Spencer Harris: O Ddysgwr y Flwyddyn i Welcome to Wrexham

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Spencer Harris gyda Ryan Reynolds Rob McElhennyFfynhonnell y llun, llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Reynolds a Rob McElhenny "wedi gwneud popeth o'n i'n disgwyl a llawer mwy" o ran parchu a hybu cysylltiad Wrecsam gyda'r Gymraeg meddai Spencer Harris

Mae Spencer Harris wedi cael ei adnabod mewn llefydd annisgwyl dros y byd ers iddo ymddangos yn y gyfres Disney+, Welcome to Wrexham. Ond nôl yn 2001 ar gae Eisteddfod Dinbych roedd Is-lywydd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn enwog fel enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, dolen allanol.

Mae wedi bod yn siarad am y profiad ac am effaith dysgu'r iaith ar ei fywyd wrth i'r Eisteddfod annog pobl i ymgeisio ar gyfer cystadleuaeth 2023, sy'n cau ar 1 Mai.

Roedd Spencer Harris yn rhan o dîm rheoli clwb Wrecsam cyn iddo gael ei brynu gan y ddau actor, Ryan Reynolds a Rob McElhenny, sydd wedi dod â'r Gymraeg, yn ogystal â'r clwb, i sylw'r byd.

Ond a fyddai'r iaith wedi bod yn rhan o'r siwrnai honno o gwbl oni bai am benderfyniad Spencer fel dyn ifanc i ddysgu a hyrwyddo'r Gymraeg?

Profiad cyntaf o'r Gymraeg

Ffynhonnell y llun, llun cyfrannydd

Wedi ei fagu mewn teulu "Cymreig iawn ond di-Gymraeg" ym mhentref Coedpoeth ger Wrecsam, doedd y Gymraeg ddim yn rhan o'i fywyd heblaw am wersi ail-iaith yn yr ysgol Saesneg leol a gafodd fawr ddim effaith arno.

Ond mae'n cofio'r tro cyntaf iddo gael profiad go iawn o'r iaith, ac ar ddiwrnod gêm pêl-droed oedd hynny.

"Dwi'n cofio yn 1985 pan oedd Cymru'n chwarae Sbaen ar y Cae Ras; Cymru yn ennill 3-0 a Mark Hughes yn sgorio gôl anhygoel. Roedd fy ewythr, di-Gymraeg, sy'n adeiladwr, wedi dod lawr o Ynys Môn a dod i fy nghasglu i yn ei fan.

"Roedd 10 o bobl yng nghefn y fan ac oedd pawb yn siarad Cymraeg ac oedd hwnna yn brofiad reit od i fi i fod mewn iaith hollol wahanol am y tro cyntaf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymru yn erbyn Sbaen ar y Cae Ras, 1985: "gôl anhygoel" Mark Hughes a phrofiad cyntaf Spencer Harris o'r Gymraeg

Roedd yn teimlo fel Cymro i'r carn, meddai Spencer, yn enwedig o ran chwaraeon, yn cefnogi timau pêl-droed a rygbi Cymru a hefyd yn cynrychioli Cymru mewn tenis bwrdd ei hun.

Esbonia: "Ro'n i'n teimlo'n gryf dros fy ngwlad, ond heb siarad Cymraeg a bod yn rhugl, o'n i'n teimlo fel oedd 'na rywbeth ar goll ac roedd rhaid i fi wneud rhywbeth amdano a dyna'r rheswm wnes i ddechrau dysgu Cymraeg."

'Dwi'n benderfynol'

Pan oedd tua 23 mlwydd oed ymunodd â dosbarthiadau nos gan dreulio unrhyw amser hamdden yn ei waith yn ffatri Kellogg's yn Wrecsam yn ymarfer berfau a phatrymau iaith, cyn pasio ei arholiad safon uwch gydag A seren.

"O'n i ddim yn dalentog i ddysgu ieithoedd," meddai "ond dwi yn benderfynol - o'n i ddim yn dalentog iawn yn chwarae tenis bwrdd chwaith ond o'n i'n ymarfer ac yn ymarfer ac yn y diwedd o'n i'n chwarae dros fy ngwlad.

"Os mae'n bosib i fi, mae'n bosib i unrhyw un, os maen nhw'n benderfynol mai dyna beth maen nhw'n mynd i wneud."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd ennill Tlws Dysgwr y Flwyddyn yn 2001 yn teimlo "dipyn bach fel chwarae tenis bwrdd dros fy ngwlad" meddai Spencer Harris

Dod yn aelod o'r Orsedd

Sut brofiad oedd ennill Dysgwr y Flwyddyn?

"Am wythnos roedd yn anhygoel a dwi'n cofio meddwl ar y pryd gymaint o anrhydedd oedd bod y person i ennill y wobr; dipyn bach fel oedd hi i chwarae tenis bwrdd dros fy ngwlad.

