Arestio chwech yn dilyn tanau yng Ngwesty Parc y Strade

  • Cyhoeddwyd
Gwesty Parc y StradeFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ffenestri'r gwesty eu torri ar ôl i brotestwyr wthio heibio ffensys diogelwch

Mae chwech o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn cyfres o "ddigwyddiadau pryderus" mewn gwesty yn Llanelli dros y penwythnos.

Roedd grŵp o brotestwyr wedi ymgasglu tu allan i Westy Parc y Strade ddydd Sadwrn a dydd Sul, gydag adroddiadau bod tanau wedi eu cynnau yn fwriadol, a bod nifer o bobl wedi gwthio heibio ffensys diogelwch.

Dros y misoedd diwethaf mae ymgyrchwyr wedi bod gwrthwynebu cynlluniau'r Swyddfa Gartref i gartrefu ceiswyr lloches ar y safle.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn disgwyl gweld rhagor o bobl yn cael eu harestio, a bod y golygfeydd diweddaraf yn arwydd o "ddirywiad pellach mewn ymddygiad".

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu bod swyddogion wedi gorfod delio â cherbyd oedd wedi ei roi ar dân yn hwyr nos Sadwrn.

Cafodd dyn 48 oed o Gaerffili a dwy ddynes 52 a 53 oed o Loegr eu harestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae protestiadau wedi bod yn digwydd yn gyson ar y safle ers rhai misoedd

Dydd Sul, roedd protestwyr eisoes wedi bwriadu gyrru beiciau modur heibio'r safle, ond er bod swyddogion wedi ceisio eu hatal, aeth sawl unigolyn ati i wthio heibio ffensys diogelwch.

Ar ôl llwyddo i basio'r ffensys hynny, cafodd adeilad y gwesty ei ddifrodi, gyda nifer o ffenestri'n cael eu torri.

Bu'n rhaid i'r gwasanaethau brys ddelio a thân arall ar lawr gwaelod yr adeilad nos Sul.

Ar y pryd, yn ôl swyddogion, roedd tân gwyllt ac eitemau eraill yn cael eu taflu, a cherbydau yn cael eu symud er mwyn atal y gwasanaeth tân rhag cael mynediad i'r safle.

Mae dyn 40 oed a dynes 44 oed o ardal Caerfyrddin wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol, tra bod dyn 66 oed o Lanelli wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio atal gwaith y gwasanaethau brys.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ross Evans fod yr heddlu wastad wedi ceisio cydnabod hawl pobl i brotestio, ond fod ymddygiad rhai unigolion dros y dyddiau diwethaf wedi mynd yn llawer rhy bell.

Pynciau cysylltiedig