Rhoddwr sberm: 'Balch fod gan fy mab opsiwn i ddod o hyd i'w dad'

  • Cyhoeddwyd
Mari ac IdrisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Mari drwy broses o gael rhoddwr sberm ac fe gafodd Idris ei eni saith mlynedd yn ôl

Mae mam o Gaerdydd a gafodd blentyn drwy roddwr sberm yn dweud ei bod yn falch y bydd ganddo'r opsiwn o allu dod o hyd i'w dad.

Bydd gan blant sy'n 18 oed ar ôl 1 Hydref [ddydd Sul] yr hawl i gysylltu â'u rhieni drwy roddwr wy neu sberm, wrth i gyfraith ddod i rym.

Fe roddodd Mari Roberts, 46, enedigaeth i Idris saith mlynedd yn ôl ar ôl penderfynu y byddai'n cael rhoddwr sberm, fel mam sengl.

Dywedodd fod sgwrs ynghylch y pwnc yn bwysig - gyda'i mab ac yn gyhoeddus - fel nad oes tabŵ.

"O'n i wedi bod yn meddwl am gael rhoddwr sberm am sawl blwyddyn wedyn pan nes i droi'n 38 nes i benderfynu bo' rhaid i fi feddwl amdano fe'n fwy serious," dywedodd Mari.

"Nes i fynd drwy'r broses, cael IVF drwy roddwr sberm a naeth Idris gael ei eni just cyn i fi droi yn 40.

"Ers hynna ni just wedi bod yn byw, just y ddau ohonom ni."

'Anaml y mae'n gofyn cwestiynau'

Mae gan Mari bartner o'r enw Luke ers rhai blynyddoedd, ond mae Idris yn deall nad ef yw ei dad biolegol.

Dywedodd Mari ei bod wedi penderfynu o'r dechrau y byddai'n trafod yn agored gydag Idris ei bod wedi cael rhoddwr sberm.

Er ei fod yn ifanc, mae hynny'n bwysig iddi dywedodd.

"Fi byth wedi cuddio unrhyw beth wrtho fe, fel bod e byth yn teimlo fel bod 'na big reveal wedi bod. Fi wedi defnyddio llyfrau ac yn y blaen i esbonio'r broses.

"Ond y gwir amdani yw, dyw e ddim yn gofyn lot o gwestiynau o gwbl a dyw e ddim efo lot fawr o ddiddordeb.

"Anaml iawn y mae e'n holi cwestiynau i fi. I fi, mae e'n hapus yn ei fywyd e, falle bod e ddim yn teimlo'n angen i holi unrhyw beth arall."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig fod gan Idris yr opsiwn i ddod o hyd i'w dad pan fydd yn 18, dywedodd Mari

Dywedodd Mari fod ganddi wybodaeth am y person ers iddi ddechrau'r broses - gan gynnwys lluniau a gwybodaeth am ei rinweddau a chefndir ei deulu.

Mae Idris dal yn ifanc, ond fe fydd ganddo'r hawl pan yn 18 wneud cyswllt â'i dad.

"Dwi'n falch y bydd ganddo fe'r opsiwn," dywedodd Mari.

"Dyw e ddim yn newid cyfraith nawr, ma hynny 'di digwydd nôl yn 2005, ond mae e'n effeithio ar y plant cyntaf nawr achos maen nhw'n troi'n 18.

"Fel hyn oedd hi wastad yn mynd i fod, ro'n i'n gwybod hynny. O'n i wedi paratoi fy hun bod e'n mynd i gael yr opsiwn yma'n 18 oed.

"Dwi'n falch. Falle na fydd ganddo fe ddiddordeb, falle y bydd.

'Pa mor hawdd fydd dod o hyd i'r person?'

Ond dywedodd fod ganddi rai pryderon er hynny.

"Fi ddim yn siwr pa mor hawdd fydd hi iddo fe ffeindio y person. Bydd e'n ddiddorol gweld nawr sut mae hynny'n digwydd dros y blynyddoedd nesaf.

"Mae lot o'r rhoddwyr yma, dy'n nhw ddim yn byw yn y Deyrnas Unedig, maen nhw'n byw dramor, yn America neu'n Ewrop.

"Felly fi ddim yn siwr pa mor hawdd fydd hi. Yr unig beth arall weithie fi'n poeni amdano yw dwi ddim eisiau iddo fe fod yn siomedig.

"Os nag yw e'n cael yn ôl be' mae e eisiau o'r broses," ychwanegodd.

"Wedi dweud hynny, bydden i'n hapus iddo fe gwrdd â'r person ac yn hapus i'w helpu.

"A gyda dod i wybod hanner brodyr a chwiorydd efallai, mae hynny yr un mor bwysig."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae drama a chyfres Anfamol yn seiliedig ar brofiad y cymeriad, Ani, o gael babi trwy ddefnyddio rhoddwr sberm

Mae dechrau'r sgwrs a chwalu tabŵ am roddwyr sberm yn bwysig hefyd, dywedodd Mari.

Yn amserol, dywedodd Mari ei bod wedi mwynhau drama a chyfres Anfamol gan Rhiannon Boyle a'r actores Bethan Ellis-Owen sy'n trafod y pwnc.

"Fi wrth fy modd 'efo fe. Fi'n gallu uniaethu hefo lot ohono fe," dywedodd.

"Rhai o'r darnau, fi'n teimlo fel mai fi oedd hynna. Lot ohono fe dwi ddim hefyd!

"Ond mae'r sgwrs mor bwysig. Dwi ddim yn teimlo bod tabŵ a ma' hynny'n grêt."

Pynciau cysylltiedig