Llanelli: Carchar wedi'i ohirio am sylwadau maleisus

  • Cyhoeddwyd
StradeFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Geraint Thomas y sylwadau maleisus yn ystod protest yn ymwneud â'r cynllun i ddefnyddio gwesty Parc y Strade ar gyfer ymgeiswyr lloches

Mae dyn gyhoeddodd fideo yn gwneud sylwadau maleisus am blismones wedi cael dedfryd o garchar wedi ei gohirio.

Fe wnaeth Geraint Thomas, 34, ei sylwadau yn ystod protest y tu allan i Westy Parc y Strade ger Llanelli ar 17 Awst.

Roedd Thomas, o Stryd Prendergast yn Llanelli, eisoes wedi pledio'n euog i anfon neges faleisus.

Dywedodd cadeirydd y fainc wrtho ei bod hi'n poeni'n fawr am ei sylwadau a bod y blismones dan sylw ond yn gwneud ei gwaith o warchod y gymuned.

"Dyw person ddim yn disgwyl cael ei sarhau fel yna wrth wneud ei waith" meddai

Dywedodd yr erlyniad ei fod wedi achosi loes sylweddol i'r swyddog dan sylw.

Clywodd y gwrandawiad dedfrydu yn Llys Ynadon Llanelli fod gan Thomas record droseddol eisoes a'i fod wedi ei erlyn am anfon neges faleisus yn 2015.

Dywedodd cyfreithiwr Thomas ei fod yn edifar am yr hyn ddigwyddodd a'i fod wedi ysgrifennu at y blismones.

"Roedd y llythyr yn dangos gwir edifeirwch," meddai'r cyfreithiwr.

Ychwanegodd fod Thomas yn derbyn fod hon yn drosedd ddifrifol a bod y fideo wedi cael effaith ar y ddioddefwraig.

Cafodd Thomas ddedfryd o naw wythnos o garchar wedi'i gohirio a bydd yn rhaid iddo wneud 25 diwrnod o waith adferol di-dâl yn ogystal â chymryd rhan yng nghynllun adfer Stepwise.