"Un o'r pethau pwysicaf i fi oedd dod yn aelod o Orsedd y Beirdd Ynys Prydain - oedd hynny yn arbennig o dda i wisgo'r wisg werdd. Roedd Dr Rowan Wlliams, archesgob Caergrawnt, yn cael ei enwebu i'r orsedd yr un pryd â fi so oedd hwnna yn anhygoel."

Dangos bod Cymraeg yn bwysig i'r clwb

"Yr effaith mwyaf arnaf fi o ddysgu Cymraeg oedd cynrychioli Wrecsam yn y wasg, ar y radio a'r teledu - oedd yn rhoi cyfle i fi ddangos bod Cymraeg yn bwysig i glwb pêl-droed Wrecsam, a mae yn dal i fod," meddai.

"Pan o'n i'n un o'r cyfarwyddwyr oedd yn rhedeg y clwb, o'n i'n gwneud yn siŵr bod yr annoucements yn y stadiwm yn ddwyieithog, bod Cymraeg o gwmpas y clwb bob dydd; gwneud pethau bach i drio newid pethau i fod yn dipyn bach mwy Cymraeg.

"A pan o'n i'n siarad efo Rob a Ryan reit o'r dechrau o'n i'n dweud wrthyn nhw pa mor bwysig ydi hi bod Wrecsam yn dangos ei Gymreictod. Dyna un o'r rhesymau bydd pobl yn dod i gefnogi Wrecsam os oedden nhw eisiau tyfu'r clwb. Dyna'r gwahaniaeth rhwng ni a Caer neu Caergrawnt, Lerpwl neu Tranmere - dyna be' sy gynnon ni i ddenu mwy o bobl.

Ffynhonnell y llun, Picasa
Disgrifiad o’r llun,

Fel cyfarwyddwr, daeth Spencer Harris yn siaradwr cyson dros Glwb Pêl-droed Wrecsam yn y wasg Gymraeg

"Ac o'r diwrnod cyntaf maen nhw wedi neud hynny. O'n i'n rhoi stwff ar Whatsapp iddyn nhw am sut i ddweud pethau yn Gymraeg i ddechrau, wedyn oedden nhw'n dod â Maxine Hughes i'w helpu efo rhai o'r fideos cyntaf."

Y canlyniad meddai Spencer yw fod yr iaith wedi bod yn rhan o'u cynllun gyda'r clwb drwyddo draw, hyd at egluro termau Cymraeg yn y rhaglen.

"Maen nhw wedi gwneud popeth o'n i'n disgwyl a llawer mwy," meddai Spencer Harris.

Mae Welcome to Wrexham wedi ei wylio gan gynulleidfa ryngwladol enfawr ac ymddangosiad Spencer - sy'n cynnwys Rob a Ryan yn dod am bryd o fwyd gyda'i deulu yn ei gartef - wedi bod yn ddigon iddo gael ei adnabod dros y byd, meddai.

"Mae'n anhygoel, y reach!," meddai. "Dwi wedi bod i lawer o leoedd o gwmpas y byd dros y chwe mis diwethaf a pobl wedi stopio fi i siarad neu gael llun - yn America yn canol Chicago, yn Maine mewn tref fach o'r enw Battle Creek ac ar planes.

"Es i i'r World Cup ac oedd pobl o Awstralia, Mecsico, pob man, wedi stopio fi i gael sgwrs am Welcome to Wrexham - mae'n anhygoel a dwi ddim ond yn chwarae rhan eitha' bach yn y gyfres!"

Y Gymraeg yn 'agor drysau'

Oes gan Spencer, sydd bellach yn uwch-gyfarwyddwr i gwmni Kellogg's yn Ewrop, neges i ddysgwyr eraill?

"Fy neges i ydi i ddal ati, mae yn bosib i ddod yn rhugl yn y Gymraeg. A jyst cael yr hyder i drio siarad - os ydach chi'n gwneud camgymeriadau, wel dyna ni, os ydych chi ddim yn trio siarad, fyddwch chi ddim yn siarad."

A'r manteision?

"Mae'n agor drysau i fyd hollol wahanol. Dwi'n hoff iawn o'r culture a'r teimlad o fod yn Gymro Cymraeg a mae yn wahanol yn fy marn i i culture Cymry Saesneg. Nid bod snobbery am y byd Cymry Cymraeg... nid hynny, mae jyst yn wahanol, felly os ydych chi'n dysgu Cymraeg mae'n agor drysau i'r ddau fyd"

Hefyd o ddiddordeb:

Sut y daeth sêr Hollywood yn berchnogion Wrecsam

Cymru'n dychwelyd i'r Cae Ras