Dim gweithredu pellach wedi marwolaeth merch 8 oed

  • Cyhoeddwyd
Maes y Deri
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Emily Tredwell-Scott yn ardal Maes-y-Deri yn Llanbedr Pont Steffan yn Rhagfyr 2022

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau na fydd unrhyw weithredu pellach yn erbyn menyw a gafodd ei harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn wyth oed fu farw yng Ngheredigion.

Bu farw Emily Tredwell-Scott yn ardal Maes-y-Deri yn Llanbedr Pont Steffan nos Iau, 22 Rhagfyr 2022.

Roedd yr heddlu'n ei thrin fel "marwolaeth heb esboniad" yn wreiddiol, ond maen nhw bellach yn dweud mai o achosion naturiol y bu hi farw.

Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) hefyd yn ymchwilio i gysylltiadau â math ymledol Strep A.

Cafodd menyw 33 oed ei harestio wedi'r farwolaeth ar amheuaeth o esgeuluso plentyn, ond mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau na fydd gweithredu pellach yn ei herbyn.