Balchder teulu o Gymru dros gyflwyno Cyfraith Jade
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dynes a gafodd ei llofruddio gan ei gŵr wedi iddyn nhw wahanu wedi disgrifio'u balchder o wybod y bydd y gyfraith yn newid yn ei henw, i ddileu hawl troseddwyr i gael llais ym magwraeth eu plant.
Cafodd Jade Ward, a oedd yn 27, ei thrywanu a'i thagu yn ei chartref yn Shotton, Sir y Fflint gan Russell March tra bod eu pedwar mab yn cysgu.
Fe gafodd Marsh ddedfryd o garchar am oes gydag isafswm o 25 mlynedd dan glo, ond mae wedi parhau i gysylltu â theulu Ms Ward yn gofyn am bethau fel lluniau ac adroddiadau ysgol eu plant.
Dywed ei mam ei fod "yn falch o bawb" sydd wedi helpu sicrhau'r newid.
O dan y ddeddfwriaeth bresennol mae'n rhaid ymgynghori â throseddwyr, gan gynnwys llofruddion, ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu plant, fel materion meddygol, addysg a gwyliau tramor.
Mae rhieni Jade, Karen Robinson a Paul Ward, perthnasau eraill a ffrindiau, wedi bod yn ymgyrchu i newid y gyfraith ers ei llofruddiaeth yn Awst 2021.
Gwnaeth deiseb ar-lein ddenu dros 130,000 o lofnodion a sbarduno dadl Seneddol.
"Roedd gwybod bod ganddo hawliau ac yn anfon negeseuon trwy ei gyfreithiwr - gan danlinellu ei fod yn dal yna ac yn dal â rheolaeth - yn erchyll," dywedodd Ms Robinson.
"'Dwi mor falch o bawb sydd wedi bod yn rhan o ymgyrch Cyfraith Jade - pobl a arwyddodd y ddeiseb, pobl a anfonodd negeseuon o gefnogaeth, pobl a siaradodd â ni ar y stryd.
"Roedden ni'n mynd trwy'r fath drawma, ond do'n i methu gadael iddi farw'n ofer. Roedd Jade yn enaid mor hyfryd... sydd wedi gadael gwaddol ar gyfer teuluoedd eraill.
"Ein gobaith unwaith mae popeth yn ei le, os yw cymar yn ystyried lladd y rhiant arall ac yn gwybod y bydden nhw'n colli'u hawliau - os ydy hynny'n eu hatal, dyna deulu sydd wedi ei achub."
Mor ddiweddar â mis Gorffennaf fe wrthododd ASau ddiwygiad i fil i atal hawliau rhieni sydd yn y carchar am ladd cymar.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod deddfwriaeth mewn grym eisoes sy'n caniatáu i farnwyr "gael gwared ar holl hawliau a phwerau rhiant sydd wedi lladd y rhiant arall," ond eu bod "yn awyddus i fynd yn bellach."
Bydd y Gweinidog Cyfiawnder Alex Chalk yn amlinellu cynlluniau i gyflwyno 'Cyfraith Jade' yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion.
Dywedodd bod yr ymgyrch wedi "amlygu anghyfiawnder" o fewn y system.
"Ni ddylai llofruddion sy'n lladd eu partneriaid allu rheoli eu plant o'r carchar, a dyna pam rydym yn cywiro'r gyfraith i ddiogelu teuluoedd rhag yr ymddygiad ofnadwy yma."
Bydd y deddfwriaeth newydd yn atal cyfrifoldeb rhiant yn awtomatig tra bod unrhyw fam neu dad yn y carchar am ladd y person oedd yn rhannu'r cyfrifoldeb am eu plant.
Mae'n golygu na fydd rhaid i aelodau'r teulu wneud cais i lys teuluol er mwyn cael gwared ar hawliau rhiant y llofruddiwr.
Bydd yna eithriad yn achos rhieni sy'n lladd eu partneriaid trwy gyfrifoldeb lleihaëdig yn dilyn hanes o gam-drin domestig.
Fe fydd y mesurau'n cael eu cyflwyno yn y Senedd fel rhan o'r Bil Dioddefwyr a Charcharorion cyn diwedd y flwyddyn.
Mae AS Llafur Alun a Dyfrdwy, Mark Tami, wedi cefnogi ymgyrch teulu Jade Ward.
Dywedodd: "Rwy'n falch iawn bod y llywodraeth o'r diwedd wedi newid eu meddyliau er iddyn nhw ddweud wrtha'i am mor hir nad oedd modd gwneud."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2022