Teulu'n galw am newid deddf wedi llofruddiaeth eu merch

  • Cyhoeddwyd
Karen Robinson, Philippa Ward a Paul Ward

Mae rhieni dynes o Sir y Fflint gafodd ei llofruddio gan ei gŵr wedi galw am newid y gyfraith fel nad oes ganddo lais ym magwraeth eu plant.

Cafodd Jade Ward, oedd hefyd yn cael ei hadnabod fel Jade Marsh, 27, ei thrywanu a'i thagu gan Russell Marsh yn ei chartref yn Shotton ym mis Awst 2021.

Roedd pedwar plentyn y cwpl yn cysgu yn y tŷ drwy gydol yr ymosodiad.

Cafodd Marsh ei garcharu am oes yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, ac fe fydd yn treulio o leiaf 25 mlynedd dan glo.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jade Ward, neu Jade Marsh, yn 27 oed ac yn fam i bedwar o blant

Mae rhieni Jade Ward, Karen Robinson a Paul Ward, wedi dechrau deiseb yn galw ar y Senedd yn San Steffan i newid y ddeddf fel nad oes gan riant sydd wedi lladd cymar unrhyw hawl dros eu plant tra'u bod yn y carchar.

Dywedodd Karen Robinson ei bod hi wedi'i synnu pan sylweddolodd hi bod gan Russell Marsh lais ym mywydau'r bechgyn o hyd.

"Fe gymerodd o fam y bechgyn, ac mae o'n eistedd yno ac mae ganddo lais dros yr hyn sy'n digwydd gyda nhw.

"Fe gymerodd o lais fy merch i ffwrdd. Ry'n ni'n mynd trwy ddigon heb ei gael o'n ymyrryd," meddai.

Mae Ms Robinson yn gobeithio bydd cyflwyno deddf newydd - deddf Jade - yn help i deuluoedd eraill all wynebu'r un sefyllfa yn y dyfodol.

"Mae'n rhaid i rywbeth da ddod o farwolaeth Jade," meddai.

"Os allwn ni helpu teuluoedd eraill fydd, yn anffodus, yn mynd trwy'r un peth... os allwn ni godi'r pwysau erchyll hyn oddi ar deulu arall, yna byddai hynny yn wych."

'Dim syniad beth oedd i ddod'

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Russell Marsh yn treulio o leiaf 25 mlynedd yn y carchar ond mae dal llais ganddo dros fywydau'r plant ar hyn o bryd

Clywodd y llys bod Marsh, 29, yn genfigennus, yn rheoli bywyd ei wraig, ac y byddai'n ei sarhau o flaen eraill a'i ffonio hi'n gyson.

Yn ôl ei thad, Paul Ward, doedd ganddyn nhw ddim syniad o wir natur Russell Marsh.

"Am ddeng mlynedd fe roddodd yr argraff cwbl wahanol o'r hyn oedd o - y person bywiog 'ma.

"Ond nid felly oedd o, roedd o'n llofrudd oeraidd. Roedd yn berson cwbl ffug, a doedd ganddom ni ddim syniad beth oedd i ddod."

Mae Mr Ward hefyd wedi apelio ar bobl i fod yn fwy ymwybodol o achosion posib o drais yn y cartref

"Os oes unrhyw un yn dechrau amau bod hwn yn digwydd, ffoniwch yr heddlu oherwydd mae o yn erbyn y gyfraith. Byddwch yn bryderus, curwch ar y drws... achos doedden ni ddim wedi gweld hwn yn dod."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd mam Jade Ward, Karen Robinson, ar ôl yr achos llys bod "dim geiriau" i ddisgrifio poen y teulu

Wrth ddedfrydu Russell Marsh i leiafswm o 25 mlynedd yn y carchar, dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands wrtho ei fod yn llawn hunan-dosturi a chenfigen pan aeth i gartref Ms Ward, a chyflawni ymosodiad "milain a didostur".

Daethpwyd o hyd i'w chorff ar y gwely, wedi'i orchuddio gan ddillad a blanced, ac roedd drws y llofft wedi cael ei glymu gyda chortyn.

Gyrrodd Marsh ei blant i dŷ ei rieni yn Saughall, Sir Caer, ac aeth at yr heddlu yn ddiweddarach gan ddweud ei fod wedi gwneud "rhywbeth drwg" i'w wraig.

Disgrifiad o’r llun,

Edwin Duggan, ffrind i'r teulu, sydd wedi helpu gyda pharatoi'r ddeiseb

Mae'r ddeiseb sy'n galw am newid yn y ddeddf wedi'i pharatoi gan ffrind i'r teulu, Edwin Duggan.

Mae'n gobeithio bydd modd newid y ddeddf fel bod rhieni yn colli hawliau dros eu plant tra'u bod yn y carchar.

"Os yw rhywun yn cymryd mam y plant i ffwrdd trwy ei lladd, mae'n rhaid iddyn nhw ildio'r hawl drostyn nhw, oherwydd mae'n gwbl amlwg nad ydyn nhw'n poeni am y plant...

"Oherwydd tasen nhw yn poeni, fydden nhw ddim wedi gweithredu fel y gwnaethon nhw."

Mae gan y ddeiseb ychydig dros 15,000 o enwau hyd yma, ac os yw'n cyrraedd 100,000 fe fydd y senedd yn San Steffan yn ystyried ei thrafod.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae disgwyl i farnwyr roi lles plant yn gyntaf ac i bob pwrpas maent yn gallu tynnu pob hawl gan riant sydd wedi llofruddio'r llall."

Pynciau cysylltiedig