Cwpan Rygbi'r Byd: Cymru'n trechu Awstralia o 40-6

  • Cyhoeddwyd
Cais Gareth DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Gareth Davies cais cyntaf Cymru o fewn tair munud

Mae Cymru wedi ennill eu lle yn rownd yr wyth olaf Cwpan Rygbi'r Byd wedi buddugoliaeth yn erbyn Awstralia.

Gwnaeth tri chais gan Gareth Davies, Nick Tompkins a Jac Morgan, a chiciau cosb cyson Gareth Anscombe sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i dîm Warren Gatland.

Dechreuodd Cymru yr hanner cyntaf yn gryf, gyda Davies yn croesi o fewn tair munud.

Wedi tafliad o'r lein gan Aaron Wainwright cyrhaeddodd y bêl ddwylo Morgan, a rhedodd heibio i dri o chwaraewyr Awstralia, cyn pasio at Davies i dirio wrth y pyst.

Ymatebodd Awstralia yn fuan gyda dwy gic gosb gan Ben Donaldson i gau'r bwlch.

Roedd angen newid cynnar i Gymru, gyda Gareth Anscombe yn cymryd lle Dan Biggar, wedi iddo ddioddef anaf.

Tarodd Gareth Anscombe y pyst gyda'i gic gosb gyntaf ond roedd yn llwyddiannus gyda'i ail gan roi triphwynt arall i Gymru.

AnscombeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cicio Gareth Anscombe yn hollbwysig i fuddugoliaeth Cymru

Roedd Awstralia yn rhoi tipyn o bwysau ar Gymru ar adegau yn ystod yr hanner ond roedd y dynion mewn coch yn edrych yn hyderus wrth amddiffyn.

Gwnaeth dwy gic gosb arall gan Anscombe rhoi Cymru 10 pwynt ar y blaen, ac eiliadau cyn yr hanner roedd yn edrych fel y byddai pas gan George North i Louis Rees-Zammitt yn sicrhau ail gais i Gymru - ond llwyddodd Awstralia i'w ddal i fyny, gyda'r sgôr yn 16-6 ar yr egwyl.

Dechreuodd yr ail hanner gyda chic gosb lwyddianus arall gan Anscombe, cyn i Nick Tompkins sgorio ail gais Cymru, gyda rhediad berffaith i ddal y bêl oddi ar gic fach gan Anscombe dros bennau chwaraewyr Awstralia.

Gwnaeth tacl uchel a chamsefyll arwain at ddwy gic gosb arall, cyn i Anscombe gicio gôl adlam gan sicrhau sgôr uchaf Cymru erioed mewn gêm yn erbyn Awstralia a gwobr seren y gêm i'w hun.

Roedd cais arall ym munudau olaf y gêm gan y capten Jac Morgan i selio'r fuddugoliaeth i Gymru, gyda'r golled yn golygu bod Awstralia allan o'r bencampwriaeth oni bai bod canlyniadau eraill yn mynd o'u plaid.

Tompkins yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nick Tompkins sgoriodd ail gais Cymru

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Cymru yn rownd yr wyth olaf, gyda Fiji yn unig yn medru eu disodli o frig grŵp C.

Ar ddiwedd y gêm dywedodd Warren Gatland: "Roeddwn yn hapus iawn gyda sawl peth heno.

"Dwi'n credu ein bod wedi bod yn glinigol o ran rheoli'r gêm, a chymryd ein pwyntiau ac roeddwn yn hapus na wnaethon ni ildio cais o gwbl.

"Mae'r tîm yma yn gwella gyda momentwm a hyder ac rydym mewn lle da ar hyn o bryd," meddai.

Dywedodd Jac Morgan: "Ni wedi chwarae'n dda yn y ddwy gêm olaf, dwi'n credu heddi, roedd ein disgyblaeth ni yn well.

"Roedd lot o hyder yn mynd fewn i'r gêm, roedd yn dangos heddi gyda'r perfformiad ail hanner, roedd y bois yn grêt."