'Diolch am y prawf rheolaidd a achubodd fy ngolwg'
- Cyhoeddwyd
Mae Lucy Owen a Dylan Jones wedi gweld tipyn yn ystod eu gyrfaoedd.
Fel prif gyflwynydd Wales Today mae hi wedi tywys gwylwyr drwy prif ddigwyddiadau Cymru bob nos ers bron i 30 mlynedd.
Fel prifathro, roedd o'n ganolog i ddatblygiad addysg Gymraeg ym Mro Morgannwg, ac mae bellach yn ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
I ddau sydd wedi gweld cymaint dros y blynyddoedd, roedd 'na beryg go iawn y byddan nhw yn colli'u golwg ar ôl i'w retinâu ddatgysylltu.
Mae'r ddau yn dweud mai i'w optometryddion mae'r diolch am achub eu golwg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i wasanaethau optometreg, fydd yn dod i rym ar 20 Hydref.
Y nod ydy darparu rhagor o wasanaethau gofal llygaid cymunedol er mwyn lleihau rhestrau aros ysbytai.
'Y peth nesa', ro'n i yn yr ysbyty'
"Ro'n i'n gweld fflachiadau gwyn, dim llawer, ac o'n i'n meddwl dim mwy am y peth," meddai Lucy.
"Ond fe gollais i'n sbecs, felly mi es i at yr optegydd am check-up cyflym a phrynu sbecs newydd.
"Y peth nesa', ro'n i ar y ffordd i'r ysbyty i gael surgery, am fod y retina yn dechrau dod yn rhydd."
Celloedd yng nghefn y lygad ydy'r retina, sy'n troi golau yn signalau trydanol i'r ymennydd ac yn ein galluogi ni i weld.
Petai'r retina yn datgysylltu yn gyfan gwbl, does dim modd trwsio'r niwed, a bydd y golwg yn mynd yn llwyr.
Gan fod optometrydd Lucy wedi sylwi'n ddigon cynnar, roedd modd gwneud llawdriniaeth i ail-gysylltu'r retina ac achub ei golwg.
"Rhyw 40 munud gymerodd yr op ac fe roeddwn i adre' mewn ychydig o oriau," meddai, "ond bu'n rhaid i mi orwedd ar fy ochr am wythnos er mwyn i'r lygad wella."
Daeth ei golwg yn ôl yn llwyr ar ôl rhyw dri mis ac mae hi bellach yn ôl yn cyflwyno'r newyddion.
"Roedd e'n sioc massive ac mae wedi cymryd tri mis i wella," meddai, "ond 'dw i yn gallu gweld a 'dw i mor lwcus a 'dw i mor ddiolchgar i'r optegydd.".
Diolch i'w optegydd hefyd mae Dr Dylan Jones ar ôl iddo yntau bron â cholli'i olwg.
"Fe sylweddolais i dros y Sul bod genna'i rhyw gasgliad yn fy lygad chwith, ac o fynd at yr optegydd ges i fy nghyfeirio'n syth wedyn i Ysbyty'r Waun a darganfod bod y retina wedi datgysylltu.
"Ges i sioc a 'dw i ddim eisiau mynd trwy hynny eto," meddai.
Bu'n cael llawdriniaeth am awr lle cafodd y retina ei ail-osod ar gefn ei lygad, gyda swigen nwy yn cadw'r retina yn y lle cywir.
"Roedd yn rhaid i mi orwedd ar fy ochr oherwydd bod 'na swigen nwy yn fy llygaid i gadw'r retina yn ei le, a bu'n rhaid i mi wneud hynny am rhyw 10 diwrnod tan i'r swigen glirio... o'n i'n ffodus iawn."
Rhai blynyddoedd wedyn sylwodd Dr Jones bod rhyw fath o waed yn y lygad arall.
"Oherwydd fy mhrofiad cynt, ers i'n syth at yr optegydd a darganfod roedd 'na waedlif yn y retina - a diolch byth mod i wedi mynd, gan ein bod wedi llwyddo i osgoi'r retina'n datgysylltu, rhwyg yn unig oedd yna.
"Llawdriniaeth laser ges i'r tro yna i drwsio'r rhwyg."
'Profion rheolaidd mor bwysig'
Mae Llywodraeth Cymru'n cyflwyno newidiadau i wasanaethau optometreg fel bod optometryddion yn gallu cynnig ystod ehangach o driniaethau a gwasanaethau monitro cyflyrau ar y stryd fawr.
Y nod ydy lleihau rhestrau aros mewn ysbytai sy'n trin cyflyrau yn ymwneud â'r llygaid.
"Mae 'na lot fawr o bwysau ar ein gwasanaethau iechyd, yn arbennig yn ein ysbytai sy'n ymwneud â golwg," meddai'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan.
"A dyna pam ry'n ni'n gwneud hyn gan weld a deall bod sgiliau gyda ni yn y gymuned - sgiliau optometryddion sy'n gweithio ar y stryd fawr, sy'n gallu gwneud lot fwy na'r hyn mae nhw'n yn ei wneud ar hyn o bryd.
"Felly ni'n ail-hyfforddi nhw ac yn buddsoddi £30m i sicrhau eu bod nhw yn gallu rhoi gwasanaeth yn y gymuned sydd ddim ar gael ar hyn o bryd, a gobeithio y bydd hynny'n stopio problemau [golwg] rhag ddatblygu yn y dyfodol," meddai.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig gyda 75,000 o bobl yn aros am fwy na'r amser targed am ofal llygaid, fod angen i'r diwygiadau gyflawni ar gyfer cleifion.
Mae ymgyrch newydd wedi dechrau i annog oedolion dros 30 oed i fynd am brawf golwg yn eu swyddfa optometreg lleol.
Mae'r cynlluniau wedi cael croeso gan RNIB Cymru, sy'n cefnogi pobol sydd â cholled golwg.
"Mae modd osgoi 50% o enghreifftiau o gyflyrau sy'n gallu arwain at golli golwg os y'n nhw'n cael eu pigo lan yn gynnar," meddai Liz Williams, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, RNIB Cymru.
"Ni'n sôn am bethau fel glawcoma, cataractau, retinopathi diabetig a dirywiad macwlaidd, felly mae mynd am brofion golwg rheolaidd mor bwysig.
"Os ydy pobl yn gallu cael triniaeth yn y gymuned mae adnoddau ysbytai ar gael i rhoi triniaeth i bobl sydd mewn peryg difrifol, felly mae optegwyr yn pigo pethau lan yn gynnar yn helpu pawb."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2023
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd8 Mai 2022