20mya: 'Rhowch fwy o lais i bobl leol' medd Ed Davey
- Cyhoeddwyd
Dylai cymunedau lleol gael mwy o lais ar eithrio ffyrdd o derfyn cyflymder 20mya newydd Cymru, meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey.
Dywedodd Syr Ed ei fod yn cytuno â'r gyfraith newydd, ond beirniadodd y ffordd y mae wedi cael ei gweithredu gan Lywodraeth Cymru.
"Nid ydynt wedi caniatáu i gymunedau lleol ddweud y dylai'r ffordd arbennig hon gael ei heithrio," meddai wrth BBC Cymru.
Roedd yn siarad cyn cynhadledd plaid y Democratiaid Rhyddfrydol yn Bournemouth, sy'n dechrau'r penwythnos hwn.
Daeth y terfyn newydd mewn ardaloedd adeiledig i rym ddydd Sul, pan ddaeth Cymru y wlad gyntaf yn y DU i ostwng y cyflymder rhagosodedig o 30mya i 20mya.
Mae cynghorau wedi gosod eithriadau, ar ffyrdd lle mae llai o gerddwyr a beicwyr, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Mewn cyfweliad diweddarach, awgrymodd AS y blaid Jane Dodds nad oedd gan Syr Ed y "manylion i gyd" pan wnaeth ei sylw.
Dywed gweinidogion Cymru mai nod y gyfraith yw lleihau marwolaethau ac anafiadau yn ogystal â lefelau sŵn tra hefyd yn annog mwy o gerdded a beicio.
Bu cefnogaeth gref i'r polisi, ond bu gwrthwynebiad chwyrn hefyd.
Mae deiseb yn galw am ddileu'r ddeddfwriaeth wedi cyrraedd mwy na 350,000 o lofnodion, o bell y ddeiseb fwyaf mae'r Senedd wedi'i chael.
Dywedodd Syr Ed ei fod yn cefnogi'r mesur.
'Cytuno â datganoli'
"Rwy'n cytuno â datganoli ac mae ein Haelod o'r Senedd, Jane Dodds, wedi cefnogi'r cynnig hwn," meddai Syr Ed.
"Mae gennym ni un feirniadaeth o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud - nid ydynt wedi caniatáu i gymunedau lleol ddweud y dylai ffordd benodol gael ei heithrio.
"Dyna'r gwahaniaeth yn null y Democratiaid Rhyddfrydol - ie rydym yn cytuno mewn datganoli, felly dylai Cymru wneud yr hyn y mae Cymru eisiau ei wneud, ond dylent hefyd ganiatáu i gymunedau lleol wneud eithriadau pan fo hynny'n briodol."
Pan ofynnwyd iddo a oedd o'r farn y bydd y gyfraith newydd yn achub bywydau, dywedodd Syr Ed: "Bydd, yn fy etholaeth fy hun yn ne orllewin Llundain mae gennym ni 20mya ar draws y fwrdeistref ac mae hynny wedi'i gyflwyno oherwydd y dadleuon ar achub bywydau a llygredd aer ac yn y blaen.
"Ac felly, dwi'n meddwl bod yna ddadleuon pwerus cryf."
O 60 i 96
Fe gefnogodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol gynlluniau i ehangu'r Senedd o'r 60 aelod presennol i 96, ond dywedodd fod yn rhaid gwneud hynny mewn "ffordd gost-effeithiol" nad yw'n golygu gwario "gormod o arian" ar wleidyddion.
Roedd ffigyrau a ryddhawyd yn gynharach yr wythnos hon yn amcangyfrif y gallai'r 36 o wleidyddion ychwanegol gostio £17.8m yn ychwanegol y flwyddyn, gan gyrraedd £19.5m yn 2030, ar ben cyllideb bresennol y Senedd o £67m.
Anogodd Syr Ed Lywodraeth Cymru i fod yn "ofalus iawn" i sicrhau bod y newidiadau yn gost effeithiol, ond dywedodd ei fod yn cefnogi'r polisi.
"Rydym yn credu mewn mwy o ddemocratiaeth, mwy o amrywiaeth, a chynnwys mwy o bobl, a gan fod gan Senedd Cymru fwy o bwerau mae'n gwneud synnwyr i wella nifer y cynrychiolwyr," meddai.
Ond ychwanegodd: "Mae'n rhaid bod yn ofalus iawn, serch hynny, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud hyn mewn ffordd gost-effeithiol iawn.
"Mae'r Senedd yn rheoli llawer mwy o arian nawr, ond dydyn ni ddim eisiau gormod o arian yn mynd ar wleidyddion."
Dim cytundebau etholiadol
Fe wnaeth Syr Ed hefyd "ddiystyru" y syniad o ffurfio cytundebau etholiadol gyda Phlaid Cymru neu'r Gwyrddion yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Yn 2019 gwnaeth y tair plaid fargen i beidio â sefyll yn erbyn ei gilydd mewn dwsinau o seddi ar draws Cymru a Lloegr.
"Dwi wedi diystyru unrhyw gytundebau neu fargeinion. Dwi'n meddwl y dylai pleidleiswyr gael dewis am bwy maen nhw eisiau."
Fodd bynnag, dywedodd hefyd: "Fe fyddwn ni'n rhoi ein hadnoddau, ein hymdrechion ymgyrchu, mewn seddi lle rydyn ni wir yn meddwl bod gennym ni siawns wych o ennill."
Dywedodd Syr Ed ei fod yn "wirioneddol obeithiol" am gyfleoedd ei blaid yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Pan ofynnwyd iddo a oedd strategaeth etholiadol ei blaid yn canolbwyntio ar ennill seddi Ceidwadol yn siroedd Lloegr sy'n amgylchynu Llundain a de orllewin Lloegr yn hytrach na Chymru, lle mae Llafur yn dominyddu, dywedodd: "Mae yna rai ASau Ceidwadol yng Nghymru o hyd ac rydyn ni ar eu holau."
Cyfeiriodd at Frycheiniog a Sir Faesyfed a Maldwyn fel mannau o gryfder y mae'r blaid yn eu targedu.
Does gan y blaid ddim ASau Cymreig, mae ganddynt un aelod o'r Senedd ac mae'n arwain cyngor Powys, mewn clymblaid â Llafur, ar ôl ennill y nifer fwyaf o seddi yno yn etholiadau lleol y llynedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2023
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2022