'Dim synnwyr gorfod gadael Cymru i ddal y trên i'r de'
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd o Wynedd wedi cerdded dros 150 o filltiroedd fel rhan o ymgyrch i ailagor cysylltiadau rheilffordd rhwng y gogledd a'r de.
Gan ddilyn coridorau rheilffordd Afon-Wen, y Cambrian, Aberystwyth i Gaerfyrddin a'r Great Western i Gaerdydd, bwriad ymgyrch Traws Linc Cymru yw codi ymwybyddiaeth o'r angen am system drafnidiaeth gyhoeddus well.
Byddai hyn, yn ôl Elfed Wyn ap Elwyn, yn "uno Cymru" ond hefyd yn meithrin cysylltiadau gwell â gweddill y DU.
Ar hyn o bryd mae siwrnai ar y trên rhwng Bangor a Chaerdydd yn golygu teithio drwy siroedd Amwythig a Henfordd.
Mae deiseb ar-lein - sy'n galw am ailagor llinellau Bangor i Afon-wen ac Aberystwyth i Gaerfyrddin, ac integreiddio'r rhain â lein y Cambrian a'r lein o Gaerfyrddin i Gaerdydd - eisoes wedi denu dros 12,000 o lofnodion.
Wedi dechrau ar ei daith o Fangor fore Sul, 17 Medi, a cherdded o Fangor i Lanelli, mae Elfed Wyn ap Elwyn yn gobeithio cwblhau ei daith ar y trên i Gaerdydd ddydd Mercher.
Ddydd Mawrth bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Deisebau Senedd Cymru.
Yn ôl y cynghorydd, sy'n cynrychioli ward ym Mlaenau Ffestiniog, mae "angen cysylltu Cymru yn fewnol" a "does ddim synnwyr" bod yn rhaid gadael y wlad tra'n teithio rhwng y de a'r gogledd ar y trên.
Wrth siarad ar y Post Prynhawn ar Radio Cymru fe dywedodd fod "dipyn o olwg" ar ei draed erbyn hyn.
"Dwi fod i gyrraedd Caerdydd erbyn dydd Mercher ond dwi wedi penderfynu neidio ar y trên rhwng Llanelli a Phen-y-bont ac yn gobeithio cario mlaen i gerdded fory tuag at Penarth... jyst hefo cyflwr y traed a'r traffig ar y ffordd.
"Unwaith mae'r glaw yn mynd i'r sgidia' mae rhywun yn cael llu o broblemau, ond 'di o ddim mor ddrwg fel wna'i ddim gwella dros yr wythnosau nesa, ond dwi'n benderfynol o orffen ddydd Mercher o flaen y Senedd."
Aeth ymlaen i ddweud ei fod wedi derbyn cefnogaeth i'r ymgyrch yn ystod y daith.
"Yn sicr mae'r drafodaeth ar Facebook wedi bod yn un ddiddorol iawn a llawer o bobl yn dweud fod hyn yn angenrheidiol.
"Mae rhywun yn gweld sut mae'r rheilffordd yn gallu cysylltu cymunedau a threfi at ei gilydd ac mae'n un o'r pethau 'dan ni wir angen rhwng gogledd a de Cymru - yn enwedig gyda llawer iawn o'r gogledd yn byw a gweithio yng Nghaerdydd rŵan."
Dyfodol HS2
Mae'r BBC yn deall y gallai penderfyniad ar ddyfodol HS2 gael ei wneud cyn gynted â'r wythnos hon.
Bwriad y prosiect rheilffordd cyflym yw cysylltu Llundain gyda chanolbarth a gogledd Lloegr.
Mae'r rhan gyntaf, rhwng gorllewin Llundain a Birmingham, eisoes yn cael ei hadeiladu.
Ond mae'r cynllun yn ei gyfanrwydd eisoes wedi wynebu oedi, cynnydd mewn costau a thoriadau - gan gynnwys y cymal dwyreiniol arfaethedig rhwng Birmingham a Leeds a gafodd ei ddileu ddiwedd 2021.
Mae'r llwybr cyflym wedi'i gategoreiddio'n swyddogol fel prosiect Cymru a Lloegr, er nad yw'n croesi'r ffin.
Dadl llywodraeth y DU yw y bydd HS2 yn gwella dibynadwyedd trenau ar draws y DU, gan gynnwys gwasanaethau i mewn i Gymru.
Ond yn ôl rhai, byddai ei ailddynodi fel prosiect Lloegr yn unig yn darparu £5bn o gyllid ychwanegol i Gymru.
Gan ddadlau fod ailagor rheilffyrdd "yn sicr yn werth y pres", fe ychwanegodd Elfed Wyn ap Elwyn: "Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod fod nhw ddim isio gwario ar newidiadau drastig i'r ffyrdd, sy'n golygu na'r un hen ffyrdd a'r A470 a'r troeadau rhyfedd am y blynyddoedd nesa' fydd ganddon ni.
"Gydag ailsefydlu'r rheilffordd mae'r gost am fod yn eitha' uchel ond yn ffracsiwn o'i gymharu â HS2... mae £5bn ar goll o be ddylsa Cymru gael.
"Does ganddyn nhw ddim dadl y bydd o fudd i Gymru a gall y £5bn datblygu'r llinell rhwng y gogledd a'r de."
"Rhagrith" a "ffiasgo", medd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yw dadl Llywodraeth y DU y byddai Cymru'n elwa o gynllun ble "does na'r un modfedd o'r trac yn mynd yn agos i Gymru".
Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Liz Saville Roberts AS bod y ddadl honno yn "chwalu" o ddileu ail gymal y cynllun, a fyddai'n cysylltu Crewe a Manceinion gyda Birmingham.
"Yr hyn sy'n bwysig i'w ddeall yw cyn lleied sy'n cael ei wario ar wella rheilffyrdd yng Nghymru," dywedodd.
"Mae gynnon ni 11% o'r trac ym Mhrydain Fawr yng Nghymru ond 1% o'r arian i wella 'dan ni 'di ca'l yn hanesyddol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i warchod coridorau teithio posib ar arfordir y gorllewin ac rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar gryfhau'r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y gogledd a'r de.
"Rydym hefyd yn galw ar lywodraeth y DU i roi'r swm canlyniadol sy'n ddyledus i Gymru o'r cynllun HS2, a ddynodwyd yn gynllun Cymru a Lloegr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2018