teuluoedd sy'n dod o bob cwr o Gymru i ddefnyddio ein cyfleusterau".
"Mae llonyddwch, diogelwch, a phreifatrwydd ein hosbis a gardd coffa yn hollbwysig i ni, ac i'r rheiny rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw."
Fe ddywedodd Henry Danter, sydd am agor y parc gwyliau, mai dyma fyddai'r "cymydog gorau posib i Dŷ Hafan".
"Mae Llywodraeth Cymru eisiau denu pobl i Gymru gyda thwristiaeth a swyddi, ac fe fydd Henry Danter yn gwneud y safle yma'n hardd iawn," meddai Mr Danter.
"Maen nhw'n dweud ei fod yn agos at Dŷ Hafan, ond mae'n rhaid cerdded o leiaf 10 munud i gyrraedd yno."
Ychwanegodd y byddai ardal llawn coed wrth ymyl Tŷ Hafan yn aros, ac y byddai'r parc o fudd i'r hosbis gan y byddai'n cynnig llety i bobl sydd am ei ddefnyddio.
Mae'r safle rhwng Tŷ Hafan a Beechwood College, sy'n cynnig addysg arbennig i bobl ifanc ag anghenion cymhleth.
Mae'r coleg hefyd wedi gwrthwynebu'r cynllun, gan ddweud y byddai unrhyw gynllun i newid yr ardal ger y coleg "heb os yn cael effaith ddifrifol ar iechyd a lles ein disgyblion".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2021