Dod i 'nabod cyflwynydd Swyn y Sul, Eilir Owen Griffiths
- Cyhoeddwyd
Eilir Owen Griffiths yw cyflwynydd y gyfres ddiweddara' o Swyn y Sul ar BBC Radio Cymru.
Yn adnabyddus fel arweinydd Côr CF1 yng Nghaerdydd, mae hefyd yn gyfansoddwr toreithiog ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant. Dyma gyfle i ddod i'w adnabod yn well:
Yn ddiweddar, gwnaethoch chi ymddangos ar bennod o Dechrau Canu Dechrau Canmol, a bod yn agored iawn am y trafferthion rydych chi wedi eu cael dros y blynyddoedd gyda'ch iechyd meddwl. Pam eich bod chi wedi penderfynu agor fyny am hyn, ac ydych chi'n teimlo fod hyn wedi helpu?
Penderfynais rannu fy stori i helpu eraill, sydd o bosib yn dioddef yn dawel bach ac yn cuddio sut mae nhw wir yn teimlo. Dyna 'nes i am mor hir a daeth popeth yn ormod.
Efallai drwy glywed yr hyn yr oeddwn i wedi bod drwodd byddai eraill yn gallu gwneud y cam cyntaf 'na o ofyn am help.
Beth ydi un o'r digwyddiadau sydd wedi codi y mwyaf o gywilydd arnoch chi mewn cyngerdd neu gystadleuaeth gorawl?
Wel, nid rwbeth ar lwyfan ond 'na'i byth anghofio'r hen ddynes gefn llwyfan yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i fyny tu ôl i mi, rhoi ei dwy law ar bob un o fy mochau pen ôl a wiglo fo gan ddweud "Ewadd, dwi'n licio gweld y pen ôl 'ma yn symud!"
Dwi'n cymryd mai cyfeirio at pan dwi'n arwain mae hyn, felly dwi wedi ceisio gwisgo siacedi sy'n cyfro'r pen ôl ers hynny!
Rydych chi'n fab i weinidog ac wedi eich magu yn y capel - pa mor bwysig ydi eich ffydd i chi?
Mae fy magwraeth yn y capel yn hynod bwysig i mi ac mewn gwirionedd wedi gosod y sylfaeni i bopeth dwi'n ei wneud. Mae fy newisiadau o repertoire yn aml iawn yn tynnu ar ddeunydd cysegredig. Dwi'n teimlo cyswllt cryf tuag at y testun.
Gyda phwy fyddech chi'n cael pryd o fwyd, a pham?
Dwi'n sôn ar y rhaglen am un stori sydd wedi digwydd go iawn i mi ble cefais noson o yfed gyda Burt Bacharach, Paul Mealor a Terry Waite...! Noson anhygoel yn trafod cerddoriaeth tan yn hwyr iawn i'r nos gyda thri mor arbennig.
Felly dwi ddim yn siŵr pwy fyswn i'n ei gael ond yn sicr byddai Beethoven yn foi hynod ddiddorol!
Beth ydi'r profiad cerddorol gorau ydych chi erioed wedi ei gael?
Mae mwy nag un... Perfformio fy ngwaith corawl cyntaf erioed, cantata fodern o'r enw Gorffennwyd gyda Lleuwen Steffan, Llew Davies, Dave Taylor, Richard Phillips a Marc Skone yn Eglwys Central College Iowa, UDA gyda chôr siambr y coleg yn canu yn Gymraeg.
Yna, yn fwyaf diweddar arwain fy symffoni gyntaf gyda chôr unedig CF1 a Chôr Caerdydd, Rhys Meirion, Steffan Lloyd Owen, Glain Rhys a Luke McCall. Er fy mod yn mwynhau yr arwain rwy'n teimlo mai cyfansoddwr ydw i gyntaf.
Ac wrth gwrs, CF1 yn ennill teitl Côr y Byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2022!
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Sut ydych chi'n mynd ati i ysgrifennu darn o gerddoriaeth? Ydi syniadau yn dod ar unrhyw adeg neu oes rhaid neilltuo amser?
Mae syniadau yn dod i mi o bob man. Ond dwi wastad yn dweud bod y syniadau mawr yn dod yn y bath, syniadau canolig yn y gawod a rhai bach ar y tŷ bach!
Ond yn ddifrifol, fy mhroses yw papur a phensel wrth y piano gyntaf a datblygu sketches o'r gwaith yna symud i'r cyfrifiadur i drefnu'r cyfanwaith.
Sut gerddoriaeth hoffech chi ei gyfansoddi?
Hoffwn roi cynnig ar ysgrifennu opera. Dwi wedi ysgrifennu pum sioe gerdd, felly braf fyddai arbrofi yn y maes yma.
Mae pawb yn gwybod pa mor bwysig ydi cerddoriaeth i ti - ond oes gen ti ddiddordeb cudd?
Lego! Dwi wrth fy modd gyda Lego! Hefyd dwi wrth fy modd gyda rhaglenni murder mystery.
Pa fath o gerddoriaeth y gall wrandawyr Swyn y Sul ei disgwyl?
Popeth; o Mozart i Madonna! Dwi 'di ceisio cynnwys darnau sydd wedi dylanwadu arna i, darnau sydd wedi bod yn bwysig i mi ond hefyd darnau sydd yn herio'r gwrandäwr i wrando ar rywbeth anarferol neu hollol newydd.
Hefyd o ddiddordeb: