Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 1-5 Denmarc

  • Cyhoeddwyd
Pernille HarderFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Denmarc yn dathlu gôl agoriadol Pernille Harder

Roedd hi'n fuddugoliaeth gyfforddus i'r ymwelwyr wrth i Ddenmarc drechu Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.

Dechreuodd Denmarc fel y ffefrynnau ac fe wnaethon nhw gyfiawnhau'r tag hwnnw drwy fod yn rhy gryf ar y noson.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Cymru'n parhau heb yr un pwynt yn y grŵp wrth i hat-tric Pernille Harder helpu Denmarc ar eu ffordd.

Sgoriodd Harder ddwywaith yn yr 11 munud agoriadol, y gyntaf diolch i gic o'r smotyn a'r ail drwy fanteisio ar amddiffyn llac.

Rhoddodd ymdrech Jess Fishlock o 20 llath obaith i Gymru, ond llwyddodd Frederikke Thogersen i ail sefydlu dwy gôl o fantais drwy rwydo trydedd Denmarc gydag awr ar y cloc.

Rhwbiwyd halen ar y briw wrth i Sanna Troelsgaard sgorio pedwaredd Denmarc wedi 87 munud cyn i Harder sicrhau eu hat-tric yn ystod amser ychwanegol.

Hon oedd yr ail golled i dîm Gemma Grainger yng Nghynghrair y Cenhedloedd wedi iddyn nhw golli yng Ngwlad yr Iâ nos Wener.