12 newid i Gymru ar gyfer gêm dyngedfennol Awstralia

  • Cyhoeddwyd
Jac Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Jac Morgan fydd capten Cymru i wynebu Awstralia

Mae 'na 12 newid i dîm Cymru ar gyfer gêm dyngedfennol yng Nghwpan y Byd yn erbyn Awstralia nos Sul.

Bydd Adam Beard yn ennill ei 50fed cap pan fydd yn dechrau yn yr ail reng.

Mae Jac Morgan yn gapten eto ar ôl chwarae 80 munud yn erbyn Portiwgal oherwydd anaf i Tommy Reffell.

Does dim lle i Dewi Lake yn y garfan, gyda Ryan Elias wedi ei ddewis fel bachwr.

Fe allai'r prop Henry Thomas wneud ei ymddangosiad cyntaf yng Nghwpan y Byd o'r fainc.

Cymru: Liam Williams, Louis Rees-Zammit, George North, Nick Tompkins, Josh Adams, Dan Biggar, Gareth Davies; Gareth Thomas, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Adam Beard, Aaron Wainwright, Jac Morgan (c), Taulupe Faletau.

Eilyddion: Elliot Dee, Corey Domachowski, Henry Thomas, Dafydd Jenkins, Taine Basham, Tomos Williams, Gareth Anscombe, Rio Dyer.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Adam Beard ennill ei 50fed cap yn erbyn Awstralia

Aaron Wainwright a Taulupe Faletau fydd yn y rheng-ôl gyda Morgan, a bydd Will Rowlands ac Adam Beard yn yr ail reng.

Gareth Thomas, Elias a Tomas Francis fydd yn y rheng flaen.

Mae Liam Williams yn ôl yn safle'r cefnwr yn lle Leigh Halfpenny, ac yn Louis Rees-Zammit a Josh Adams ar yr esgyll.

George North a Nick Tompkins fydd y canolwyr, gyda Dan Biggar a Gareth Davies o'u blaenau fel haneri.

Gêm hollbwysig

Dywedodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland bod "hyder amlwg yn y garfan" yn dilyn y sesiynau ymarfer gyda "phawb eisiau bod yn rhan o'r garfan ar gyfer y gêm".

Dywedodd bod "pob gêm yng Nghwpan y Byd yn galed gyda phwysigrwydd arbennig yn perthyn iddyn nhw".

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Dewi Lake ddim wedi ei gynnwys yn y garfan

Mae'r hyfforddwr yn barod am her yn erbyn Awstralia mewn gêm bwysig i'r ddau dîm.

Mae colled Awstralia yn erbyn Fiji yn golygu bod Grŵp C yn agored iawn, ond fe fyddai buddugoliaeth i Gymru yn sicrhau eu lle yn yr wyth olaf.

"Mae gan Awstralia chwaraewyr arbennig o ddawnus ac fe fyddant yn benderfynol i berfformio'n gryf yn ein herbyn ddydd Sul."

"Os y byddwn yn chwarae fel yr ydw i'n gwybod y gall y bechgyn berfformio - a hynny am yr 80 munud cyfan - fe fyddwn yn anodd iawn i'n curo."

Mae'r gêm yn hollbwysig i Awstralia, sy'n gobeithio osgoi methu a chyrraedd y rownd nesaf am y tro cyntaf erioed.

Awstralia: Kellaway; Nawaqanitawase, Petaia, Kerevi, Koroibete; Donaldson, McDermott; Bell, Porecki (c), Slipper, Frost, Arnold, Leota, T Hooper, Valetini.

Eilyddion: Faessler, Schoupp, Fa'amausili, Philip, McReight, White, Gordon, Vunivalu.

Cymru v Awstralia: Dydd Sul 24 Medi, 20:00.