Cwtogi HS2 yn 'dipyn o ffars' o safbwynt Cymreig
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr gwleidyddol wedi disgrifio cynllun HS2 fel "dipyn o ffars" o safbwynt Cymreig, gyda disgwyl y bydd y cymal rhwng Birmingham a Manceinion yn cael ei ganslo.
Mae disgwyl cyhoeddiad ar ddyfodol ail ran y cynllun gan y Prif Weinidog Rishi Sunak ddydd Mercher yng nghynhadledd y Ceidwadwyr, wedi dyddiau o ansicrwydd ynghylch ei ddyfodol.
Ond mae'r BBC ar ddeall fod Mr Sunak am gyhoeddi canslo'r cymal hwnnw o'r cynllun rheilffordd cyflym.
Yn ôl grŵp Gweithwyr Proffesiynol Busnesau Wrecsam byddai gwella'r rhwydwaith sydd eisoes yn bodoli yn fwy o hwb i'r ardal na HS2.
Ond mae Partneriaeth Growth Track 360, sy'n gweithio i wella'r cysylltiadau trên ar hyd ffin gogledd Cymru a Lloegr, o blaid cynllun llawn HS2, gan ddadlau bod yna fanteision i Gymru.
'Dipyn o ffars'
Mae dyfodol HS2 wedi hawlio'r penawdau ers dechrau cynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinion.
Yr ail ran o'r prosiect yn benodol sy'n derbyn y sylw, sef y rheilffordd sy'n cysylltu Birmingham a Manceinion.
Mae'r BBC ar ddeall bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ddydd Mercher fod y cymal hwnnw i'w ddileu.
Gyda chostau'r prosiect yn codi, mae disgwyl i Mr Sunak nodi ystod o brosiectau amgen yng ngogledd Lloegr a Chymru, y mae'n debygol o ddadlau eu bod yn cynrychioli gwell defnydd o arian cyhoeddus ac y gellir eu cyflawni'n gynt.
Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, o safbwynt Cymreig mae HS2 wedi bod yn "dipyn o ffars".
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fe ddywedodd: "Mae astudiaethau ardrawiad economaidd llywodraeth Llundain ei hun wedi dadlau bydd Cymru'n colli allan oherwydd HS2, hyd yn oed os fysan nhw wedi adeiladu'r holl beth, gan fod o'n symud gweithgarwch economaidd i le maen nhw'n rhoi'r lein.
"Felly y ddadl gan lot o bobl yng Nghymru ydi ddylan ni fod yn cael arian ychwanegol fel mae'r Alban a Gogledd Iwerddon yn ei gael, ond ar y llaw arall mae'r llywodraeth yn Llundain yn dadlau 'o na, geith rhyw fath o effaith bositif yng ngogledd Cymru'.
"Mae'n bosib fysan nhw wedi rhoi ambell i drên uniongyrchol o Gaergybi i drio dadlau ei fod o'n cael rhyw fath o ardrawiad, ond chwilio am ffordd i gyfiawnhau eu penderfyniad oeddan nhw yn fy marn i.
"Holl syniad HS2 oedd newid cydbwysedd economaidd Lloegr... ac os ydy Sunak yn gwneud y penderfyniad yma, mae'n fethiant hanesyddol o ran bwriad gwreiddiol y cynllun gan fod o am ddwysau'r union anghyfartaledd oedd y cynllun yma i fod i leddfu.
"Mae 'na filiynau o bunnoedd o wastraff yn sgil hyn."
'Isio gwario'r arian eu hunain'
Fe ychwanegodd: "'Da ni ddim yn gwybod beth mae [Sunak] am gyhoeddi heddiw, ydi o'n mynd i roi yr arian i Lywodraeth Cymru er mwyn rhoi budd-daliadau i gwmnïau bysus neu rywbeth, neu gyhoeddi cynllun i wario rhywbeth ar reilffyrdd gogledd Cymru.
"Ond os ydi record llywodraethau Ceidwadol diweddar yn rhyw fath o arweiniad, yna mae'n debyg fyddan nhw isio gwario'r arian eu hunain, a ddim cynnwys Llywodraeth Cymru yn yr holl beth.
"A fydd o ddim yn strategol - does 'na ddim cynllunio mawr o ran gwariant yng ngogledd Cymru wedi bod yn digwydd - a dwi'n ofni mai jyst gwario arian i gadw ychydig o wyneb fydd o."
Ond anghytuno gyda sylwadau'r Athro Wyn Jones wnaeth Glyn Davies, Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig a chyn-aelod seneddol Maldwyn.
"Dwi ddim yn hoffi defnyddio geiriau fel ffars - dwi eisiau clywed yr araith a beth fydd yr effaith ar ogledd Cymru," meddai ar Dros Frecwast.
"Bydd llawer yn poeni am beth fydd yr effaith ar ogledd Cymru. Gawn ni weld beth fydd Rishi Sunak yn ei ddweud heddiw."
Pan ofynnwyd iddo a ddylai Cymru gael arian yn sgil HS2, dywedodd Mr Davies "Dwi'n gwybod pam fod pobl yn dweud hynny, ond cyn dweud beth dwi'n meddwl, dwi eisiau gwybod yn union beth sydd yn mynd i ddigwydd yn lle.
"Os bydd HS2 yn newid - bydd bilynnau yn cael ei arbed. Os fydd hynny yn digwydd, dwi eisiau gwybod beth fydd yn digwydd yn lle hynny.
