Pam fod cymaint o bobl ifanc yn gadael cefn gwlad Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Pam bod cymaint o bobl ifanc yn gadael cefn gwlad Cymru?

Diffyg tai a chyfleoedd gwaith yw'r rhai o'r prif resymau pam fod cymaint o bobl ifanc yn dal i adael cefn gwlad Cymru.

Yn ôl un o bwyllgorau San Steffan sydd wrthi'n edrych ar y mater, mae'r "newid sylweddol i'r ddemograffeg yn peri gofid". 

Fe ddangosodd cyfrifiad 2021 fod saith sir yng Nghymru, nifer yn rhai gwledig, wedi gweld gostyngiad yn eu poblogaeth er bod cynnydd yn genedlaethol. 

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu pobl ifanc i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Ers y chwyldro diwydiannol mae 'na duedd amlwg gyda phobl ifanc yn gadael ardaloedd gwledig i chwilio am waith. 

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n gallu bod yn 'ofnadwy o sialens' ddod o hyd i waith yn lleol, medd Lois Angharad

Ond er gwaethaf datblygiadau technolegol sy'n gwneud hi'n haws i weithio o bell, mae nifer o siroedd Cymreig cefn gwlad yn parhau i weld gostyngiad. 

Yng Ngheredigion fe ostyngodd y boblogaeth 5.8% rhwng 2011-2021 - dyma'r sir oedd â'r trydydd gostyngiad mwyaf drwy Gymru a Lloegr. 

Mi oedd y ffigwr yn fwy amlwg fyth ymysg pobl ifanc rhwng 15-19 oed, gostyngiad o 28%. 

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae tai, swyddi a thrafnidiaeth ymhlith y ffactorau sy'n gyrru pobl i'r ddinas, medd Ben Lake AS

Mae Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan wedi bod wrthi'n casglu tystiolaeth am y rhesymau dros adael cefn gwlad - ac wrth i'r cyfnod hwnnw ddod i ben, mae rhai themâu amlwg yn dod i'r fei. 

Yn ôl un o aelodau'r pwyllgor Ben Lake AS, mae diffyg tai, cyfleoedd gwaith a thrafnidiaeth gyhoeddus annibynadwy yn gyrru pobl o gefn gwlad i'r dinasoedd. 

"Mae'n rhaid i ni edrych ar sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynllunio a'u gweithredu," meddai. 

"Mi ydyn ni'n gweld fel pwyllgor dystiolaeth sy'n awgrymu bod y newid sylweddol yma yn peri gofid i ba mor hyfyw yw ein cymunedau ni."

Ychwanegodd y bydd angen i Lywodraethau Cymru a Phrydain weithio'n agosach i fynd i'r afael â'r her. 

Disgrifiad o’r llun,

Byddai'n ddrutach byw yn Nolgellau na Manceinion, medd Iwan Roberts

Ym Manceinion, mae Iwan Roberts bellach yn berchen ar siop goffi er yn wreiddiol o Ddolgellau. 

"Do'n i'm yn teimlo fel bod 'na diwydiant imi fynd mewn i yn Nolgellau," meddai. 

"O'n i isho symud i'r dref fawr, mynd i gigs, gweld mwy o bethau a dim just aros i Sesiwn Fawr ddod unwaith y flwyddyn!"

Wrth drafod y gobaith o ddod adref, dywedodd fod pris tai yn ffactor dros aros ym Manceinion. 

"Mae'n reit anodd symud nôl, 'dan ni wedi prynu ym Manceinion ac mae hynny yn ddrud, ond dwi'n meddwl fod o'n fwy drud yn Nolgellau ar y funud."

'Ofnadwy o sialens cael swyddi'n lleol'

Mae dadboblogi ar ei waethaf o fewn siroedd lle mae'r iaith ar ei chryfaf gyda Cheredigion, Gwynedd, Môn a Chonwy oll wedi profi gostyngiad dros y 10 mlynedd nesaf. 

Yng nghlwb Ffermwyr Ifanc Penmynydd ar Ynys Môn mae'n bwnc sy'n tanio'r drafodaeth. 

Mae Lois Angharad yn 24 ac yn feddyg yn lleol ac yn dweud nad ydy symud 'nôl wedi cyfnod o astudio yn hawdd i bawb. 

"Mi oedd yn rhaid imi fynd i Gaerdydd i astudio fy nghwrs meddygaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd pobl ifanc yng Nghanolfan Penmynydd yn awyddus i drafod heriau aros yn lleol

"Rŵan mae Prifysgol Bangor efo cwrs eu hunain sy'n anhygoel ac yn rhywbeth 'swn i wedi bod wrth fy modd yn gwneud.

"Ar y llaw arall, o ran fy ffrindiau mae'n ofnadwy o sialens cael swyddi yn lleol." 

Meddwl am y dyfodol mae Elain Haf sy'n 16.

"Dwi'n caru Cymru ond mae 'na siawns dwi am symud i ffwrdd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy o gyfleoedd y tu hwnt i gefn gwlad, medd Elain Haf

"Mae hynny oherwydd i fi... just be' dwi isho neud... mae'r opportunities yna allan o gefn gwlad fel fama." 

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu pobl ifanc i gynllunio ar gyfer eu dyfodol.

"Rydym yn mynd i'r afael â'r nifer uchel o ail gartrefi sy'n gallu effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau. 

"Rydym wedi ymrwymo i godi 20,000 o dai rhent ychwanegol ym maes cymdeithasol o fewn y tymor seneddol nesaf."

Mi fydd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan rŵan yn ystyried y dystiolaeth sydd wedi ei chasglu cyn cynnig argymhellion i Lywodraethau Cymru a Phrydain.