Tlodi trafnidiaeth: 'Angen mwy o help i grwpiau bregus'
- Cyhoeddwyd
Dim ond cynnig o ddau fws y dydd sydd gan y nyrs Nicola Nolan i gyrraedd ei gwaith yn Sir Benfro, ac yn ôl elusen mae hi'n enghraifft o'r tlodi trafnidiaeth sy'n wynebu nifer yn y Gymru wledig.
Dywed Sustrans fod angen ei gwneud hi'n haws i bobl fel Nicola gael mynediad i drafnidiaeth yng Nghymru.
Mae adroddiad newydd i dlodi trafnidiaeth yn dweud nad oes digon wedi newid yn y ddegawd ddiwethaf i helpu grwpiau bregus.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn sicrhau system lle mae pobl am ei ddefnyddio ac yn gallu fforddio gwneud hynny.
'Cynllunio ddim yn bosib bob tro'
Mae Nicola o Sir Benfro yn gweithio oriau anghymdeithasol yn ysbyty mwyaf y sir.
Ond mae cyrraedd y gwaith wedi bod yn her oherwydd costau teithio a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus.
Ers i'w beic modur dorri lawr, dyw hi ddim eto'n gallu fforddio prynu un newydd.
Heb drwydded i yrru car, mae wedi bod yn ceisio defnyddio'r gwasanaeth bws lleol, sydd wedi bod yn heriol gyda'i horiau gwaith.
"Yn yr ardal wledig le dwi'n byw mae dau fws y dydd a bws gwennol sy' raid i chi archebu o flaen llaw.
"Mae wedi helpu rhywfaint ond rwy' wedi gorfod newid fy shifts yn y gwaith. Rhaid cynllunio o flaen llaw a dyw hynny ddim bob amser yn bosibl."
Felly mae Nicola wedi cysylltu â chynllun trafnidiaeth cymunedol am help. Mae hi nawr yn rhentu moped er mwyn cyrraedd y gwaith.
Mae wedi newid popeth iddi, meddai, ac yn hynod o rad i'w yrru.
"Rhywbeth fel £8 yw e i lenwi'r tanc, fydd yn para wythnos i fi. Ac mae lawer rhatach na char neu unrhyw beth arall," meddai.
Caroline Wilson yw rheolwr Cymdeithas Trafnidiaeth Wledig Preseli, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Green Dragon Bus.
Yn ogystal â chynnig gwasanaeth bws mini, maen nhw'n cynnig beiciau moped i'w rhentu. Maen nhw hefyd yn y broses o lansio cynllun rhannu ceir.
"Mae mwy o bobl yn ymuno â'n cynlluniau ni ar hyn o bryd. Ma' costau tanwydd a'r prinder arian ym mhocedi pobl yn dechrau dangos ei ôl," meddai.
"Mae 19 gwasanaeth yr wythnos gyda ni, yn mynd â phobl i'r siopau, apwyntiadau meddygol, digwyddiadau cymdeithasol.
"Mae llawer o bobl wedi gorfod rhoi'r gorau i'w ceir am na allan nhw fforddio'u cadw nhw neu am eu bod nhw wedi gorfod ildio eu trwydded am resymau meddygol wrth iddyn nhw heneiddio."
'Mae'r amser wedi hen fynd'
Dyma farn rhai o drigolion Sir Gaerfyrddin ynglŷn â thrafnidiaeth yr ardal wrth iddyn nhw aros i ddal bws yng ngorsaf bysiau Caerfyrddin.
"Mae'r amser hwnna wedi mynd - pan o'dd bysys yn mynd yn fwy aml," medd Heather Tudor.
"Mae'r amser wedi hen fynd felly mae fyny i chi. Adapt and adjust fel maen nhw'n dweud.
"Mae gofyn bod pobl yn gwneud cymwynas â chi neu Duw a'ch helpo chi."
"Fi'n dal y trên yn fwy aml na'r bws os nad ydw i'n mynd i'r coleg," medd Ruby Clarke.
"Mae'r trên am ddim i fi a mae'n fwy aml na'r bws hefyd."
"Rwy'n gallu dod i fewn ar y bws a mynd gartre' felly gallai ddim achwyn am y drafnidiaeth o gwbl," medd Illtyd Protheroe.
"Mae'n debyg fod yna gyfleusterau fel 'Bwcabus' ac yn y blaen sy'n gallu cysylltu pobl o'r ardaloedd gwledig i ddal trafnidiaeth mwy eang."
Dywed Sustrans Cymru fod y pandemig a'r argyfwng costau byw diweddar wedi gwneud y broblem yn waeth.
Mewn adroddiad sydd ar fin cael ei gyhoeddi dywed yr elusen mai pobl ar incwm is a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, neu'r ardaloedd mwyaf difreintiedig sy'n fwyaf tebygol o ddioddef oherwydd tlodi trafnidiaeth.
Ers 2010 mae 17.8% yn llai o fysiau ar y ffyrdd. O ganlyniad, does gan 12% o bobl ddim cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn eu hardal leol.
Eleni hefyd, mae prisiau tocynnau trên wedi codi 3.8% - y cynnydd mwyaf mewn naw mlynedd.
"Mae gormod o bobl yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at drafnidiaeth," medd Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, Christine Boston.
"Mae effaith Covid a'r argyfwng costau byw yn golygu bod trafnidiaeth yn rhywbeth sydd ddim ond i'r rhai all ei fforddio.
"Yn y mwyafrif o awdurdodau lleol, mae hanner y boblogaeth yn gwario mwy na 10% o incwm y cartref ar drafnidiaeth, sef y lefel sy'n cael ei ystyried fel byw mewn tlodi trafnidiaeth."
Mae hyd yn oed yn waeth yn y cymoedd gyda dros hanner yn wynebu'r costau hynny.
"Y rhai sy'n cael eu heffeithio fwyaf yw pobl hŷn sy'n ei chael hi'n anodd cyrraedd at ofal meddygol, yn ogystal â phlant sy'n methu aros ar ôl ysgol i glybiau, neu bobl ag anableddau sy'n cael trafferth cael gwaith oherwydd y sefyllfa."
Mae'r elusen yn dweud y dylai pob cartref yng Nghymru gael amrywiaeth o ddewis o drafnidiaeth saff, hawdd ei gyrraedd a chynaliadwy.
Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i osod safonau nawr gyda'r nod o'u cyrraedd erbyn 2040.
Ymateb y llywodraeth
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Y system drafnidiaeth yw un o'r asedau cenedlaethol pwysicaf sydd gennym - a dyna pam rydym yn buddsoddi ynddo i'w wneud yn fwy hygyrch, cynaliadwy ac effeithiol.
"Rydym eisiau system drafnidiaeth sy'n dda i'n bobl a chymunedau, yn dda i'r amgylchedd, yn dda i'r economi ac yn un sy'n cefnogi'r iaith Gymraeg a'n diwylliant.
"Er mwyn gwneud hyn, rydym yn defnyddio model trafnidiaeth gynaliadwy i fuddsoddi mewn gwasanaethau sy'n ddibynadwy, effeithiol a fforddiadwy.
"Gwasanaethau mae pobl eisiau eu defnyddio, yn gallu defnyddio ac yn eu defnyddio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd30 Medi 2020