'Dylai Cymru boeni': Yr Awstraliaid yn nerfus ond hyderus

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Tybed faint o 'heddwch' fydd rhwng Cymru ac Awstralia ddydd Sul?

Nid yn aml y mae'r Cymry eisiau gweld Jones yn colli gêm rygbi ryngwladol - ond bydd amgylchiadau ddydd Sul yn rhai go unigryw.

Am y tro cyntaf erioed, does gan Gymru ddim un chwaraewr o'r cyfenw hwnnw yn eu carfan yng Nghwpan y Byd.

Ar y llaw arall, bydd y dyn sy'n gobeithio sbwylio'u noson yn Lyon yn enw cyfarwydd iawn - prif hyfforddwr Awstralia, Eddie Jones.

Felly beth yw'r farn ymhlith cefnogwyr y Wallabies amdano? A pha mor hyderus ydyn nhw cyn yr ornest dyngedfennol gyda Chymru?

Eddie Jones a Warren GatlandFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Rhyngddyn nhw, mae Eddie Jones a Warren Gatland wedi ennill 31 o gemau Cwpan y Byd fel hyfforddwyr - ond pwy fydd yn gwenu ar ddiwedd eu gêm olaf yng Ngrŵp C?

Gyda Chymru wedi trechu Fiji - wnaeth wedyn drechu Awstralia - mae'r frwydr yng Ngrŵp C yn un agos tu hwnt.

Os yw Awstralia'n ennill ddydd Sul gallai'r tri thîm orffen yn hafal ar bwyntiau ar y brig, gyda ond dau'n mynd drwyddo.

Buddugoliaeth i Gymru, ac fe fydden nhw drwyddo, gydag Awstralia ar y ffordd adref.

"Byddai hynny'n drychinebus, siomedig iawn," meddai Andrew Stafford, sydd wedi teithio o ardal Brisbane i fod yn Ffrainc.

"Ond 'dyn ni'n gefnogwyr brwd ac wedi bod yn dilyn y Wallabies drwy gydol ein bywydau, felly 'dyn ni'n gobeithio bod ni heb ddod mor bell â hyn i'n gweld ni'n gadael yn gynnar."

Sam Martin, Jack Ledlin, Liam Gibson a Georgia McKenzie o Sydney
Disgrifiad o’r llun,

Sam Martin, Jack Ledlin, Liam Gibson a Georgia McKenzie o Sydney

Mae Georgia McKenzie o Sydney yn un arall gafodd daith hir i gyrraedd yma - 32 awr o ochr arall y byd.

"Felly dydyn ni'n bendant ddim yn barod i fynd adre'n gynnar," meddai.

"Ond mae'r awyrgylch wedi bod yn wych yn Ffrainc hyd yma, a gobeithio wnawn ni ddod â'r egni yna gyda ni er mwyn curo Cymru."

'Cymru ddim ar eu gorau'

Cymru sydd wedi ennill y dair ornest ddiwethaf rhwng y ddau dîm, gan gynnwys o 29-25 yng Nghwpan y Byd Japan 2019.

Felly mae'n hawdd deall "nerfusrwydd" sawl un o'r Awstraliaid, sy'n gwybod nad oes lle am gamgymeriadau pellach.

Ond dydy hynny ddim yn golygu eu bod nhw'n disgwyl cael eu trechu gan y crysau cochion, chwaith.

Mitch, James, Michael, James, Jono a Tom, o Melbourne a Sydney
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Cymru nag Awstralia wedi bod ar eu gorau hyd yn hyn, medd James o Sydney (ail o'r chwith)

"Ro'n i'n meddwl bydden ni'n curo Ffiji, ond ddaethon ni ddim hyd yn oed yn agos iddyn nhw," cyfaddefodd James o Sydney.

"Ond ydy Cymru wedi bod ar eu gorau'n ddiweddar? Dwi ddim yn meddwl. Na'i ddeud mai ni sy'n ennill."

Eddie Jones 'yn hoff o'r math yma o sefyllfa'

Gydag ymddeoliad Alun Wyn Jones ac absenoldeb Wyn Jones yng ngharfan Cymru eleni, am y tro cyntaf does neb i chwifio'r faner dros gyfenw mwyaf cyffredin y wlad.

Yr unig un fydd yn cynrychioli'r teulu ddydd Sul felly yw Eddie Jones, sy'n fwy adnabyddus i'r Cymry fel y cyn-hyfforddwr Lloegr oedd yn hoffi ambell i sylw pryfoclyd.

Gydag yntau a Warren Gatland yn dod benben â'i gilydd eto, bydd hi'n werth cadw llygad ar eu sylwadau oddi ar y cae hefyd.

(O'r chwith i'r dde) Andrew Stafford a'i fab Zac, 10, gyda Ziggy, 11, a'i dad yntau Stuart Greensill
Disgrifiad o’r llun,

Andrew Stafford (chwith) a'i fab Zac, 10, gyda Ziggy, 11, a'i dad yntau Stuart Greensill

"Mae [Jones] yn hoffi'r math yma o sefyllfa," meddai Andrew Stafford.

"Does ganddo ddim byd i'w golli gyda'r garfan ifanc yma o chwaraewyr."

Cytuno mae Sam Martin, er ei fod yn cyfaddef bod "tipyn o bwysau" ar yr hyfforddwr.

"Mae e'n gymeriad drygionus, mae ganddo'r ysbryd Awstraliaidd yna," meddai.

"Os 'dych chi wedi bod i unrhyw un o'r stadiymau ar gyfer gemau'r Wallabies hyd yma, mae'r dorf Ffrengig yn ei rwygo fe'n ddarnau, yn bŵio bob tro mae e ar y sgrin - mae'n tipyn o olygfa.

"Ond 'dyn ni i gyd yn gobeithio bydd e'n tynnu rhywbeth allan o'r het a chael y fuddugoliaeth - dylai Cymru boeni."

Cwpan Rygbi'r Byd
Cwpan Rygbi'r Byd