'Dysgu'r Gymraeg yn Utah er mwyn cysylltu â fy nheulu'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Fe wnaeth miloedd o Gymry ymfudo i Pennsylvania - sef man geni John Shaw

Mae cannoedd o bobl o'r tu allan i Gymru yn dysgu Cymraeg ar gyrsiau'r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn rhithiol, ac mae un ohonyn nhw wedi ymweld â chartre' ei gyndeidiau am y tro cyntaf.

Cafodd John Shaw ei fagu yn Pennsylvania ac mae e'n byw yn Utah.

Mae'n dilyn un o gyrsiau'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol ar-lein, ond fe ddechreuodd ei ddiddordeb yn yr iaith ddegawdau ynghynt.

"Tua hanner can mlynedd yn ôl, tra'n ymweld ag eglwys bedyddwyr Gymraeg, pan agorais i emyn doeddwn i ddim yn gallu darllen gair," meddai.

Ffynhonnell y llun, John Shaw
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth teulu John Shaw ymfudo o Gymru i America ym 1848

Ychwanegodd: "Ymfudodd fy hen hen daid a nain i Pennsylvania ar ddechrau y flwyddyn 1848 a hwn fydd y tro cynta i fi gwrdd â fy nghyfnither."

Mae hi'n byw yn Aberdâr, ac mae gan Mr Shaw gysylltiadau teuluol â sawl un o drefi'r cymoedd.

Yn ddiweddar bu'n ymweld ag Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr lle bu'n annerch rhai o'r disgyblion.

Disgrifiad o’r llun,

Un fu'n mwynhau cyflwyniad Mr Shaw yn Ysgol Llangynwyd oedd Ava

"Roedd yn really dda gweld pobl o wledydd eraill yn cysylltu â'n diwylliant ni," meddai Ava.

"Mae'n really pwysig i weld bod Cymraeg yn gallu mynd pobman."

Mae un arall o ddisgyblion Llangynwyd, Fraser, yn cytuno.

"Rwy'n credu roedd y sgwrs yn inspirational iawn, mae'n ddidddorol i weld sut mae rhywun wedi dilyn ei gefndir a ffeindio pobl newydd bob dydd."

Roedd 'na reswm arall gan John i fynd i Ysgol Llangynwyd. Mae ei diwtor Cymraeg, David Owen, yn athro yno.

"Mae'n fraint dysgu John mewn gwirionedd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Doedd David Owen ddim yn gallu credu'r peth pan ddywedodd Mr Shaw ei fod yn ymuno â'r wers o Utah

"Rwy'n cofio'r wers gynta pan oedd y dosbarth yn cyflwyno'i hun am y tro cynta, a dywedodd e 'John Shaw dwi, dwi'n dod o Utah' a wedes i 'pardwn?'... 'dwi'n byw yn Utah!'

"Wedyn chi'n gweld pa mor fyd-eang mae'r Gymraeg yn mynd, a sut mae technoleg wedi lleihau y byd mewn gwirionedd, a sicrhau bod y Gymraeg yn gaffaeledig ar gyfer pawb."

'Codi proffil Cymru'

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n dewis dilyn cwrs yn rhithiol.

I nifer - fel John Shaw - mae'n gyfle i ddysgu mwy am ei deulu.

"Wrth gwrs mae'n wahanol i ddysgu gwers wyneb yn wyneb i sut mae fe i ddysgu ar-lein," meddai Annalie Price sy'n Swyddog Hyfforddiant, Sicrhau Ansawdd ac Arholiadau gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg.

"Erbyn hyn mae'r tiwtoriaid i gyd yn cael methodoleg newydd - 'dan ni'n dysgu llawer o bobl erbyn hyn sydd falle ddim yn cyfri at y miliwn o siaradwyr Cymraeg, ond mae'n rhaid i ni sylweddoli bod y dysgwyr yma yn codi proffil yr iaith a phroffil Cymru - a dyw hwnna ddim yn gallu bod yn rhywbeth drwg, nag yw?"

Ffynhonnell y llun, John Shaw
Disgrifiad o’r llun,

Roedd teulu Mr Shaw yn un o'r miloedd wnaeth ymfudo i'r Unol Daleithiau yn chwilio am waith

Mae John yn gobeithio y bydd ei ymweliad â Chymru yn gyfle iddo ymarfer ei Gymraeg, ond hefyd i ddysgu pethau eraill.

"Rwyf yn ceisio ymestyn fy ngwybodaeth o hanes fy nheulu yn yr amser cyn iddyn nhw ymfudo."

Mae'n dweud bod gwlad ei gyn-deidiau yn plesio, gyda thirwedd y cymoedd yn ei atgoffa o'i dalaith enedigol - Pennsylvania.

Fe ymfudodd miloedd o Gymry yno, er mwyn gweithio yn y pyllau glo.

Ac yn dilyn ei ymdrechion i ddysgu'r iaith, mae dewis John o'i hoff air Cymraeg yn gyfarwydd.

"Hiraeth - mae'n gwneud llawer o synnwyr i fi. Dwi'n credu ei bod hi'n bosib i gael teimlad am le hyd yn oed os nad ydych chi wedi bod yno.

"Mae'n deimlad arbennig i gerdded y strydoedd lle roedd fy hen hen daid a nain wedi cerdded ac wedi byw yn y gorffennol."