'Emosiynol' rhedeg hanner marathon er cof am fab fu farw

  • Cyhoeddwyd
Gavin, Trystan, Macsen a RuthFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe roddodd Ruth Coleman, 37 o Ferthyr Tudful, enedigaeth i efeilliaid yn 2021 ond bu farw Macsen yn wyth wythnos oed

Mae mam a gollodd fabi yn wyth wythnos oed yn dweud y bydd rhedeg hanner marathon Caerdydd er cof amdano'n brofiad emosiynol.

Fe roddodd Ruth Coleman, 37 o Ferthyr Tudful, enedigaeth i efeilliaid yn 2021.

Bu farw Macsen, brawd bach i Trystan, yn dilyn cymhlethdodau gyda chyflwr ar ei galon.

Mae Ruth yn benderfynol o godi arian i elusen British Heart Foundation (BHF) er cof am ei mab.

"Ges i efeilliaid ac fe gafodd un o' nhw eu geni gyda phroblemau calon, problemau really difrifol," dywedodd Ruth.

"O'dd rhaid iddo fe gael llawdriniaeth ar y galon pan oedd e'n 12 diwrnod oed. Roedd e'n amser erchyll i ni fel teulu."

Roedd gan Macsen gyflwr cymhleth ar y galon o'r enw Truncus Arteriosis.

"Ar ôl iddo fe ddod adref a gwella, naethon ni golli fe yn really sydyn, a dy'n ni dal ddim yn gwybod pam," ychwanegodd Ruth.

"Dyna'i gyd ry'n ni'n gwybod yw bod e'n post-operative a nad yw e'n digwydd yn aml ond bod e wedi digwydd i ni."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Trystan (chwith) a Macsen (dde) eu geni yn 2021

"Yn y diwrnodau cynnar, o'n i'n teimlo bod rhaid i fi ffeindio rhywbeth. Rhyw fath o outlet le o'n i'n cael amser i feddwl a phrosesu be' sy' 'di digwydd," ychwanegodd Ruth.

"Nes i drio pob math o bethau, allan o desparation mwy na dim byd."

Dyna pryd y dechreuodd Ruth redeg ac mae wedi parhau i wneud ers hynny.

"O'n i ddim hyd yn oed yn gallu cerdded am funud i ddechrau - ro'n i allan o anadl!

"Ond ers 'ny mae e really wedi helpu gyda lles meddyliol."

Codi £7,500 hyd yma

Dywedodd Ruth mai nod rhedeg y ras yw codi arian ac ymwybyddiaeth am gyflyrau ar galonnau plant.

"Fi eisiau codi arian i'r elusen achos fi'n meddwl fod e mor bwysig helpu eraill," dywedodd.

"Fi'n mynd yn eitha' emosiynol am hyn achos o'n i byth yn meddwl y bysen ni wedi codi gymaint.

"Dechreuon ni hyn [codi arian] flwyddyn yn ôl. Ni 'di codi £7,500 nawr ar gyfer yr elusen [BHF].

"Y targed yw £10,000 erbyn diwedd 2025 ond fel mae'n edrych ni'n mynd i daro'r targed lot yn gynt!"

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bydd mab hynaf Ruth, Tomos, yn rhedeg ras i blant gyda'i ffrindiau wrth ymuno yn yr ymdrechion codi arian

Dywedodd y bydd ei mab hynaf, Tomos sy'n chwech oed, yn rhedeg ras y plant ddydd Sadwrn gyda chriw o'i ffrindiau o Ysgol Santes Tudful.

"Maen nhw i gyd 'di bod yn ymarfer, i gyd yn gwisgo coch ac yn barod am y sialens," dywedodd.

"I ni, fel teulu, mae'n golygu lot achos ni'n teimlo'n bod ni'n 'neud rhywbeth.

"Ni'n teimlo bod ni'n gallu bod yn ddefnyddiol trwy amser caled, ac mae hi dal yn amser caled i ni, ond ni eisiau gwneud gwahaniaeth."

Dywedodd Ruth fod criw yn ymuno â hi i redeg ddydd Sul.

"Mae'n really emosiynol i 'neud e achos fi'n gwybod pam bo' fi'n 'neud e," ychwanegodd.

"Flwyddyn yma, ma' tua 20 ohonon ni, ffrindiau agos, maen nhw yna i gefnogi fi. Mae'n golygu lot i fi a'r teulu."

Pynciau cysylltiedig