Abertawe: Dyn 80 oed wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Helen ClarkeFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Helen Clarke yn yr ysbyty dros y penwythnos

Mae dyn 80 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yn Abertawe.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Lôn Sgeti, ger Ysbyty Singleton, gan y gwasanaeth tân ychydig ar ôl 08:20 ddydd Gwener, 22 Medi yn dilyn adroddiadau bod car Honda Jazz du ar dân.

Fe gafodd Helen Clarke, oedd yn 77 oed, losgiadau difrifol a bu farw yn Ysbyty Treforys nos Sul.

Mae David Clarke wedi ei gadw yn y ddalfa ar ôl mynd o flaen Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun a Llys Y Goron y ddinas ddydd Mawrth.

Fe fydd ei ymddangosiad llys nesaf ar 13 Tachwedd.

'Amgylchiadau annodweddiadiol'

Dywedodd Heddlu De Cymru ddydd Gwener bod ail berson wedi cael llosgiadau yn y digwyddiad, a bod y ddau unigolyn y bu'n rhaid gael eu cludo i Ysbyty Singleton am driniaeth yn ŵr a gwraig.

Roedden nhw hefyd wedi datgan bod y dyn mewn cyflwr sefydlog.

Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i deulu Mrs Clarke, sydd wedi gofyn am "breifatrwydd i ddelio gyda'r drasiedi yma".

Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid cau rhan o'r ffordd sy'n arwain at fynedfa'r ysbyty o Barc Y Sgeti

Mewn datganiad dywedodd y teulu eu bod "yn ceisio dod i delerau â marwolaeth mam, mam-gu a chyfaill dan amgylchiadau annodweddiadol".

Ychwanegodd y teulu eu bod "yn gweithio gyda'r heddlu i sicrhau bod y sawl sy'n gyfrifol yn ei iawn bwyll ac yn atebol" am yr hyn sydd wedi digwydd.

Dywedodd y Prif Arolygydd Paul Raikes: "Mae ein meddyliau gyda theulu Helen ar yr adeg hynod ofidus yma.

"Mae ditectifs yn parhau i weithio ar y cyd ag arbenigwyr eraill i ddeall amgylchiadau llawn y digwyddiad."

Mae'r llu wedi apelio am wybodaeth neu luniau gan unrhyw un oedd yn ardal Lôn Y Sgeti rhwng 08:00 a 08.30 ddydd Gwener diwethaf.

Pynciau cysylltiedig