"Byddai pawb yng Nghymru yn hapus i weld hynny [arian ychwanegol], ond dwi ddim eisiau dweud cyn gwybod beth fydd yn digwydd. Bydd rhaid i ni aros."
'Ddim yn rhagweld unrhyw effaith bositif'
O dan y cynlluniau gwreiddiol fe gafodd teithwyr o ogledd Cymru addewid o deithiau cyflymach i Lundain oherwydd gorsaf HS2 yn Crewe.
Dyma'r rheswm am ddynodi'r prosiect yn un i Gymru a Lloegr.
Ond anghytuno â hynny mae grŵp o fusnesau yn Wrecsam, gan ddadlau fod buddsoddi mewn gwasanaethau lleol yn bwysicach.
Dywedodd Ceri Jones, sy'n rhan o'r grŵp: "'Da ni ddim yn rhagweld unrhyw effaith positif i Wrecsam.
"Oni bai bod nhw'n creu cysylltiad gwell gyda Crewe does dim byd yn mynd i newid.
"Dydi gallu teithio o Crewe i Birmingham neu Lundain bach yn gyflymach fawr o help os nad yw'r cysylltiad o ogledd Cymru i Crewe yn gwella hefyd.
"'Da ni ddim yn gweld dim gwellhad o gwbl i'r drafnidiaeth yn lleol ac mae'n gwneud pobl yn reit flin. Dyna fyddai'n gwella pethau i ni yma."
'Ail gymal yn hynod bwysig i Gymru'
Ond nid pawb sy'n cytuno.
Mae Ian Roberts yn is-gadeirydd partneriaeth Growth Track 360 - grŵp sy'n gweithio i wella'r cysylltiadau trên ar hyd ffin gogledd Cymru a Lloegr.
Maen nhw'n annog Prif Weinidog y DU i gadw at y cynllun gwreiddiol drwy adeiladu'r cysylltiad rhwng Birmingham a Manceinion.
Dywedodd Mr Roberts: "Dwi'n meddwl bod ail gymal HS2 yn hynod o bwysig i ogledd Cymru.
"Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi addo'r cysylltiad yma i ni ac felly mae angen sicrhau bod o'n digwydd.
"Mae'r hwb yng ngorsaf Crewe yn rhoi cyfle i ni yma - cyfle i drigolion a chyfle newydd i fusnesau wedi cyfnod anodd."
Costau uwch a thoriadau
Bwriad prosiect HS2 yw creu cysylltiadau rheilffordd cyflym rhwng Llundain a dinasoedd mawr yng nghanolbarth a gogledd Lloegr.
Y nod yw gostwng amseroedd teithio, creu mwy o le ar y rhwydwaith rheilffyrdd a mwy o swyddi y tu allan i Lundain.
Ond mae'r prosiect wedi wynebu oedi, costau uwch a thoriadau, ac yn 2021 fe wnaeth y llywodraeth ddileu'r cymal i Leeds.
Dros y dyddiau diwethaf mae'r ansicrwydd ynghylch dyfodol y cymal rhwng Birmingham a Manceinion wedi tyfu, gyda sôn y bydd Llywodraeth y DU yn cefnu ar ail ran y cynllun.
'Y gogledd yn colli allan'
Cymysg ydi'r farn ymhlith teithwyr gorsaf drenau Bangor am hynny.
Dywedodd Chris Saville, darlithydd ym Mhrifysgol Bangor: "Yr unig beth rwy'n teimlo'n gryf iawn yn ei gylch yw y dylai Cymru gael ei siâr o arian trwy Fformiwla Barnett.
"Mae'r syniad ei fod yn gynllun i Gymru a Lloegr yn hurt - ar wyneb pethau, yn chwerthinllyd.
"Dwi methu gweld y ddadl i gadw hi'n gynllun Cymru a Lloegr os ydi'r cynllun yn newid fel mae pawb yn sôn ar hyn o bryd."
Ychwanegodd: "Yn amlwg mae'n llawer iawn o arian i'w wario ar bethau. Ac i bobl yn ardal Manceinion byddai pethau'n gwella'n sylweddol mae'n siŵr.
"Felly, dwi'n gallu deall pobl yn gwylltio'n fawr os nad yw'r prosiect yn digwydd yn ei gyfanrwydd."
Wrth aros am ei thrên i Crewe dywedodd Helen Wyn bod hwn yn esiampl glir arall o'r "gogledd yn colli allan".
"Wrth gwrs mae'r cymal yn y de wedi digwydd a nawr y cysylltiad i'r gogledd ddim," dywedodd.
"Mae'n digwydd dro ar ôl tro. Byddai hwn wedi bod yn hwb i ni yma yn y gogledd - ffordd gyflym o gyrraedd Llundain.
"Hoffwn weld y prosiect yn mynd yn ei flaen ond dwi ddim yn dal fy ngwynt."
'Heb benderfynu eto'
Mewn cyfweliad gyda'r BBC ddydd Mawrth dywedodd Rishi Sunak ei fod "heb benderfynu ar unrhyw beth eto".
Ychwanegodd ei fod am "gymryd fy amser i sicrhau fy mod yn gwneud y penderfyniad gorau dros y genedl, achos dyna mae pleidleiswyr yn disgwyl gan Brif Weinidog".
Mae disgwyl cadarnhad y naill ffordd neu'r llall ddydd Mercher wrth i Rishi Sunak annerch cynhadledd ei blaid am 12:00.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd20 Mai 2022