Cwpan Rygbi'r Byd: 'Tynged Cymru yn y fantol yn Lyon'
- Cyhoeddwyd
Gyda dwy fuddugoliaeth yn y ddwy gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd 2023, mae Cymru'n wynebu Awstralia nos Sul mewn gornest dyngedfennol yng Ngrŵp C.
Cennydd Davies sy'n asesu'r fuddugoliaeth yn erbyn Portiwgal a'r her fydd y Wallabies yn ei chynnig ar y penwythnos.
Mae tîm Cymru a'r cefnogwyr wedi codi pac a ffarwelio â heulwen braf y Côte d'Azur, ble mae cyfoeth, moethusrwydd ac arian mawr ym mhob cwr a chornel, a theithio i'r gogledd at gyrion yr Alpau a dinas Lyon, ble fydd y tîm yn dod benben ag Awstralia.
Nawr, mae'n werth nodi fod trydydd dinas mwyaf Ffrainc yn cael ei hadnabod fel prifddinas tai bwyta'r wlad, â'r cogyddion gorau yn eu plith. Ac wrth i Gymru lanio yno ar gefn dwy fuddugoliaeth, diddorol fydd gweld os yw Cymru'n meddu ar y cynhwysion cywir er mwyn cyrraedd y chwarteri.
Wedi dwy fuddugoliaeth a phwyntiau llawn mae Cymru'n sefyll ar frig Grŵp C, ac yn hynny o beth mae'n rhaid canmol y garfan, yn enwedig â nifer yn poeni cymaint am guro Fiji yn Bordeaux. Ond rydyn ni'n dal i aros am berfformiad cyflawn gan y tîm ac mae'r amheuon yn dal i fodoli cyn wynebu'r Wallabies.
Teimlad o 'déjà vu' yn erbyn Portiwgal
Roedd y gêm yn Nice yn atgoffa rhywun o noson oer nôl yng Nghaerdydd yn ystod cyfresi'r hydref. Pa mor aml ma' Cymru wedi ei chael hi'n anodd, wedi newidiadau di-ri, yn erbyn y tîm hwnnw mae disgwyl iddyn nhw eu curo'n hawdd? Samoa, Fiji, Japan, Georgia; mae'r rhain i gyd wedi peri problemau wrth i Warren Gatland geisio arbrofi a chryfhau'r dyfnder.
Roedd y Sadwrn diwetha' o bosib yn arwydd clir nad yw'r dyfnder, hyd yma beth bynnag, mor gryf â fyddai'r hyfforddwr yn ei ddymuno. A thu hwnt i'r 23 cyntaf does 'na ddim llawer o opsiynau. Byddai nifer a ddechreuodd y gêm yn erbyn Portiwgal yn gwybod mai dyma oedd yr UN cyfle i serennu, ond nifer bychan fyddai wedi dwyn perswâd ar Warren Gatland ar ddiwedd y gêm.
Ar yr un pryd rhaid canmol 'Los lobos', neu'r bleiddiaid; roedd y tîm a'i gefnogwyr yn wych a'r perfformiad, fel Wrwgwái yn erbyn Ffrainc, yn dangos yn glir fod y bwlch yn cwtogi rhwng y gwledydd sy'n cael eu hadnabod fel rheiny yn yr ail haen a'r gwledydd 'traddodiadol' - boed i hynny barhau!
Campau Fiji yn creu cur pen
Er y byddai'r cefnogwr di-duedd wedi bod wrth ei fodd wrth weld yr ynyswyr yn curo Awstralia am y tro cyntaf ers 1954, doedd hi ddim, serch hynny, yn ganlyniad i helpu Cymru, yn enwedig gan i'r Wallabies sicrhau pwynt bonws wrth golli o fewn saith.
Mae'r cyfan oll yn golygu y gallai fod yn anodd iawn i wahanu'r ddau dîm fydd yn mynd drwodd i'r wyth olaf a diolch byth am gais eiliadau olaf Taulupe Faletau yn Nice i sicrhau pwynt ychwanegol hollbwysig!
Yr hyn sydd yn bendant yw: curo Awstralia a ma' Cymru wedyn yn sicr o gamu ymlaen i'r rownd nesa; colli, ac mae'r sefyllfa'n cymhlethu a'r cyfan yn ddibynnol ar bwyntiau bonws.
Eddie ac Awstralia ar y dibyn?
Er nad yw at ddant pawb, does dim modd cyhuddo Eddie Jones o fod yn ddiflas. Yn ffigwr ffraeth, profoclyd, di-flewyn-ar-dafod, mae Jones eisoes wedi beirniadu'r wasg yn Awstralia am fod yn rhy negyddol cyn teithio i Ffrainc.
Ond wedi colli chwech o'u saith gêm ddiwethaf mae'r Wallabies o dan bwysau ac yn gwybod y byddan nhw ar yr awyren nôl i Sydney os colli nos Sul. Er y ganmoliaeth deilwng sydd wedi ei rhoi i Fiji ers y penwythnos mae nifer o wybodusion wedi beirniadu tîm presennol Awstralia.
Mae 'na sêr wrth gwrs fel Kerevi a Korebte, ond eithriadau yw'r rhain bellach a mae'r gagendor yn anferth rhwng y fersiwn presennol a thimoedd y 90au pan oedd enwau fel Horan, Lynagh, Little a Kearns wedi codi Cwpan Webb Ellis ddwywaith.
Na, dyw'r tîm yma ddim yn haeddu cael ei gydnabod ymhlith goreuon y gorffennol, ond mae hynny'n adlewyrchiad o'r safonau uchel yn y wlad, ble maent yn disgwyl llwyddiant.
Dyw'r tîm mewn aur erioed wedi methu â chyrraedd y chwarteri, ac yn hynny o beth fe fydd y frwydr yn Lyon fel rownd derfynol - mae cymaint yn y fantol i'r naill dîm a'r llall a bydd y canlyniad yn hollbwysig i benderfynu tynged y grŵp.